{"id":19381,"date":"2023-06-28T14:59:50","date_gmt":"2023-06-28T14:59:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.anthem.wales\/?page_id=19381"},"modified":"2023-10-16T11:51:26","modified_gmt":"2023-10-16T11:51:26","slug":"pwy-rydym-wedii-ariannu","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/","title":{"rendered":"Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-page\" data-elementor-id=\"19381\" class=\"elementor elementor-19381\">\n\t\t\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-45de843 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"45de843\" data-element_type=\"section\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-2da710e\" data-id=\"2da710e\" data-element_type=\"column\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-0d319a5 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"0d319a5\" data-element_type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Pwy rydym wedi'i ariannu<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-9042151 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"9042151\" data-element_type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-b5d3553\" data-id=\"b5d3553\" data-element_type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap\">\n\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-577ef91 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"577ef91\" data-element_type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-d85a80f\" data-id=\"d85a80f\" data-element_type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-37ce837 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"37ce837\" data-element_type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p class=\"p1\">Rydym wedi rhoi bron i \u00a3295,323 to 35 o sefydliadau hyd yma drwy Gronfa Atsain.<\/p><p class=\"p1\">Dyma grynodeb byr o&#8217;r prosiectau sydd wedi\u2019u hariannu gan Atsain:<\/p><p class=\"p1\"><b>Cylch 1 &#8211; Ebrill 2022<\/b><\/p><p class=\"p1\"><b>Art &amp; Soul Tribe https:\/\/www.artandsoultribe.co.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Art And Soul Tribe wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan a llais i grwpiau sydd ar y cyrion, sydd wedi\u2019u hallg\u00e1u a\u2019u cam-drin, ac unigolion sydd wedi wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae prosiect Bridging the Gap yn caniat\u00e1u i bobl ifanc leol 13-18 oed yn ne-ddwyrain Cymru na fyddai \u00e2 mynediad i hyfforddiant cerddorol fel arfer gael y cyfle i fyfyrio, dysgu ac adrodd stor\u00efau drwy gyfrwng cerddoriaeth a sain. Gyda phwyslais penodol ar niwroamrywiaeth, iselder a gorbryder, amddifadedd economaidd a cheiswyr lloches, mae\u2019n gweithio gyda charfan o bobl ifanc i greu a datblygu gofodau diogel a sesiynau i ddysgu sgiliau newydd, dod i gyswllt \u00e2 cherddorion proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, a chydweithio i gydgynhyrchu digwyddiad o berfformiadau terfynol mewn lleoliad cerddoriaeth lleol.<\/p><p class=\"p1\"><b>Beacons https:\/\/www.beacons.cymru\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Beacons yn sefydliad sy\u2019n gweithio ledled Cymru. Ei nod yw grymuso\u2019r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy\u2019n awyddus i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae\u2019n ceisio chwalu&#8217;r rhwystrau i bobl ifanc sy&#8217;n ystyried eu hunain yn rhywedd a ymyleiddiwyd \u2013 menywod, anneuaidd a dynion traws \u2013 sy&#8217;n ceisio dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae\u2019n datblygu sgiliau gweithlu newydd ac yn helpu i fynd i\u2019r afael ag anghydbwysedd yn y rhyweddau yn y sector cerddoriaeth fyw yng Nghymru.<\/p><p class=\"p1\"><b>Canolfan Gerdd William Mathias https:\/\/cgwm.org.uk\/en\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant cerddorol a phrofiadau perfformio cerddorol o\u2019r safon uchaf yng ngogledd Cymru, gan feithrin mwynhad a chyfranogiad o gerddoriaeth. Dros gyfnod o flwyddyn, mae\u2019r prosiect hwn yn datblygu ac ehangu darpariaeth gerddorol i blant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd a Sir Ddinbych drwy gynnal clybiau cerdd a sesiynau arddangos mewn partneriaeth \u00e2 theuluoedd ac asiantaethau, a sesiynau cerddoriaeth mewn ysgol feithrin newydd i blant anabl.<\/p><p class=\"p1\"><b>Deaf Hub Wales https:\/\/www.deafhub.wales\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Deaf Hub (Wales) yn darparu cymorth a gweithgareddau sy\u2019n cyfoethogi bywydau pobl F\/fyddar a\u2019u lles yn gyffredinol. Mae&#8217;r prosiect yn cynnig sesiynau cerdd sy&#8217;n edrych ar weithgareddau, celfyddydau byddar, offer a genres i blant a phobl ifanc B\/byddar, gan arwain at arddangosfa yn yr \u0174yl Celfyddydau Byddar sydd ar y gweill yn 2023.<\/p><p class=\"p1\"><b>Celfyddydau Anabledd Cymru<\/b><b> https:\/\/disabilityarts.cymru\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Celfyddydau Anabledd Cymru yw\u2019r prif sefydliad ar gyfer Celfyddydau Anabledd yng Nghymru. Mae prosiect Llwybrau at Gerddoriaeth yn dwyn pobl ifanc anabl a Byddar o bob rhan o Gymru ynghyd i arwain a datblygu chwech o weithdai i bobl ifanc 16-30 oed, gan roi offer pwrpasol a hygyrch iddynt ddechrau cyfansoddi, chwarae a pherfformio cerddoriaeth. Dyma\u2019r cynllun cerddoriaeth cyntaf ledled Cymru i gael ei arwain gan bobl anabl ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau bod yn creu cerddoriaeth gyfoes.<\/p><p class=\"p1\"><b>Gwallgofiaid http:\/\/cellb.org\/gwallgofiaid\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Gwallgofiaid yn darparu gweithdai a chyfleoedd yn y celfyddydau i bobl ifanc Bro Ffestiniog a Gwynedd. Mae\u2019r prosiect yn defnyddio cerddorion a chynhyrchwyr proffesiynol i gynnal sesiynau cerddoriaeth a recordio i bobl ifanc mewn stiwdio newydd ym Mro Ffestiniog.<\/p><p class=\"p1\"><b>Media Academy Cymru https:\/\/mediaacademycymru.wales\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Media Academy Cymru ar flaen y gad yng Nghymru wrth gefnogi plant a phobl ifanc pan fo angen cymorth arnynt neu rywle diogel i droi. Mae\u2019r prosiect hwn yn cynnal dosbarthiadau meistr cerddoriaeth misol ar draws cymunedau llai cefnog yn ne Cymru. Gan weithio gyda dau ymarferydd yn y diwydiant a rhwydwaith o bartneriaid, mae\u2019r prosiect yn annog rhai sy\u2019n wynebu rhwystrau sylweddol i gerddoriaeth, gan gynnwys pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol, cymunedau ethnig amrywiol, pobl niwroamrywiol a\u2019r bobl ifanc hynny nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth ar hyn o bryd. Mae\u2019r dosbarthiadau meistr yn helpu\u2019r bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u brandiau ac yn cynnig cymorth i ymuno \u00e2 rhaglenni cerddoriaeth mewn addysg ehangach neu gyflogaeth.<\/p><p class=\"p1\"><b>Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru <\/b><b>https:\/\/www.nyaw.org.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio i ddatblygu perfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru a rhai sydd \u00e2 photensial drwy gyfleoedd hyfforddiant a pherfformio o\u2019r radd flaenaf. Prosiect cerddoriaeth gyfoes yw Cerdd y Dyfodol sy\u2019n nodi ac yn meithrin cerddorion ifanc addawol o Gymru. Mae\u2019n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o genres cyfoes, o Grime i Indie, ac o Electronica i RnB. Gan greu mynediad i bobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi\u2019u tangynrychioli yng Nghymru, mae\u2019n cynnig profiad helaeth o ddatblygu sgiliau i\u2019w paratoi at yrfa hyfyw yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae Atsain yn cynorthwyo Gig Cerdd y Dyfodol i fynd ar daith i rai o brif leoliadau celfyddydol Cymru ym mis Awst 2022.<\/p><p class=\"p1\"><b>Operasonic http:\/\/www.operasonic.co.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Operasonic yn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu p\u0175er creadigol i adrodd stor\u00efau a dathlu eu cymunedau, a\u2019u galluogi i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth. Mae\u2019r prosiect hwn, sy\u2019n rhan o bartneriaeth Hwiangerddi Carnegie, yn defnyddio hwiangerddi i archwilio sut gall cerddoriaeth fod yn fwy hygyrch a deniadol i blant Byddar ifanc iawn. Mae\u2019n dod \u00e2 th\u00eem creadigol Byddar a theuluoedd ynghyd i ddatblygu ymarfer newydd.<\/p><p class=\"p1\"><b>Sound Progression<\/b> <b>https:\/\/soundprogression.co.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Sound Progression yn sefydliad yng Nghaerdydd sy\u2019n ymroi i wella bywydau plant a phobl ifanc, yn enwedig rhai 10-25 oed ac o gefndiroedd amrywiol a\/neu economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Mae Next Level wedi\u2019i ddylunio i hybu talentau cerddorol trefol a\u2019u hwyluso i symud i mewn i\u2019r diwydiant cerddoriaeth. Drwy gyfres o weithdai i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a chyd-ymarfer, a phrosiectau pwrpasol dan arweiniad cyfranogwyr i adeiladu portffolios, proffiliau a phartneriaethau, y nod yw meithrin perthnasoedd, llwyfannu cyfleoedd a sefydlu llwybrau dilyniant newydd.<\/p><p class=\"p1\"><b>Canolfan Datblygu Cymunedol De Riverside <\/b><b>\u00a0https:\/\/www.srcdc.org.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae cyllid Atsain yn cynorthwyo ac yn datblygu Prosiect Cerddoriaeth yr Afon \u2013 prosiect amlddiwylliannol a fydd yn pontio\u2019r cenedlaethau ac a fydd yn cynnwys gweithdai drymio, canu ac offerynnau. Mae\u2019r prosiect yn ceisio cynrychioli a bod yn gynrychioliadol o\u2019r holl gymunedau yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, a chreu synnwyr o hawl i gyfleoedd ym maes y Celfyddydau a Diwylliant lle nad ydynt wedi bod yn cael eu cynnig hyd yma.<\/p><p class=\"p1\"><b>Theatr Brycheiniog https:\/\/www.brycheiniog.co.uk\/en<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Theatr Brycheiniog yn darparu rhaglen amrywiol o theatr, dawns, cerddoriaeth ac adloniant yng nghanol Aberhonddu, gan wasanaethu\u2019r dref ac ardaloedd cyfagos Powys, Sir Fynwy a thu hwnt. Mae\u2019r prosiect hwn yn sefydlu gr\u0175p cynhyrchu o bobl ifanc i greu rhaglen gerddorol i\u2019r Theatr. Mae\u2019n datblygu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi\u2019u dylunio a\u2019u harwain gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.<\/p><p class=\"p1\"><b>Trac Cymru https:\/\/trac.cymru\/en\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Trac Cymru yw\u2019r sefydliad datblygu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol. Mae\u2019n cefnogi cymunedau i ymwneud \u00e2 threftadaeth ddiwylliannol fywiog Cymru gan bontio\u2019r cenedlaethau. Mae\u2019r prosiect yn cynorthwyo pobl ifanc ar y cyrion i fynegi eu profiadau personol eu hunain gan ddefnyddio traddodiadau gwerin adrodd stor\u00efau a gwybodaeth gyfunol.<\/p><p class=\"p1\"><b>Wilderness Trust http:\/\/thewildernesstrust.org\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Yn seiliedig mewn dau gapel yn Llanidloes sydd wedi\u2019u trawsnewid i fod yn ganolfannau amgylcheddol, mae\u2019r Wilderness Trust yn defnyddio\u2019r amgylchedd, celf, cynhwysiant cymdeithasol ac addysg i helpu cymunedau i ddysgu, arbrofi, cysylltu, mwynhau natur a thyfu. Mae\u2019r prosiect hwn yn darparu gweithdai cerddoriaeth a chyngherddau i fabanod, plant bach a phlant sydd ag anableddau dysgu.<\/p><p class=\"p1\"><b>Cylch 2 &#8211; Tachwedd 2022<\/b><\/p><p class=\"p1\"><b>Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig<\/b><b> https:\/\/artsactive.org.uk\/language\/en\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn cynorthwyo pawb i fwynhau\u2019r celfyddydau trwy brosiectau addysg, cymunedol ac ymgysylltu \u00e2 chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a\u2019r rhanbarthau cyfagos. Ein nod yw ysgogi&#8217;r dychymyg, a chefnogi dysgu, datblygiad emosiynol a lles. Cawn ein hysbrydoli gan raglen amrywiol Neuadd Dewi Sant, lle rydym wedi ein lleoli, gan ei defnyddio fel catalydd ar gyfer ein gweithgarwch creadigol. Mae prosiect Soundworks Youth yn cynnig sesiwn gerddoriaeth wythnosol i bobl ifanc 11\u201316 oed sydd ag anableddau dysgu ychwanegol. Bydd y sesiynau cerddoriaeth hwyliog a rhyngweithiol hyn o fudd i&#8217;r gr\u0175p sydd fel arfer heb lawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cerddoriaeth.<\/p><p class=\"p1\"><b>Uchelgais Grand <\/b><b>https:\/\/www.swanseagrand.co.uk\/article\/13701\/Grand-Ambition<\/b><\/p><p class=\"p1\">Uchelgais Grand yw\u2019r cwmni cynhyrchu ac ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned sydd wedi\u2019i leoli yn Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn. Mae ein prosiect, sy\u2019n cael ei ariannu gan Atsain, yn cynnig sesiynau wythnosol am ddim yn ystod y tymor i bobl ifanc ledled Abertawe, gan dargedu\u2019r rheini sy&#8217;n wynebu tlodi, sydd wedi\u2019u hallg\u00e1u neu sydd mewn perygl o wynebu rhagfarn neu hiliaeth. Mae\u2019n dod \u00e2\u2019r model llwyddiannus o Bontardawe, Future Blood, i Abertawe, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau \/ talent gerddorol wrth feithrin lles a pherthnasoedd cadarnhaol \u00e2 chyfoedion.<\/p><p class=\"p1\"><b>Little Live Projects https:\/\/www.cardiffchildrenschoir.com\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Little Live Projects yn ysbrydoli pobl ifanc i ffynnu drwy rannu profiadau cerddorol rhagorol gyda cherddorion proffesiynol. Mae ein c\u00f4r plant cymunedol yn estyn croeso cynnes i blant a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy\u2019n wynebu rhwystrau o unrhyw fath. Mae canu a chwarae gyda&#8217;n gilydd yn hybu hyder, hunan-barch a dawn gerddorol wrth i ni ddathlu ein cyfoeth diwylliannol amrywiol drwy ganeuon o bedwar ban byd. Mae C\u00f4r Plant Caerdydd yn g\u00f4r cymunedol cyffrous ar \u00f4l ysgol i blant 5-11 oed. Mae&#8217;r rhai sy&#8217;n cymryd rhan wrth eu bodd \u00e2&#8217;r mwynhad mawr, yr her fawr, a\u2019r gefnogaeth fawr a ddaw o&#8217;u sesiwn wythnosol ac wrth berfformio i\u2019w teuluoedd a&#8217;u ffrindiau. Mae cyllid Atsain yn cynorthwyo ein rhaglen Lleoedd Am Ddim ac \u00e2 Chymhorthdal sy\u2019n denu plant o deuluoedd sy\u2019n wynebu rhwystrau o unrhyw fath, gan ddarparu cyfleoedd a meithrin cydlyniant cymunedol.<\/p><p class=\"p1\"><b>Music Theatre Wales https:\/\/musictheatre.wales\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Ers ein ffurfio ym 1988, mae Music Theatre Wales wedi bod yn rym dros newid a datblygu ym myd opera yn y DU. Yn MTW, cawn ein gyrru gan gred angerddol y gall opera newydd ei chreu ddarparu rhai o\u2019r profiadau mwyaf cyffrous a phwerus, ac rydym wastad wedi bod eisiau rhannu hyn mor eang \u00e2 phosibl. Mae Future Directions yn gwahodd pobl ifanc i greu eu hopera eu hunain, gyda chymorth artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol a chydweithredol.<\/p><p class=\"p1\"><b>C\u00f4r Un Byd Oasis<\/b><b>\u00a0https:\/\/oneworldchoir.co.uk\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Hear our Voice \/ One World Beats \u2013 gweithdai canu, cyfansoddi caneuon a symud wythnosol ar \u00f4l ysgol i bobl ifanc sy&#8217;n ceisio noddfa. Mae C\u00f4r Un Byd Oasis yn croesawu pobl sy\u2019n ceisio noddfa yng Nghaerdydd a\u2019r gymuned ehangach. Ein nod yw dysgu oddi wrth y rhai sy&#8217;n ymwneud \u00e2 ni, gan rannu, tyfu a ffurfio gyda&#8217;n gilydd. Mae ein c\u00f4r yn achubiaeth i lawer o bobl sy&#8217;n mynd ati i ailddechrau eu bywydau mewn gwlad newydd, a hynny\u2019n aml mewn iaith sy&#8217;n gwbl newydd iddyn nhw. Mae iaith cerddoriaeth yn goresgyn y rhwystrau hyn, ac mae ein c\u00f4r yn caniat\u00e1u i bobl wneud ffrindiau newydd ac adeiladu cymuned gyda&#8217;i gilydd.<\/p><p class=\"p1\"><b>The Rock Works https:\/\/therockworks.org\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Rock Works yn cyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth hwyliog, therapiwtig a mynegiannol i unigolion bregus, anodd eu cyrraedd ac sydd wedi ymddieithrio. Mae\u2019r gweithgareddau\u2019n rhoi pwyslais ar blant, pobl ifanc a grwpiau ag anghenion ychwanegol. Mae Breaking Barriers yn cynnal gweithgareddau cyfoes i bobl ifanc ddifreintiedig yn Wrecsam a\u2019r cyffiniau. Drwy gynnal sesiynau yn ein stiwdio yng nghanol Wrecsam ac mewn sesiynau galw heibio arbenigol, clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol, rydym yn cynnig gweithgareddau cerdd sy&#8217;n hwyliog, yn fuddiol ac yn hygyrch i bawb.<\/p><p class=\"p1\"><b>Sistema Cymru &#8211; Codi\u2019r To http:\/\/www.codirto.com\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Cenhadaeth Sistema Cymru &#8211; Codi&#8217;r To yw mynd i&#8217;r afael ag anfantais a thangyflawniad addysgol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 thlodi plant, gan ddefnyddio cerddoriaeth i wella bywydau pobl ifanc a chymunedau. Mae ein prosiect, sy\u2019n cael ei ariannu gan Atsain, yn cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ar draws ein sefydliad drwy gyfres o sesiynau cyfranogol Llais Ieuenctid. Drwy greu cerddoriaeth fynegiannol, fe fyddan nhw\u2019n datblygu sgiliau cyfathrebu ac arwain. Mae\u2019r bobl ifanc yn cydgynhyrchu gweithgareddau gan ddefnyddio cerddoriaeth, symud, cyfansoddiadau a pherfformiadau ar y cyd i gyfleu eu profiadau, eu hanghenion a\u2019u dymuniadau.<\/p><p class=\"p1\"><b>Music Art Digital Abertawe h<\/b><b>ttps:\/\/www.swanseamad.com\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae MAD Abertawe yn gweithio tuag at fyd teg, lle gall pobl fod yn nhw eu hunain a ffynnu!<\/p><p class=\"p1\">Mae\u2019n elusen ieuenctid a chymunedol ar lawr gwlad, sy\u2019n wrth-dlodi, yn wrth-hiliaeth, o blaid cydraddoldeb, ac wedi\u2019i lleoli mewn ardal o amddifadedd uchel. Mae MAD Abertawe yn darparu\u2019r gofod, yr adnoddau a\u2019r offer i bobl ifanc a cherddorion lleol fod yn greadigol, adnoddau sydd fel arall y tu hwnt i\u2019w cyrraedd. Mae UpBeat yn ehangu mynediad i gerddoriaeth i bobl ifanc (11-25 oed, sydd wedi&#8217;u gwthio i&#8217;r cyrion gan ormes systemig, tlodi a gwahaniaethu) yn Abertawe, gan ddarparu gweithdai cerddoriaeth, rhwydweithio a chyfleoedd i ddylanwadu ar newid. Mae\u2019r hyfforddiant yn helpu\u2019r bobl ifanc i ddatblygu sgiliau creadigol, digidol ac entrepreneuraidd ac i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau cerddoriaeth.<\/p><p class=\"p1\"><b>Tanio http:\/\/www.tanio.cymru\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Ers bron i 40 mlynedd mae Tanio wedi bod yn cynnal prosiectau sy&#8217;n defnyddio\u2019r celfyddydau cyfranogol fel arf i ysbrydoli ac ymgysylltu, gan wneud cysylltiadau rhwng pobl a chymunedau. Rydym yn defnyddio dulliau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyflwyno gweithgareddau\u2019r celfyddydau mynegiannol ac yn rhoi blaenoriaeth i weithio gydag unigolion a chymunedau sydd ar y cyrion, yn agored i niwed neu mewn perygl. Mae Tune Up yn darparu gweithgareddau cerddoriaeth greadigol a chyfansoddi caneuon i bobl ifanc ynghyd \u00e2 chefnogaeth lles ac iechyd meddwl. Mae clybiau cerddoriaeth wythnosol ar draws cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn meithrin sgiliau cerddorol a hyder y bobl ifanc.<\/p><p class=\"p1\"><b>Ysbrydoli i Gyflawni https:\/\/www.torfaen.gov.uk\/lgsl\/en\/YoungPeople\/NEETs\/NEETs.aspx<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae prosiect Ysbrydoli i Gyflawni yn rhan o Gyngor Torfaen ac wedi\u2019i sefydlu\u2019n benodol i gefnogi pobl ifanc mewn addysg uwchradd a rhai sydd wedi gadael yr ysgol, sydd fwyaf agored i niwed ac mewn perygl, yn enwedig o beidio \u00e2 symud ymlaen yn llwyddiannus o\u2019r ysgol i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant, ac o beidio ag ymgysylltu&#8217;n gadarnhaol yn eu cymunedau. Mae\u2019r prosiect cerddoriaeth yn cael y bobl ifanc hynny i ymgysylltu&#8217;n gadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth fel yr &#8216;offeryn ysbrydoli&#8217;. Maen nhw\u2019n dysgu sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth a DJ ac yn creu eu sioeau radio eu hunain.<\/p><p class=\"p1\"><b>Cynyrchiadau UCAN https:\/\/www.ucanproductions.org\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Mae Cynyrchiadau UCAN yn gwmni cydweithredol sydd wedi ennill gwobrau yn y celfyddydau creadigol. Ein cenhadaeth yw cefnogi plant a phobl ifanc sydd \u00e2 nam ar eu golwg drwy gynnig mynediad i gyfleoedd sy&#8217;n cynyddu hyder, a datblygu sgiliau a galluoedd, ac sy\u2019n eu helpu i gyflawni eu potensial. Mae\u2019r prosiect hwn yn adnewyddu ac yn datblygu gwaith cyfranogiad cerddorol UCAN gyda phobl ifanc ddall a rhai sydd \u00e2 nam ar eu golwg. Mae\u2019n datblygu canllawiau a thechnegau arferion gorau newydd i&#8217;w rhannu \u00e2 phartneriaid a rhwydweithiau, yn archwilio tir newydd ym maes hygyrchedd technoleg cerddoriaeth, ac yn darparu dyfarniadau achrededig y celfyddydau i gyfranogwyr.<\/p><p class=\"p1\"><b>Wrexham Sounds https:\/\/www.wrexhamsounds.org\/<\/b><\/p><p class=\"p1\">Cenhadaeth Wrexham Sounds yw trawsnewid bywydau ifanc difreintiedig drwy gerddoriaeth, helpu plant a phobl ifanc i fagu hyder a sgiliau a gwella rhagolygon, a darparu sesiynau cerdd, hyfforddiant, cyrsiau, gweithgareddau a chyfleusterau stiwdio i bobl ifanc sydd ddim yn gallu eu defnyddio yn yr ysgol. Mae\u2019r prosiect hwn yn darparu sesiynau cerddoriaeth i Ofalwyr Ifanc gan roi hyder a sgiliau iddyn nhw drwy eu helpu i gynllunio a threfnu cyngerdd i arddangos eu datblygiad.<\/p><p><strong>Clych 3 &#8211; Ebrill 2023<\/strong><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Beacons https:\/\/www.beacons.cymru\/cy<\/span><\/p><p>Nod Amlen yw chwalu&#8217;r rhwystrau i siaradwyr Cymraeg ifanc ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae&#8217;r prosiect yn casglu data empirig sy&#8217;n dystiolaeth o anghenion y bobl ifanc hyn. Bydd y canfyddiadau nid yn unig yn llywio strategaeth, polisi a darpariaeth Cymraeg Beacons Cymru yn y dyfodol, ond bydd ar gael fel troedle i unrhyw sefydliad sy&#8217;n dymuno ei ddefnyddio a&#8217;i weithredu.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Be Extra https:\/\/be-extra.co.uk\/<\/span><\/p><p>Mae&#8217;r prosiect hwn yn creu adnoddau lles digidol drwy gyfrwng cyfansoddi caneuon. Mae pobl ifanc yn cyfansoddi caneuon gan weithio gyda chyfansoddwr proffesiynol, ac wrth wneud hynny bydd yn datblygu adnoddau i hybu lles. Bydd y deunyddiau sy&#8217;n deillio o hyn yn cael eu defnyddio mewn gweithdai gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Cymru. Caiff arddangosfa derfynol ei chynnal yn Oriel Elysium Abertawe.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Prosiect Ieuenctid Cymunedol Cathays a Chanolog https:\/\/cathays.org.uk\/cy\/<\/span><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae&#8217;r prosiect yn darparu sesiynau cerddoriaeth unigol ac i grwpiau, gyda ffocws ar ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac anableddau.\u00a0<\/span><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Maes B https:\/\/maesb.com\/<\/span><\/p><p>Mae&#8217;r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig, gan gynnig gweithdai preswyl i ferched, bechgyn a phobl anneuaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddysgu sgiliau newydd gan rai o brif artistiaid Cymru.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">New Era Talent https:\/\/www.facebook.com\/NewEraTalent\/<\/span><\/p><p>Mae&#8217;r prosiect hwn yn cynnig gweithdai mentora i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau ysgrifennu geiriau caneuon, DJio, cynhyrchu, perfformio, marchnata, codi arian a rheoli digwyddiadau, gan arwain at berfformiad byw.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Pyka https:\/\/www.pyka.wales\/<\/span><\/p><p>Mae Pyka yn credu y dylai cyfleoedd i greu cerddoriaeth effeithiol fod ar gael i bawb. Drwy\u00a0ddull dylunio cydweithredol, mae&#8217;n creu offerynnau cerdd digidol sy\u2019n ystyried hygyrchedd yn y lle cyntaf ac sy&#8217;n rhoi grym cerddorol i bobl ifanc ag anableddau.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">RecRock https:\/\/recrock.co.uk\/<\/span><\/p><p>Mae RecRock yn cynnal clybiau cerddoriaeth rheolaidd yng Nghaerffili yn ystod gwyliau&#8217;r ysgol, gan gynnwys gweithdai a sesiynau meic agored, i wella lles a hyder, a goresgyn rhwystrau i gerddoriaeth fel ynysigrwydd cymdeithasol, allg\u00e1u digidol ac amddifadedd economaidd. Mae&#8217;n partneru \u00e2 Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, ac yn gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;i rwydwaith o glybiau ieuenctid, timau troseddau ieuenctid a thimau iechyd meddwl.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Sound Progression https:\/\/soundprogression.co.uk\/<\/span><\/p><p>Dyluniwyd Live Level i gynyddu sgiliau, cysylltiadau a gwybodaeth am ddiwydiant cerddoriaeth fyw a dyrchafu artistiaid cerddoriaeth Drefol drwy ddatblygu sioeau byw. Gan weithio gydag arbenigwyr i ddatblygu bandiau, rydym yn creu llwybrau newydd i rapwyr a lleiswyr ehangu sylfaen eu cynulleidfa a rhyddhau recordiadau o safon.<\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">The Successors of the Mandingue https:\/\/successors.co.uk\/?lang=cy<\/span><\/p><p>Mae&#8217;r prosiect hwn yn cyflwyno cyfres o weithdai Dathliad Cymru-Affrica am ddim i bobl ifanc ledled Cymru, yn amrywio o ddrymio djembe Affricanaidd i gyfansoddi caneuon, ac yn cynnig lleoedd am ddim yng ngweithdai g\u0175yl Dathliad Cymru-Affrica i blant\/pobl ifanc, drwy ymwneud \u00e2 phrosiectau a sefydliadau ieuenctid.<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu Rydym wedi rhoi bron i \u00a3295,323 to 35 o sefydliadau hyd yma drwy Gronfa Atsain. Dyma grynodeb byr o&#8217;r prosiectau sydd wedi\u2019u hariannu gan Atsain: Cylch 1 &#8211; Ebrill 2022 Art &amp; Soul Tribe https:\/\/www.artandsoultribe.co.uk\/ Mae Art And Soul Tribe wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan a llais i grwpiau sydd ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"elementor_header_footer","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-19381","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v24.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pwy rydym wedi&#039;i ariannu - Anthem<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pwy rydym wedi&#039;i ariannu - Anthem\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu Rydym wedi rhoi bron i \u00a3295,323 to 35 o sefydliadau hyd yma drwy Gronfa Atsain. Dyma grynodeb byr o&#8217;r prosiectau sydd wedi\u2019u hariannu gan Atsain: Cylch 1 &#8211; Ebrill 2022 Art &amp; Soul Tribe https:\/\/www.artandsoultribe.co.uk\/ Mae Art And Soul Tribe wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan a llais i grwpiau sydd ar [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anthem\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-10-16T11:51:26+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"15 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/\",\"url\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/\",\"name\":\"Pwy rydym wedi'i ariannu - Anthem\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-06-28T14:59:50+00:00\",\"dateModified\":\"2023-10-16T11:51:26+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/\",\"name\":\"Anthem\",\"description\":\"Welcome to Anthem. Music Fund Wales\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.anthem.wales\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pwy rydym wedi'i ariannu - Anthem","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Pwy rydym wedi'i ariannu - Anthem","og_description":"Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu Rydym wedi rhoi bron i \u00a3295,323 to 35 o sefydliadau hyd yma drwy Gronfa Atsain. Dyma grynodeb byr o&#8217;r prosiectau sydd wedi\u2019u hariannu gan Atsain: Cylch 1 &#8211; Ebrill 2022 Art &amp; Soul Tribe https:\/\/www.artandsoultribe.co.uk\/ Mae Art And Soul Tribe wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan a llais i grwpiau sydd ar [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/","og_site_name":"Anthem","article_modified_time":"2023-10-16T11:51:26+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"15 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/","url":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/","name":"Pwy rydym wedi'i ariannu - Anthem","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#website"},"datePublished":"2023-06-28T14:59:50+00:00","dateModified":"2023-10-16T11:51:26+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/pwy-rydym-wedii-ariannu\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pwy rydym wedi&#8217;i ariannu"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#website","url":"https:\/\/www.anthem.wales\/","name":"Anthem","description":"Welcome to Anthem. Music Fund Wales","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.anthem.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/19381","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=19381"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/19381\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19820,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/19381\/revisions\/19820"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19381"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}