{"id":10635,"date":"2022-04-05T10:02:11","date_gmt":"2022-04-05T10:02:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.anthem.wales\/?p=10635"},"modified":"2022-04-05T11:39:23","modified_gmt":"2022-04-05T11:39:23","slug":"ein-hymddiriedolwyr-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/","title":{"rendered":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"10635\" class=\"elementor elementor-10635\">\n\t\t\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-c5e4a4a elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"c5e4a4a\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-5234ae3\" data-id=\"5234ae3\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-a37edc6 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"a37edc6\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h2 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Croesawu ein Hymddiriedolwyr Ifanc<\/h2>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-fafd181 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"fafd181\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-5014e41\" data-id=\"5014e41\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-e371b29 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"e371b29\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><span style=\"font-weight: 400;\"><img decoding=\"async\" class=\" wp-image-10268 alignright\" src=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-279x300.jpg\" alt=\"\" width=\"176\" height=\"190\" srcset=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-279x300.jpg 279w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-952x1024.jpg 952w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-768x826.jpg 768w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-74x80.jpg 74w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-1428x1536.jpg 1428w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/VioletCrop-1904x2048.jpg 1904w\" sizes=\"(max-width: 176px) 100vw, 176px\" \/><\/span><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Haia, Violet Hunt-Humphries ydw i. Mi wnes i ymuno \u00e2 theulu Anthem ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Gweinyddol &#8211; Lleoliad Kickstart. A minnau wedi fy magu mewn cartref a oedd yn llawn o gelf a cherddoriaeth, mae fy nghariad at greu, chwarae a pherfformio wedi dyfnhau\u2019n gynyddol. Fel cerddor angerddol ac un sy\u2019n frwd am y diwydiant creadigol, neidiais at y cyfle i gynrychioli\u2019r elusen hyfryd hon a gweithio fel rhan o d\u00eem o bobl frwdfrydig, llawn ysbrydoliaeth, sy\u2019n caru cerddoriaeth. Rwy\u2019n sylweddoli mor bwysig yw barn pobl ifanc a\u2019r gwerth sydd i gerddoriaeth yn eu bywydau. Credaf y dylai eu syniadau a\u2019u barn chwarae rhan fawr wrth ffurfio datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ymuno ag Anthem wedi rhoi\u2019r cyfle i mi weithredu ar y gwerth hwn y mae gen i gymaint o barch ato, a chael perthyn i rywbeth sy\u2019n cael cymaint o effaith.<\/span><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Llais pobl ifanc yw calon ac enaid y gwaith a wnawn yn Anthem, ac ar \u00f4l cyhoeddi galwad am ymddiriedolwyr ifanc 18-25 oed, rydym wrth ein boddau i groesawu wynebau ifanc newydd i\u2019n t\u00eem o Ymddiriedolwyr! Dyma gyflwyno Ella Pearson, Tayla-Leigh Payne a Ryan Singh. Darllenwch i gael clywed am eu taith fel pobl ifanc sy\u2019n frwdfrydig yngl\u0177n \u00e2 cherddoriaeth a sut mae eu hangerdd yn rhan annatod o gefnogi ein gwaith. <\/span><\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-e537eca elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"e537eca\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-c804919\" data-id=\"c804919\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-046e305 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"046e305\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h4 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Ella Pearson<\/h4>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-10aec4f elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"10aec4f\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-189b7fd\" data-id=\"189b7fd\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-563ba6b elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"563ba6b\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><span style=\"font-weight: 400;\"><img decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-10243 alignleft\" src=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ella.jpg\" alt=\"\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ella.jpg 200w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ella-150x150.jpg 150w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ella-80x80.jpg 80w\" sizes=\"(max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/>Myfyriwr yn CBCDC yw Ella, ac mae\u2019n astudio\u2019r obo a\u2019r cor anglais. Mae\u2019n aelod o The Olive Collective (triawd wedi\u2019i ddylanwadu gan gerddoriaeth jazz a gwerin) ac mae\u2019n eirioli\u2019n gryf dros gerddoriaeth ac iechyd meddwl. Ysgrifennodd Ella ddarn i\u2019n gwefan ac ymddangosodd ar bodlediad cerddoriaeth ac iechyd meddwl Anthem, \u2018Don\u2019t Mind the Music.\u2019 Mae Ella wrth ei bodd o gael ei henwi\u2019n Ymddiriedolwr Ifanc Anthem ac mae\u2019n teimlo\u2019n gyffrous yngl\u0177n \u00e2 bod yn rhan o sefydliad mor rhyfeddol!<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n dod \u00e2 chi i d\u00eem Anthem?\u00a0<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Cefais fy nghyflwyno i Anthem drwy eu Fforwm Ieuenctid cyntaf, a coedd yn llawn ysbrydoliaeth i mi. Mi wnes i deimlo ar unwaith fy mod i wedi cael fy nerbyn gan deulu newydd. Roedd clywed gan bobl ifanc eraill a siaradodd mor angerddol am wella mynediad i gerddoriaeth yn fy ysgogi, yn ogystal \u00e2 chael gweld y gwaith pwysig roedd Anthem yn ei wneud. Roeddwn i\u2019n benderfynol o barhau i ymwneud \u00e2\u2019r t\u00eem. Pan welais i fod Anthem yn chwilio am Ymddiriedolwyr Ifanc, roeddwn i\u2019n gwybod mai dyma\u2019r cyfle perffaith i mi barhau i eirioli dros bobl ifanc ym myd cerddoriaeth.\u00a0<\/span><\/p><p><em><strong>Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn?\u00a0<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae cerddoriaeth wedi bod yn amlwg yn fy mywyd ers cyn cof. Pan oeddwn i\u2019n ifanc iawn, byddai fy Nhad-cu yn creu caneuon ac yn eu canu gyda\u2019i git\u00e2r i fy mrawd a mi. Mae fy Nhad hefyd wedi bod yn ddylanwad enfawr ar fy angerdd at gerddoriaeth: mi fyddai\u2019n fy nghyflwyno i fandiau newydd (pa blentyn 7 oed arall fyddai\u2019n mynd i barti pen-blwydd karaoke a gofyn i gael canu \u2018Losing my Religion\u2019 gan REM \u2013 mewn eglwys?!) a churadu rhestrau chwarae arbennig i wrando arnynt yn y car. Fy mhrofiad cyntaf o gerddoriaeth fyw oedd pan aeth fy rhieni \u00e2 ni i \u0174yl Womad pan oedd fy mrawd a minnau\u2019n fach iawn. Cefais fy nghyflwyno i amrywiaeth eang iawn o arddulliau cerddorol o bedwar ban byd, yn ogystal \u00e2 gweld arwr fy mhlentyndod, Peter Gabriel, a dyna oedd y tro cyntaf i mi deimlo ewfforia cerddorol go iawn.<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a\u2019i pherthynas \u00e2 phobl ifanc yng Nghymru?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Gan wybod mor bwysig fu cerddoriaeth yn fy mywyd, rwy\u2019n benderfynol o sicrhau bod gan bobl ifanc eraill fynediad at gerddoriaeth, pwy bynnag ydyn nhw. Rwy wedi cael profiad o salwch meddwl ers oeddwn i\u2019n 12 oed ac mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd hanfodol o ymdopi yn ogystal \u00e2 bod yn ffordd i ddianc. Yn anffodus, mae cymaint o bobl ifanc yn wynebu rhwystrau i gerddoriaeth na allan nhw eu goresgyn, ac o wybod cymaint o ddylanwad mae cerddoriaeth wedi\u2019i chael ar fy iechyd meddwl, dydw i ddim eisiau i unrhyw berson ifanc fod hebddi, yn arbennig o ystyried yr heriau mae cymaint yn eu hwynebu heddiw. Mae cerddoriaeth wedi bod yn therapi i mi ac wedi fy achub i, ac ni allaf ddychmygu bywyd hebddi.<\/span><\/p><p>\u00a0<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-4cc8241 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"4cc8241\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h4 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Ryan Singh<\/h4>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-b84e7a7 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"b84e7a7\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><span style=\"font-weight: 400;\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-10235 alignright\" src=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ryan-Singh-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ryan-Singh.jpg 300w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ryan-Singh-150x150.jpg 150w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Ryan-Singh-80x80.jpg 80w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae gan Ryan radd yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd a gradd Meistr yn y Gyfraith (gan arbenigo mewn Cyfraith Masnach a Llywodraethu). Mae\u2019n mwynhau symud yn yr awyr agored, yn chwarae tennis, padlfyrddio a cherdded ar y traeth gyda\u2019i bedwar sbaniel.<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n dod \u00e2 chi i d\u00eem Anthem?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Pan oeddwn i\u2019n 17, fe gefais i fy mhenodi yn Gyfarwyddwr ar Gwmni Buddiannau Cymunedol, a dyna lle y gwnaeth fy angerdd at gyfarwyddo cwmni gychwyn. Rwy\u2019n ffodus iawn fy mod wedi cael nifer o gyfleoedd i fod yn aelod o Fyrddau Cwmn\u00efau\/Elusennau ac rwy wedi bod yn chwilio am her newydd! Pan glywais i fod Anthem yn edrych am Ymddiriedolwyr newydd, dyma fi\u2019n neidio at y cyfle i wneud gwahaniaeth mewn sector sy\u2019n gymharol newydd i mi \u2013 cerddoriaeth.<\/span><\/p><p><em><strong>Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Fel y rhan fwyaf o bobl, mae\u2019r ddwy flynedd ddiwethaf o frwydro drwy COVID wedi bod yn rhyfeddol o anodd ac mae\u2019n golygu ein bod ni wedi gwneud aberth. Gan nad oeddwn i\u2019n gallu cymdeithasu a mwynhau bywyd cymaint ag oeddwn i wedi arfer, fe wnes i droi at gerddoriaeth fel ffordd i fwynhau amser ar fy mhen fy hun a theimlo fy mod i\u2019n rhan o rywbeth mwy. Roedd cerddoriaeth yn fy ngrymuso fel unigolyn ac ar y cyd ac eraill, ac felly roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio\u2019r diwydiant ymhellach.<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a\u2019i pherthynas \u00e2 phobl ifanc yng Nghymru?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Rwy\u2019n credu\u2019n angerddol bod darparu profiadau newydd, fel cerddoriaeth, i bobl yn gwella eu datblygiad. Mae fy mhrofiadau o weithio gyda phobl ac ar ran pobl fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i Gwmni Buddiannau Cymunedol ac fel Ymddiriedolwr Undeb Myfyrwyr (gyda 30,000 o aelodau) wedi dangos bod gen i, yn greiddiol, awydd i ddatblygu\u2019n bersonol a phroffesiynol. Drwy gyfrannu at y datblygiad hwn, rwy\u2019n credu y gallaf wneud gwahaniaeth i fywydau fy nghyfoedion sy\u2019n byw yng Nghymru, a dyna sy\u2019n fy ngyrru i.<\/span><\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-70bd2f2 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"70bd2f2\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-4786f75\" data-id=\"4786f75\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-4ac2f6f elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"4ac2f6f\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h4 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Tayla-Leigh Payne<\/h4>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-0a1b9c0 elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"0a1b9c0\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-ac6eb1d\" data-id=\"ac6eb1d\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-38bab93 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"38bab93\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><span style=\"font-weight: 400;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-10252 alignleft\" src=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/fullsizeoutput_1d8-1-300x300.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/fullsizeoutput_1d8-1-300x300.jpeg 300w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/fullsizeoutput_1d8-1-150x150.jpeg 150w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/fullsizeoutput_1d8-1-80x80.jpeg 80w, https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/fullsizeoutput_1d8-1.jpeg 724w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Cyfansoddwr \/ dylunydd sain o Abertawe yw Tayla. Bu\u2019n astudio Cyfansoddi a Thechnoleg Greadigol yn CBCDC. Mae Tayla yn gweithio\u2019n llawrydd ar amryw brosiectau fel cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Anfamol, Cynllun Arwain CoDI T\u0177 Cerdd ac Operasonic ac mae\u2019n Weithiwr Cymorth Ieuenctid Cerddoriaeth yn YMCA Abertawe.<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n dod \u00e2 chi i d\u00eem Anthem?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Roeddwn i\u2019n aelod o Fforwm Ieuenctid Anthem a Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru. Pan ddaeth y ddau fforwm i ben, doeddwn i ddim yn barod i adael, a dyna pryd wnaethon nhw gyhoeddi\u2019r alwad am Ymddiriedolwyr Ifanc. Yn ystod fy amser ar y fforwm ieuenctid, roedd yn chwa o awyr iach gweld bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu defnyddio a\u2019u hystyried o ddifri, ac y gallem ni gyfrannu at ddatblygiad y diwydiant cerddoriaeth. Yn yr un modd, mae Anthem yn teimlo fel cymuned amrywiol a chynhwysol \u2013 roedd yno gymaint o bobl ifanc a oedd yn cynrychioli gwahanol rannau o\u2019r diwydiant, ac felly hefyd yn achos aelodau bwrdd Anthem. Rwy eisiau bod yn rhan o\u2019r fenter yma i helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd i gael i mewn i gerddoriaeth.<\/span><\/p><p><em><strong>Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn?\u00a0<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">Rwy\u2019n cofio cael fy nghyfareddu gan gerddorfeydd pan oeddwn i\u2019n iau, ac roedd fy nhad-cu yn arbennig o hoff o gerddoriaeth glasurol. Fe wnes i ddechrau dysgu\u2019r recorder a\u2019r fiol\u00edn yn yr ysgol gynradd ond dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth ffynnu go iawn pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd lle\u2019r oeddwn i\u2019n chwarae\u2019r ffliwt. Roedd y cyfan yn cael ei wneud drwy wersi cerdd peripatetig. Dyna\u2019r ffordd fwyaf ymarferol i ddysgu ar pryd ac rwy wir yn credu na fyddwn i\u2019n gerddor heb y cyfleoedd hynny.<\/span><\/p><p><em><strong>Beth sy\u2019n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a\u2019i pherthynas \u00e2 phobl ifanc yng Nghymru?<\/strong><\/em><\/p><p><span style=\"font-weight: 400;\">O fy mhrofiad personol o gael addysg cerddoriaeth, roedd gweld sut y cefais i gyfleoedd hygyrch drwy wersi peripatetig (a oedd yn llawer mwy posibl na gwersi preifat), yn gwneud i mi eisiau dod o hyd i ffyrdd i hynny barhau ar gyfer pobl ifanc. Yn yr un modd, mae\u2019n ffordd wych i bobl ifanc fynegi\u2019u hunain ac rwy\u2019n credu bod lle i ragor o gyfleoedd. Rwy wedi gweld mor hanfodol y gall cerddoriaeth fod i bobl ifanc drwy fy ngwaith fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cerddoriaeth yn YMCA. Rwy\u2019n credu bod gan bobl ifanc allu gwych i leisio\u2019r hyn maen nhw eisiau ac rydym ni\u2019n creu\u2019r fath gerddorion rhyfeddol yn Nghymru eisoes. Byddai\u2019n wych parhau i ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud \u00e2 cherddoriaeth.<\/span><\/p><p>\u00a0<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Croesawu ein Hymddiriedolwyr Ifanc Haia, Violet Hunt-Humphries ydw i. Mi wnes i ymuno \u00e2 theulu Anthem ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Gweinyddol &#8211; Lleoliad Kickstart. A minnau wedi fy magu mewn cartref a oedd yn llawn o gelf a cherddoriaeth, mae fy nghariad at greu, chwarae a pherfformio wedi dyfnhau\u2019n gynyddol. Fel [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10624,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[17],"tags":[],"class_list":["post-10635","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-anthem"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Croesawu ein Hymddiriedolwyr Ifanc Haia, Violet Hunt-Humphries ydw i. Mi wnes i ymuno \u00e2 theulu Anthem ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Gweinyddol &#8211; Lleoliad Kickstart. A minnau wedi fy magu mewn cartref a oedd yn llawn o gelf a cherddoriaeth, mae fy nghariad at greu, chwarae a pherfformio wedi dyfnhau\u2019n gynyddol. Fel [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anthem\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-04-05T10:02:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-04-05T11:39:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Rhian Hutchings\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Rhian Hutchings\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Rhian Hutchings\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9\"},\"headline\":\"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc\",\"datePublished\":\"2022-04-05T10:02:11+00:00\",\"dateModified\":\"2022-04-05T11:39:23+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/\"},\"wordCount\":1550,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion Anthem\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/\",\"name\":\"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2022-04-05T10:02:11+00:00\",\"dateModified\":\"2022-04-05T11:39:23+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1280},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/\",\"name\":\"Anthem\",\"description\":\"Welcome to Anthem. Music Fund Wales\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9\",\"name\":\"Rhian Hutchings\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Rhian Hutchings\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/anthem.wales\"],\"url\":\"https:\\\/\\\/www.anthem.wales\\\/cy\\\/author\\\/rhianhutchings_ge40w2la\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem","og_description":"Croesawu ein Hymddiriedolwyr Ifanc Haia, Violet Hunt-Humphries ydw i. Mi wnes i ymuno \u00e2 theulu Anthem ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Gweinyddol &#8211; Lleoliad Kickstart. A minnau wedi fy magu mewn cartref a oedd yn llawn o gelf a cherddoriaeth, mae fy nghariad at greu, chwarae a pherfformio wedi dyfnhau\u2019n gynyddol. Fel [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/","og_site_name":"Anthem","article_published_time":"2022-04-05T10:02:11+00:00","article_modified_time":"2022-04-05T11:39:23+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1280,"url":"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Rhian Hutchings","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Rhian Hutchings","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/"},"author":{"name":"Rhian Hutchings","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#\/schema\/person\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9"},"headline":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc","datePublished":"2022-04-05T10:02:11+00:00","dateModified":"2022-04-05T11:39:23+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/"},"wordCount":1550,"image":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg","articleSection":["Newyddion Anthem"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/","url":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/","name":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc - Anthem","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg","datePublished":"2022-04-05T10:02:11+00:00","dateModified":"2022-04-05T11:39:23+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#\/schema\/person\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.anthem.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Violet-Blog-Post-April-22-scaled.jpg","width":2560,"height":1280},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/ein-hymddiriedolwyr-ifanc\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae Violet yn croesawu ein hymddiriedolwyr ifanc"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#website","url":"https:\/\/www.anthem.wales\/","name":"Anthem","description":"Welcome to Anthem. Music Fund Wales","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.anthem.wales\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.anthem.wales\/#\/schema\/person\/e13fc076eca81eb1f6ca4582d20900a9","name":"Rhian Hutchings","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/de9377a252a819d770a4aa969b1b23d17e30508664987d1feeefe85ef8e564fd?s=96&d=mm&r=g","caption":"Rhian Hutchings"},"sameAs":["https:\/\/anthem.wales"],"url":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/author\/rhianhutchings_ge40w2la\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10635","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10635"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10635\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10648,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10635\/revisions\/10648"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10624"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10635"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10635"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.anthem.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10635"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}