anthem_web_bg-01-02-02.png
 

NEWS

 

 
 
 
WNS_211118_Arts_Council_Group_16b.jpg
 

Anthem Chair Announced

Arnout van der Veer will be the inaugural Chair of Anthem, Cronfa Gerdd Cymru. Music Fund Wales.

This new music endowment fund for Wales will help open up opportunities for children and young people and will help musical learners from as young as three years old up to twenty-five develop their skills and talent, and access to musical opportunities. The endowment will not be fully distributing funds until 2021 and so the focus at the moment is on building the fund so that it has long term impact and a lasting legacy.

Welsh Government has supported the inauguration of the Fund and over the past year the Arts Council has been working on the feasibility and set up of Anthem as a charitable company acting to make a difference to young people’s musical opportunities in Wales in the mid to long term.

Commenting today, Education Secretary, Kirsty Williams AM, said:

“Congratulations to Arnout on his appointment as the first chair for Anthem – his skillset and extensive experience within the arts sector will make him a fantastic chair for the Anthem fund.

“Music is at the heart of our nation’s rich heritage, and I want all our young people to have access to music education and the opportunity to develop their talents and skills, regardless of background or ability.

“Anthem truly is a ground-breaking initiative that not only increases access to musical experiences, but also enhances our existing music services by providing our learners with new and exciting opportunities outside of school.”

The Minister for Culture, Tourism and Sport, Lord Dafydd Elis-Thomas AM, warmly welcomed the appointment saying:

“The Welsh Government and Arts Council of Wales have worked together in order to make Anthem a reality.  I’d like to congratulate Arnout on his appointment and I’m sure that his experience will enable him to meet the challenge of building the fund and taking this ground-breaking project forward, working in partnership with the music industry across the UK – ensuring that many more young people  can discover and share in the joy of music.”

Arts Council of Wales Arts Director, David Alston, also said:

“We are very pleased that Arnout van der Veer has agreed to take up the crucial role of inaugural Chair of Anthem. He brings with him vast experience of both business and the arts having held senior posts in a number of International businesses, and as CEO of a Foundation. We look forward to working with Arnout to continue Anthem’s development for the benefit of young musicians the length and breadth of Wales. There are some important milestones ahead but in Arnout we are convinced we have the right person to take this on and build the organisation and its sphere of action.”

Anthem is inaugurating a small testbed project with GŵylGrai RAWFfest and  in their next Festival, they plan to explore the benefits of some bespoke music mentors as part of the Festival’s programme with young people.

Arnout van der Veer, linked up with members of RawFfest, at the Royal Welsh College of Music and Drama in Cardiff recently, and said:

“I am delighted to have been invited to take up this exciting opportunity at this crucial early stage in Anthem’s development, having had a long personal association with Wales. I look forward now to working with colleagues to appoint Anthem’s full Board, and to building the funds in this musical endowment fund. Partnering will be key for Anthem.

“It is a great encouragement that the Welsh Government has made a £1m Investment. However, our ambitions for this fund and its ability to boost the musical talents of Wales’ Young people means that we want to make it a much larger fund, and make it a truly ground-breaking initiative.”

END 3 December 2018

Notes to editors:

  • Anthem. Gronfa Gerdd Cymru. Music Fund Wales was established and formally launched in February 2018 following an announcement by the Cabinet Secretary for Education, Kirsty Williams AM, during the National Assembly Plenary Session in February 2018.

  • The objectives of the fund are: a) to make musical opportunities more accessible to all young people aged 3-25; b) to develop musical opportunity in all genres and in all communities; c) to identify and nurture talent and ability; and d) to support career pathways in music and the music industry.

  • Arnout van der Veer holds a number of non-executive roles at charitable organisations. He is also an independent consultant providing business transformation advice to a number of young companies. He is passionate about music and supports Young musical talent in his role as CEO of the Henri Moerel foundation.

  • He has more than 30 years experience of International business and consultancy. Previous roles have included Chief Risk Officer at Reed Elsevier in London, partner at KPMG in New York and Amsterdam and Chief Financial Officer of a private equity firm in London.

  • He has had a long personal association with Wales. This role will be unremunerated.

  • RawFfest supports and promotes creativity of young people aged 14 - 25 years. It is a youth-led festival: young people plan it, programme it, perform at it. The next festival will come to Cardiff for the first time, with young people taking over Wales Millennium Centre 25th - 28th April 2019.

For further information please contact David Alston, Arts Director, Arts Council of Wales, musicendowment@arts.wales



 
anthem_web_bg-01-02-02.png
 

NEWYDDION

 

 
 
 
WNS_211118_Arts_Council_Group_16b.jpg
 

Cyhoeddi Cadeirydd Anthem

Arnout van der Veer fydd Cadeirydd cyntaf Anthem, Cronfa Gerdd Cymru. Music Fund Wales.

Bydd y gronfa waddol gerddorol newydd yma i Gymru yn gymorth wrth agor cyfleoedd i blant a phobl ifanc. Bydd yn helpu dysgwyr ym maes cerdd, mor ifanc â thair blwydd oed hyd at bump ar hugain, i ddatblygu eu sgiliau a'u doniau, a chael mynediad at gyfleoedd cerddorol. Ni fydd y gwaddol yn dosbarthu arian yn llawn tan 2021. Felly mae’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar adeiladu’r gronfa i gael effaith tymor hir a gwaddol parhaol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dechrau’r gronfa. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cyngor y Celfyddydau wedi bod yn gweithio ar ba mor bosibl roedd Anthem ac i sefydlu’r cwmni’n un elusennol i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc, gyrfaoedd a doniau cerddorol yng Nghymru yn y tymor canolig a hir.

Heddiw meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC:

"Llongyfarchiadau i Arnout ar gael ei benodi’n Gadeirydd cyntaf Anthem – bydd ei sgiliau a’i hir brofiad yn sector y celfyddydau yn ei wneud yn Gadeirydd gwych.

"Mae cerddoriaeth wrth wraidd treftadaeth ein cenedl, a dwi am i'n holl bobl ifanc gael mynediad i addysg gerddorol a'r cyfle i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu.

"Menter arloesol iawn yw Anthem sy’n cynyddu mynediad i brofiadau cerddorol ac yn gwella ein gwasanaethau cerddorol presennol drwy roi i’n disgyblion gyfleoedd newydd a chyffrous y tu allan i'r ysgol."

Croesawodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y penodiad gan ddweud:

"Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn cydweithio i wireddu Anthem. Hoffwn longyfarch Arnout ar ei benodiad. Dwi’n siŵr y bydd ei brofiad yn gymorth i adeiladu’r gronfa a datblygu'r prosiect, gan gydweithio â diwydiant cerddorol ledled Prydain. Bydd yn fodd i lawer rhagor o bobl ifanc gymryd rhan mewn cerddoriaeth a’i mwynhau."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, David Alston:

"Rydym ni’n falch iawn bod Arnout wedi cytuno bod yn Gadeirydd cyntaf Anthem – swydd allweddol. Mae ganddo brofiad helaeth ym myd busnes a'r celfyddydau. Roedd ganddo swyddi pwysig mewn nifer o fusnesau rhyngwladol, ac roedd yn Brif Weithredwr Sefydliad elusennol. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda fe i ddatblygu Anthem er budd cerddorion ifanc ledled Cymru. Mae cerrig milltir pwysig o’n blaen ond rydym ni’n sicr mai Arnout yw’r dyn cywir i adeiladu Anthem a’i weithgarwch."

Mae Anthem yn dechrau prosiect bach ar brawf gyda Gŵyl Grai/RawFfest. Yn eu gŵyl nesaf, byddan nhw'n archwilio'r manteision o gael mentoriaid cerddoriaeth yn rhan o’u gwaith gyda phobl ifanc.

Meddai Arnout van der Veer, pan oedd yn cwrdd ag aelodau Gŵyl Grai yn ddiweddar yng Ngholeg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd:

"Mae'n bleser gennyf ymgymryd â’r cyfle cyffrous yma mor gynnar yn natblygiad Anthem. Mae gennyf gysylltiad personol hir â Chymru. Dwi’n edrych ymlaen nawr at weithio gydag eraill i benodi bwrdd llawn Anthem ac adeiladu’r arian fydd yn y gronfa. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i Anthem.

"Mae'n galondid mawr bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 miliwn. Ond i wireddu ein huchelgais ar gyfer y gronfa, rhaid iddi fod llawer yn fwy i gael yr effaith rydym ni eisiau ei gweld."

DIWEDD 3 Rhagfyr 2018

Nodiadau i olygyddion:

- Anthem. Sefydlwyd Cronfa Gerdd Cymru a’i lansio'n ffurfiol yn Chwefror 2018 yn sgîl cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, yn ystod cyfarfod llawn y Cynulliad Cenedlaethol yn Chwefror 2018

  • Amcanion y Gronfa yw:

  • gwneud cyfleoedd cerddorol yn fwy hygyrch i holl bobl ifanc yn yr oed 3-25

  • datblygu cyfle cerddorol ym mhob math o gerddoriaeth ac ym mhob cymuned

  • adnabod a meithrin talent a gallu

  • cefnogi llwybrau gyrfa ym myd a diwydiant cerdd

- Mae gan Arnout van der Veer nifer o rolau anweithredol mewn sefydliadau elusennol at ddibenion cymdeithasol. Mae hefyd yn ymgynghorydd annibynnol sy'n rhoi cyngor sut i drawsnewid busnes i nifer o gwmnïau ifanc. Mae'n angerddol am gerddoriaeth ac yn cefnogi talent gerddorol ifanc yn ei rôl yn Brif Weithredwr Sefydliad Henri Moerel

- Mae ganddo ragor na 30 mlynedd o brofiad busnes rhyngwladol ac ymgynghori. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys:

  • Prif Swyddog Risg yn Reed Elsevier, Llundain

  • partner yn KPMG yn Efrog Newydd ac Amsterdam

  • Prif Swyddog Ariannol cwmni ecwiti preifat yn Llundain

- Mae ganddo gysylltiad personol hir â Chymru, ac mae’n gwneud y gwaith hwn heb dderbyn cyflog.

- Mae Gŵyl Grai yn cefnogi ac yn hybu creadigrwydd pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Mae'n ŵyl dan arweiniad ieuenctid. Mae pobl ifanc yn ei chynllunio, ei rhaglennu a pherfformio ynddi. Bydd yr ŵyl nesaf yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf, gyda phobl ifanc yn meddiannu Canolfan Mileniwm Cymru yn y cyfnod 25-28 Ebrill 2019.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, musicendowment@arts.wales





 
anthem_web_bg-02-03.png
 

AMDANOM

 

 
 
 

Cefndir

Mae anthem wedi'i sefydlu i gefnogi uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i gyflwyno i Gymru Waddol Cenedlaethol i Gerddoriaeth. 

Cefnogwyd y cynnig gan bob plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. O ganlyniad, mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni'r uchelgais hwn.


AMSERIAD

Nododd Kirsty Williams AC a Ken Skates AC £500,000 yn eu cyllidebau 2017/18 i’r Gwaddol. Â hyd at £250,000 o’r arian at y costau sefydlu a bydd y gweddill yn arian sbarduno i gyfalafu’r gronfa. Cyhoeddwyd sefydlu'r Gwaddol yn ffurfiol gan Kirsty Williams mewn cyfarfod llawn yn Chwefror 2017, a lansiwyd y Gwaddol yn endid yn Arena Motorpoint yn Chwefror 2018.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Ar ôl i Anthem sefydlu ei bwrdd a hefyd grŵp o lysgenhadon i gerddoriaeth, dechreuir ar y broses o gyfalafu’r gronfa. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw arian ar gael o'r cynllun hwn tan o leiaf 2020/21.


Nod y GronfA

  • Gwneud cyfleoedd cerddorol yn fwy hygyrch i bobl ifainc 3-25 oed
  • Datblygu cyfle cerddorol ym mhob math ar gerddoriaeth ac ym mhob cymuned
  • Adnabod a meithrin talent a gallu
  • Cefnogi llwybrau gyrfaol mewn cerddoriaeth a'r diwydiant cerddorol

Mae'r amcanion hyn yn asio hefyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) gan gefnogi amcanion sy'n seiliedig ar y syniad o gynnal diwylliant bywiog a chreu Cymru iachach, wytnach, fwy ffyniannus a chyfartal

 
 

 
 

BETH YW ANTHEM?

  • endid cyfreithiol hollol newydd

  • cyfle i unigolion fod yn gyfrifol am lunio a darparu’r gwaddol yn y tymor hir

  • ffordd o weithio yn y tymor hir i godi arian

  • endid parhaol i Gymru

  • cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl ifainc ac o fathau ar
    gerddoriaeth ledled Cymru

  • cyfle i godi dyheadau pobl ifainc Cymru

  • man ar gyfer mentrau a syniadau newydd a phrosiectau peilot

  • caiff ei gyrru gan yr agenda ddiwylliannol gan gymryd i ystyriaeth yr agendâu cymdeithasol, iechyd, addysg, cydraddoldebau ac economaidd yn yr 21ain
    ganrif yng Nghymru

 

Beth na wna Anthem?

  • ni ddisodla gwasanaethau addysg gerddorol ledled Cymru
  • nid yw dim ond ar gyfer pobl dalentog, elitaidd (ond gallai fod meysydd penodol ar gyfer y rhain yn Anthem)
  • nid yw dim ond ar gyfer pobl ddifreintiedig neu a dangynrychiolir (ond gallai fod meysydd penodol ar gyfer y rhain yn Anthem)
  • nid yw dim ond ar gyfer Caerdydd neu’r dinasoedd rhanbarthol mwy
  • ni erys yn ei hunfan – mae'n rhaid iddi symud gyda'r oes a bod yn ysgafndroed fel y daw cyfleoedd newydd
 

 
 
 
anthem_web_bg-02-03.png
 

ABOUT

 

 
 
 

BACKGROUND

Anthem has been established to support the Welsh Government’s long-term ambition to deliver a National Music Endowment for Wales.

The proposal subsequently received all-party support by the National Assembly for Wales. As a result, the Welsh Government and the Arts Council of Wales are working jointly to deliver on this ambition.


TIMING

Ms Kirsty Williams AM and Mr Ken Skates AM each identified £500,000 within their respective budgets in 2017/18 for the Endowment. Up to £250,000 of this will go towards set-up costs, with the balance acting as seed-funding to help capitalise the fund. Setting up the Endowment was formally announced by Ms Williams in plenary in February 2017 and was launched as an entity at the Motorpoint arena in February 2018.

CURRENT POSITION

Once Anthem has established its board and a set of Music Ambassadors, the process of capitalising the fund will begin. It is unlikely that any funding will be available from this scheme until at least 2020/21.


AIM OF THE FUND

  • To make musical opportunities more accessible to all young people aged 3-25
  • To develop musical opportunity in all genres and in all communities
  • To identify and nurture talent and ability
  • To support career pathways in music and the music industry

These objectives also dovetail with the Wellbeing of Future Generations (Wales) Act, supporting the objectives that are based upon the notions of sustaining a vibrant culture, an equal, healthier, more resilient and prosperous Wales.

 
 

 
 

ANTHEM IS:

  • an entirely new legal entity
  • an opportunity for individuals to be responsible for shaping and delivering the endowment long term
  • a long term approach to fundraising
  • a permanent entity in Wales
  • an opportunity to engage with a diverse range of young people and musical
    genres across Wales
  • an opportunity to raise aspirations of our young people in Wales
  • a place for new initiatives / pilots / ideas
  • driven by the cultural agenda taking into account the social,  health, education, equalities and economic agendas in 21st century Wales
 

ANTHEM IS NOT:

  • a replacement for music education services across wales
  • only for the most talented elite (but strands within it may be)
  • only for the underrepresented or deprived (but strands within it may be)
  • just for Cardiff or the larger regional cities
  • going to be static – it must move with the changing times and be fleet of foot as new opportunities are presented
 
 

 
 
 
anthem_web_bg-04-04-05.png
 
 

CYSYLLTU

 

 
 
 
 
 
anthem_web_bg-03-04.png
 
 

CONTACT