Ynglŷn ag Anthem

Gweledigaeth Anthem yw Cymru lle y gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.

Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol nerthol i bobl ifanc sy’n ysgogi hunanfynegiant, datblygiad personol a llesiant.

Bydd Anthem yn galluogi mynediad i gerddoriaeth, yn creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau, ac yn meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf tuag at yrfaoedd cerddorol.

Mae Anthem yn gatalydd ar gyfer cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, ac yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid, yn creu cysylltiadau i ehangu gwaith partneriaeth, ac yn galluogi arferion gorau i ffynnu.

Image Gallery
People playing instruments

Ein stori

Sefydlwyd Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru o oedd yn archwilio ffyrdd i gynorthwyo sut mae pobl ifanc yn creu a dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Un o argymhellion yr adroddiad oedd creu gwaddol cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid cychwynnol a rhoi’r dasg i Gyngor Celfyddydau Cymru gwmpasu a sefydlu elusen a fyddai’n gyfrifol am sefydlu’r gwaddol. Yn 2019 sefydlodd Anthem Fwrdd Ymddiriedolwyr a mynd ati i gynllunio. Yn 2020 penododd Anthem ei Phrif Swyddog Gweithredol amser llawn cyntaf. Dechreuwyd ar godi arian i raglenni a’r gwaddol yn 2021.

Microphone

Ein cefnogwyr

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cyllid cychwynnol hael i’r gwaddol Anthem.
Welsh Government Logo

Ein polisïau

Mae Anthem wedi ymrwymo i lywodraethu da ac mae gennym ystod lawn o bolisïau yn eu lle i gefnogi ein gwaith. Os hoffech weld copïau o unrhyw rai o’n polisïau, cysylltwch â’n Prif Weithredwr ar rhian.hutchings@anthem.wales

Diogelu Data – nodyn preifatrwydd

Diogelu Data

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.