- By Tori Sillman
- 19/01/2026
- 0 Comments
Mae SAIN I’R SGRIN Anthem yn ddigwyddiad am ddim sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 21 Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Mae wedi’i ddylunio i gynnig cipolwg ar lwybrau gyrfa sy’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth ar gyfer y sgrin.
Mae’r digwyddiad ar gyfer cyfansoddwyr, cyfansoddwyr caneuon a chynhyrchwyr sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth ar gyfer y Teledu, Ffilm neu Gemau fel llwybr gyrfa posibl.
Mae 35 o leoedd ar gael i gyfranogwyr 18-25 oed (neu 18-30 yn achos pobl f/Fyddar, anabl neu niwroamrywiol) sy’n seiliedig yng Nghymru.
Gwybodaeth am Sesiynau
Llwybrau Gyrfa Posibl gyda Chynghrair Sgrin Cymru
Mae cerddoriaeth yn ddylanwadol iawn wrth gynhyrchu rhaglen deledu neu ffilm, ond nid bob amser yn y ffyrdd mwyaf amlwg. Yn y sgwrs hon, dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y gall cerddoriaeth eu hagor yn y diwydiant Teledu a Ffilm, a rhai o’r gwahanol lwybrau i gyrraedd yno.
Siaradwyr: Rhys Bebb, Rheolwr Addysg a Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu gyda John Meirion Rea, ynghyd â Niamh J O’Donnell
John Meirion Rea yn gyfansoddwr cerddoriaeth profiadol ar gyfer ffilm a theledu, hefyd yn artist sain sy’n gweithio gyda gosodiadau rhyngddisgyblaethol. Bydd John yn siarad am realiti cyfansoddi ‘i’r llun’, a beth mae’n ei olygu i fod yn gyfansoddwr llawrydd heddiw. Bydd John hefyd yn siarad am y llwybrau posibl sy’n bodoli yn y diwydiant, a’i waith mentora gydag ‘It’s My Shout’ gan gynnwys sylwadau gan y cyfansoddwr Niamh O’Donnell.
Cyfansoddi ar gyfer Gemau Fideo gyda Ryan Robinson, Jake Gaule o Submerged Tapes a Harvey Carman
Siaradwyr: Harvey Carman, Dylunydd Sain a Chyfansoddwr ar gyfer gemau fideo, Jake Gaule, cyfansoddwr llawrydd, dylunydd sain, Ryan Robinson, Cyfansoddwr a sylfaenydd Quay Games.
Trwyddedu eich Cerddoriaeth gyda PRS for Music
Clywch gan Adran Drwyddedu PRS ar waith trwyddedu presennol. Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r drwydded gywir ar gyfer eich busnes, sefydliad neu gwmni cynhyrchu. Boed ar gyfer busnes lleol neu sianel deledu genedlaethol, mae gennym ystod o drwyddedau i weddu i’ch defnydd cerddoriaeth.
Synchronisation
Cyflwyniad byr i gydamseru cerddoriaeth a sut i gael eich cerddoriaeth wedi’i gosod mewn ffilm, teledu, gemau a chyfryngau dan arweiniad Goruchwyliwr Cerddoriaeth, Skip Curtis.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026
Amser: 10:00AM – 4:30PM
Cinio: Yn cael ei ddarparu
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch o ran costau teithio, cysylltwch ag alexandra.jones@anthem.cymru
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Youth Music, diolch i Loteri Cod Post y Bobl.

