Codi arian i ni

Eisiau Defnyddio Eich Angerdd Er Daioni?

Os ydych chi’n hoff o gerddoriaeth a bod gennych chi syniad sut y gallwch chi gefnogi Anthem, rydyn ni eisiau clywed amdano. Beth bynnag yw’r syniad, waeth pa mor fawr neu fach, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi yr holl ffordd!

Lawrlwythwch ein Pecyn Codi Arian defnyddiol isod i gael awgrymiadau da, ysbrydoliaeth a chanllawiau codi arian. Gallwch hefyd gysylltu i gael deunyddiau ychwanegol, gan gynnwys sticeri, posteri a ffurflenni noddi.

Cyngherddau, Gigs a Grwpiau Cymunedol:

Mae digwyddiadau cerddorol elusennol yn ffordd wych i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru. P’un a ydych chi’n fand, yn gôr, yn hyrwyddwr, neu’n grŵp cymunedol, mae Anthem yma i’ch cefnogi chi i helpu i wneud gwahaniaeth. Os hoffech chi gynnal gig fel rhodd i ni, codi arian er budd Anthem yn eich cyngerdd nesaf, neu gael sgwrs am sut y gallem weithio mewn partneriaeth â chi fel eich dewis elusen, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Cysylltwch â’n Rheolwr Codi Arian, Rebecca Hobbs, yn rebecca.hobbs@anthem.wales

“Fel eiriolwr dros gefnogi a datblygu cerddorion ifanc fy hun, Anthem oedd yr elusen amlwg i ni ei chefnogi yn ein cyngerdd i arddangos doniau myfyrwyr. Roedd hefyd yn wych bod y tîm yn bresennol yn ein cyngerdd i siarad yn uniongyrchol am y gwaith mae Anthem yn ei wneud, a sut roedd ein digwyddiad yn cefnogi pobl ifanc ymhellach drwy gerddoriaeth yng Nghymru”

Dan Phelps, Phelps Music

Codwyr Arian Facebook:

Beth am rannu eich penblwydd neu achlysur arbennig ag Anthem eleni a’i wneud yn arbennig iawn drwy roi cerddoriaeth yn anrheg.

Mae Facebook Fundraisers yn ffordd wych i ddenu rhoddion i Anthem. Gallwch chi greu eich Facebook Fundraiser eich hun FAN YMA. Unwaith y byddwch chi wedi creu eich tudalen codi arian, lawrlwythwch ein Delwedd Flaen Codi Arian, a byddwch chi’n barod i fynd! Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at gefnogi pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd ym myd cerddoriaeth.

FFYRDD ERAILL I GEFNOGI ANTHEM

 

Easyfundraising:

Mae Anthem wedi cofrestru gydag easyfundraising, sy’n golygu y bydd dros 7,000 o siopau a gwefannau nawr yn rhoi i ni AM DDIM bob tro y byddwch chi’n defnyddio easyfundraising i siopa ar-lein gyda nhw. Ychydig eiliadau sydd eu hangen i gofrestru a gall wneud gwahaniaeth enfawr i ni! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar y ddolen ganlynol neu lawrlwytho’r ap a dewis Anthem fel eich elusen. Yna, bob tro y byddwch chi’n siopa ar-lein, ewch i easyfundraising yn gyntaf i ddod o hyd i’r wefan rydych chi ei heisiau a dechreuwch siopa fel arfer. Bydd Anthem yn derbyn rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi o gwbl!

Cyfrannu at Arwerthiant Anthem:

Yn dilyn llwyddiant Arwerthiant Anthem y llynedd, rydym yn chwilio am fwy o bethau cofiadwy wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth a phrofiadau sy’n ymwneud â diwylliant cerddoriaeth Cymru. Os oes gennych chi unrhyw eitemau neu gyfleoedd unigryw sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru yr hoffech eu rhoi er budd Anthem, cysylltwch â rebecca.hobbs@anthem.wales. Byddai unrhyw roddion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr!

Cofio amdanom yn eich ewyllys:

Mae ystyried gadael rhodd yn eich ewyllys, ar ôl i chi ofalu am eich teulu a’ch ffrindiau, yn un o’r camau mwyaf gwerthfawr y gallwch chi eu cymryd. Gall eich rhodd fod yn rhan o waddol parhaol, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yng Nghymru. Os hoffech chi wybod mwy, cliciwch ar y ddolen isod:

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.