Am Anthem

Ein gweledigaeth a'n cenhadaeth

Gweledigaeth Anthem yw Cymru lle y gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.

Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol nerthol i bobl ifanc sy’n ysgogi hunanfynegiant, datblygiad personol a llesiant.

Bydd Anthem yn galluogi mynediad i gerddoriaeth, yn creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau, ac yn meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf tuag at yrfaoedd cerddorol.

Mae Anthem yn gatalydd ar gyfer cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, ac yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid, yn creu cysylltiadau i ehangu gwaith partneriaeth, ac yn galluogi arferion gorau i ffynnu.

Ein stori

Sefydlwyd Anthem. Cronfa Gerdd Cymru yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru o oedd yn archwilio ffyrdd i gynorthwyo sut mae pobl ifanc yn creu a dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae teulu Anthem wedi bod yn tyfu, gan ddod â grŵp gwych o bobl a sefydliadau ynghyd sydd oll yn teimlo’n angerddol am bobl ifanc a’u cerddoriaeth yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.

Mae teulu Anthem yn cynnwys pawb: aelodau ein Fforwm Ieuenctid sy’n gweithio i adeiladu brand a rhaglenni Anthem, ymddiriedolwyr ac aelodau Anthem sy’n rhoi cyfeiriad i ni, y sefydliadau rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, a’r Ymddiriedolaethau a’r Sefydliadau, y rhoddwyr, y noddwyr a Chorws Teulu Anthem sydd oll yn ein cefnogi ac yn parhau i ddatblygu ein gwaith. 

Ein heffaith

Dysgwch fwy am yr effaith y mae Anthem yn ei chael a sut rydym yn cefnogi sefydliadau a phobl ifanc yng Nghymru yma. 

Ein polisïau

Mae Anthem wedi ymrwymo i lywodraethu da ac mae gennym ystod lawn o bolisïau yn eu lle i gefnogi ein gwaith. Os hoffech weld copïau o unrhyw rai o’n polisïau, cysylltwch â’n Prif Weithredwr ar rhian.hutchings@anthem.wales