Podlediad Amplify

“Mae’n gwneud i fod yma deimlo’n fwy na bodoli, mae’n gwneud iddo deimlo eich bod chi’n fyw.” 

Mae cerddoriaeth yn hanfodol a phwerus i bobl ifanc. Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i gymryd rhan ac archwilio’r hyn y gall cerddoriaeth wneud iddyn nhw. 

Mae Amplify yn blatfform i unigolion brwdfrydig drafod cwestiynau’n ddwys a chodi pynciau pwysig ynglŷn â cherddoriaeth ieuenctid ledled Cymru. Caiff Amplify ei gyflwyno gan Ify Iwobi, cerddor a phianydd sy’n seiliedig yn Abertawe, ynghyd ag aelodau’r Fforwm Ieuenctid. Bydd y podlediad yn archwilio gwerth cerddoriaeth i bobl ifanc, ac yn cwrdd â cherddorion a sefydliadau sy’n neilltuo eu hamser i wella bywydau pobl ifanc drwy gerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r podlediad Amplify ar gael i wrando arno ar y llwyfannau canlynol:

Pennod 1 – Ar ba oedran ddylem ni ddechrau mwynhau cerddoriaeth?

Mae Ify Iwobi yn siarad â’r cyfansoddwr Helen Woods, Emma Coulthard o Sir Caerdydd a Gwasanaeth Cerdd Morgannwg a Lucy Clement-Evans o Codi’r To yng Ngogledd Cymru am eu prosiectau cerddoriaeth yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru a pham ei bod yn bwysig i blant fod â cherddoriaeth yn rhan o’u bywyd o’r cychwyn cyntaf.

Pennod 2 – Pam mae cerddoriaeth mor bwysig i iechyd meddwl pobl ifanc?

Mae Ify Iwobi yn siarad â’r cerddor Kizzy Crawford a Hannah Morgan o Heads Above the Waves.Tim Rhys-Evans yn siarad ag Ella, Katherine, Kyle a Tori o Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru.

Pennod 3 – Beth yw’r llwybrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru?

Mae Ify Iwobi yn siarad â’r canwr-gyfansoddwr Foxxglove a chanwr opera a thelynores John Ieuan Jones sy’n dod o Ogledd Cymru. Mae llysgennad Anthem a thelynores Catrin Finch yn sgwrsio ag Anthem am ei thaith i mewn i gerddoriaeth.

Mae’r artist, actifydd ac aelod o Fforwm Cerddoriaeth Ieuenctid Cymru Andrew Ogun yn sgwrsio gyda’r rheolwr artistiaid a’r cynhyrchydd Jamie Winchester a DJ Gogledd Cymru, perchennog label a chynhyrchydd Endaf.

Pennod 4 – Pam ei bod yn bwysig bod gan bobl ifanc lais mewn cerddoriaeth yng Nghymru?

Ify Iwobi sy’n sgwrsio gydag Elina Lee a Bruna Garcia am eu gwaith gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Yasmine Dvaies am ei rôl fel Ymgynghorydd Ifanc gyda Beacons Cymru.

Rydym hefyd yn clywed gan aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem 2021 ynghylch pam y gwnaethant ymwneud ag Anthem a’r hyn y gwnaethant ei fwynhau am gymryd rhan.

Pennod 5 – Argraffiad Windrush – Mace The Great

Bydd y gwesteiwr gwadd Aleighcia Scott yn sgwrsio â Mace the Great am gerddoriaeth, teulu a dylanwad Windrush ar ei gerddoriaeth. Mae Mace yn sgwrsio â’i dad Errol Burnett am ei brofiad o Windrush, ei fywyd cynnar yn y DU a cherddoriaeth dros y degawdau. Mace yn perfformio cân o’i albwm newydd SplottWorld. Ariannwyd y rhifyn hwn o Amplify gan Race Council Cymru a’i gefnogi gan Ty Cerdd.

Pennod 6 – Argraffiad Windrush – Eädyth Crawford

Bydd y gwesteiwr gwadd Aleighcia Scott yn sgwrsio ag Eädyth am gerddoriaeth, teulu a dylanwad Windrush ar ei gerddoriaeth. Mae Eädyth yn sgwrsio â’i mam Tamsin Meriel sy’n adrodd hanes sut y gwnaeth tad Eädyth ailgysylltu â’i dad eto, ac yn archwilio ei phrofiad o ddod yn rhan o deulu Bajan a sut y bu iddi feithrin cysylltiad Bajan ar gyfer ei dwy ferch. Eädyth yn perfformio ei sengl newydd Heal Yourself. Ariannwyd y rhifyn hwn o Amplify gan Race Council Cymru a’i gefnogi gan Ty Cerdd.

Pennod 7 – Argraffiad Windrush – Lily Beau

Mae’r gwesteiwr gwadd Aleighcia Scott yn sgwrsio â Lily Beau am gerddoriaeth, teulu a’i thaith bersonol o ddarganfod o gwmpas Windrush. Mae hi’n perfformio cân o’r enw Dream. Ariannwyd y rhifyn hwn o Amplify gan Race Council Cymru a’i gefnogi gan Ty Cerdd.