Ymuno Â'r Corws

Mae Teulu Anthem yn arbennig iawn, boed yn gerddor ifanc, yn aelod o’r fforwm ieuenctid, yn gefnogwr, yn llysgennad neu’n bartner, mae yna gyfeillgarwch go iawn, cymuned amrywiol sydd wrth galon Anthem ac sy’n rhannu angerdd dros bobl ifanc a’u cerddoriaeth yng Nghymru.

Drwy ymuno â Chorws Anthem, byddwch yn dod yn rhan o’r gymuned fywiog hon ac yn chwarae rhan weithredol wrth helpu i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.

Bydd eich rhodd reolaidd yn helpu i gefnogi pobl ifanc ar eu taith drwy gerddoriaeth yng Nghymru drwy ein cronfeydd ariannu allweddol a’n prosiectau: galluogi mwy o fynediad at gerddoriaeth; creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau; a meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd cerddorol.

Fel aelod o gorws Anthem, byddwch yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydym yn ei wneud ledled Cymru drwy ein cylchlythyr rheolaidd a fydd yn dangos i chi beth mae eich rhodd yn helpu i’w gyflawni. Cewch eich cydnabod fel cefnogwr ar ein gwefan, a chewch gyfleoedd i weld ein hymgyrch ar waith drwy ddigwyddiadau Anthem.

I ymuno â’r corws, cliciwch ar y botwm cyfrannu isod a dewiswch yr opsiwn misol i sefydlu cyfraniad rheolaidd. Diolch!