Cyhoeddiad cyllid LIVE TRUST
LIVE Trust yn ariannu sioeau arddangos i gerddorion ifanc ledled Cymru Mae Anthem yn falch o fod wedi cael
Mae Anthem yn angerddol ynglŷn â rhoi lle canolog i bobl ifanc yn ein gwaith wrth i ni gymryd ein camau nesaf. Yn 2021 creodd Anthem brosiect Fforwm Ieuenctid, gan ddod â grŵp o bobl ifanc 16 i 25 oed ynghlwm â cherddoriaeth o bob math yng Nghymru ynghyd, i’w helpu i adeiladu llwybr i’r diwydiant cerddoriaeth a chefnogi gwaith Anthem. Daeth carfannau eraill o’r Fforwm Ieuenctid ynghyd yn 2022 a 2023, ac mae’r prosiect hwn bellach wedi dod yn Anthem FFWD >>.
Rydym ni’n chwilio am bobl ifanc greadigol, 17-25 oed, sy’n cynrychioli amrywiaeth o brofiadau a genres cerddorol i ymuno ag Anthem FFWD>>. Nod Anthem yw rhoi pobl ifanc yng nghalon ein gwaith wrth i ni dyfu. Fe fyddem wrth ein bodd yn cydweithio gyda chi!
Efallai eich bod yn gerddor gweithgar, yn dyheu i fod yn gerddor, yn astudio cerddoriaeth, yn gerddor ystafell wely, yn weithiwr cerddoriaeth proffesiynol sy’n gynnar yn eich gyrfa, yn wrandäwr brwd, yn ysgrifennu cerddoriaeth, yn blogio neu flogio am gerddoriaeth; neu’n rywun y mae cerddoriaeth yn gwneud gwahaniaeth iddynt.
Bydd hefyd angen i chi:
“Rwy’n teimlo bod gen i syniad da o ble i ddechrau ar ôl y sgyrsiau llawn gwybodaeth rwy wedi bod yn rhan ohonyn nhw drwy FFWD.”
“Rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl broffesiynol yn y diwydiant ar FFWD sydd wedi helpu i gael un o fy nghaneuon ar BBC Introducing.”
“Mae wedi rhoi’r hyder i mi allu perfformio cân dri diwrnod yn unig ar ôl i mi ei sgwennu hi, a fyddwn i ddim wedi gwneud hynny cyn FFWD.”
“Mae Anthem wedi dysgu i mi fy mod i’n haeddu cael fy nghlywed a fy ngweld, ta waeth am fy anghenion ychwanegol. Rwy eisiau rhannu hynny ag eraill sydd heb ddysgu hynny eto.”
Yn dod yn fuan!
Gallwch ddod o hyd i’r holl newyddion diweddaraf o Anthem yma yn ein blog!
LIVE Trust yn ariannu sioeau arddangos i gerddorion ifanc ledled Cymru Mae Anthem yn falch o fod wedi cael
Atseinio Young Leaders Call Out Arweinydd Ifanc Atseinio Ers 2018, mae Anthem wedi gweithio gyda sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid trwy
Creating a Vibrant and Connected Youth Music Ecosystem in Wales Creu ecosystem fywiog a chysylltiedig o gerddoriaeth ieuenctid yng
Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.
