Gweithio Mewn Partneriaeth  Ni

Mae Anthem eisiau gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau a chyllidwyr o’r un anian sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc yng Nghymru, drwy bŵer cerddoriaeth.

Gwyddom fod pob busnes yn unigryw, a dyna pam ein bod yn mynd ati i ddatblygu partneriaethau mewn ffyrdd unigryw. Os ydych chi eisiau cyflawni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, codi proffil eich brand, neu roi hwb i greadigrwydd yn eich gweithle, gallwn weithio’n agos gyda chi i adeiladu partneriaeth greadigol ac ystyrlon yn seiliedig ar nodau a gwerthoedd cyffredin.

Drwy gydweithio, gallwn wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd yn y cymunedau sy’n bwysig i chi, gan alluogi i bobl ifanc o bob math o gefndiroedd fanteisio ar gerddoriaeth, a meithrin talent amrywiol o Gymru, gan helpu mwy o bobl ifanc i ddarganfod eu potensial.

Os yw gweithio mewn partneriaeth ag Anthem yn taro tant i chi, a’ch bod eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Rebecca Hobbs, ein Rheolwr Codi Arian, i drefnu paned a sgwrs gyfeillgar ar Rebecca.hobbs@anthem.wales.