Mae Anthem yn angerddol am bŵer cerddoriaeth i bobl ifanc. Os ydych chi’n rhannu ein hangerdd, gallai gweithio gydag Anthem fod ar eich cyfer chi.
Darganfyddwch fwy am ein swyddi gwag a’n cyfleoedd cyfredol isod. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni trwy e-bostio Rhian Hutchings.
Os ydych yn chwilio am fwy o gyfleoedd ym myd cerddoriaeth yng Nghymru, edrychwch ar y Dudalen Cyfleoedd ar y Porth Anthem!
Mae SAIN I’R SGRIN Anthem yn ddigwyddiad am ddim sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 21 Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Mae wedi’i ddylunio i gynnig cipolwg ar lwybrau gyrfa sy’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth ar gyfer y sgrin.
Mae’r digwyddiad ar gyfer cyfansoddwyr, cyfansoddwyr caneuon a chynhyrchwyr sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth ar gyfer y Teledu, Ffilm neu Gemau fel llwybr gyrfa posibl.
Mae 35 o leoedd ar gael i gyfranogwyr 18-25 oed (neu 18-30 yn achos pobl f/Fyddar, anabl neu niwroamrywiol) sy’n seiliedig yng Nghymru.
Mae Anthem yn dymuno penodi Ymddiriedolwr Gyfarwyddwr i fod yn Drysorydd i’r
elusen. Rydym yn edrych am rywun sy’n rhannu ein hangerdd tuag at gerddoriaeth, pobl
ifanc a Chymru, ac a all wneud cyfraniad mawr i elusen ddeinamig sy’n ymdrechu i greu
effaith go iawn i bobl ifanc yng Nghymru.
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth isod am ragor o wybodaeth.
Dysgwch am brosiectau, cyllid, swyddi a digwyddiadau sydd ar gael ar draws y sector cerddoriaeth yng Nghymru drwy ymweld â Phorth Anthem.
