Mae Anthem yma i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru i greu, dysgu a dathlu cerddoriaeth, a phrofi’r manteision a all newid bywydau.
Rydym yn eu cynorthwyo hwy, a’r rhai sy’n gweithio gyda hwy, drwy gyllido, partneriaethau a mentrau.
Dyma beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Fforwm Ieuenctid Anthem
Mae Anthem yn credu mewn rhoi llais i bobl ifanc yng Nghymru o ran sut beth yw teithiau drwy gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Un o’r ffyrdd y gwnawn hyn yw drwy ein Fforwm Ieuenctid. Cewch fwy o wybodaeth am Fforwm Ieuenctid Anthem fan yma.
Rhan allweddol o waith Anthem yw lobïo dros ymchwil i effaith cerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac arwain ar y gwaith ymchwil yma. Byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â phobl ifanc a sefydliadau eraill y sector. Yn 2020, dechreuom ar y gwaith yma drwy gomisiynu adroddiad mapio ac ymgynghoriad ieuenctid.
Amplify is a platform for passionate individuals to discuss in-depth questions and raise important topics surrounding youth music across Wales. Hosted by Swansea-based musician and pianist Ify Iwobi and members of Wales Music Youth Forum.