Gwneud Cais am Ariannu

Mae Cronfa Gerdd Anthem Cymru yn cynnig cyllid i sefydliadau i redeg prosiectau creu cerddoriaeth neu greu cyfleoedd dilyniant gyrfa gerddoriaeth yng Nghymru.

Os ydych chi’n chwilio am gyllid ar hyn o bryd i gefnogi’ch datblygiad fel cerddor ifanc yng Nghymru, rydyn ni wedi gwneud rhestr o gysylltiadau defnyddiol â chyllidwyr eraill a allai eich helpu chi.

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio fel y gallwn ddweud wrthych am gyfleoedd Anthem eraill.

Cronfa Atsain

Mae Atsain yn ariannu gwaith i bobl ifanc 0 – 25 oed sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n wynebu rhwystrau yn sgil amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Caiff y gronfa ei chefnogi gan fuddsoddiad Youth Music, diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery, ac adnoddau Anthem gyda chefnogaeth gan noddwyr sefydlu a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gronfa bellach ar gau. Gwyliwch y gofod hwn am fanylion y rownd ariannu nesaf.

Mae’r panel yn cyfarfod ddechrau mis Mawrth a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a ydynt wedi bod yn llwyddiannus erbyn ganol Mawrth.

SUT I WNEUD CAIS

Lawrlwythwch a darllenwch y Canllawiau Ymgeisio a’r Cwestiynau Cyffredin isod. Dewch o hyd i fformatau hygyrch isod, gan gynnwys clyweledol a phrint bras.

I wneud cais

  • Llenwch ffurflen gais Atsain ar-lein dwyr’r ddolen isod. Sylwch na allwch gadw’r ffurflen a’i hail-olygu. Dewch o hyd i gopi o’r ffurflen isod er mwyn i chi allu paratoi eich cais all-lein.
  • Cyflwynwch naratif eich prosiect a gyllideb eich prosiect ar ein narratif Atsain ffurflen a templed cyllideb – lawrlwythwch trwy’r ddolen isod. Cadwch ef i’ch cyfrifiadur i’w lanlwytho i’r porth grantiau.

Rydym yn croesawu naratifau prosiect, tystebau, neu ddeunydd ategol arall ar ffurf fideo, powerpoint neu sain. Os byddwch yn dewis cyflwyno’ch cais mewn un o’r fformatau hyn nodwch y bydd angen i chi gyflwyno cyllideb ac amrywiol ddogfennau ategol ar ffurf ysgrifenedig o hyd. Ni ddylai naratifau prosiect ar ffurf fideo fod yn hwy na deng munud o hyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gronfa Atsain neu os hoffech drafod anghenion neu gostau mynediad ychwanegol, cysylltwch â’n Prif Weithredwr Rhian Hutchings rhian.hutchings@anthem.wales

Cadw cyswllt â ni

Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio i wneud yn siŵr eich bodyn dilyn holl
newyddion diweddaraf Anthem yn syth bin!