Fforwm Ieuenctid Anthem 2022

addison

Addison Gordon-Evans

Peiriannydd Sain Byw, Cerddor, Myfyriwr yn Sefydliad Bimm, Bryste

Mae gen i angerdd at gerddoriaeth am nad oes unrhyw reolau na chyfyngiadau iddi. Mae’n ffurf bersonol ar fynegiant ac yn iaith pan nad oes gennych chi unrhyw eiriau.

aisha

Aisha Kigs

Canwr-gyfansoddwr

Mae cerddoriaeth yn therapiwtig ac yn ddyddlyfr sy’n fy ngalluogi i rannu fy storïau â chynulleidfaoedd, gan fondio gyda’n gilydd dros brofiadau cyffredin bywyd. Mae cerddoriaeth yn orfoleddus ac mae’n elfen sy’n caniatáu i mi ddeall a mynegi fy emosiynau, fy nheimladau a fy meddyliau presennol.

bailey

Bailey Love

Cerddor

O edrych ar y llun yma, nid yw’n anodd gweld sut rwy’n teimlo am gerddoriaeth. Does dim llawer o bethau eraill a all wneud i rywun dynnu wyneb fel yna.

charlie

Charlie J

Artist

I mi, mae cerddoriaeth yn ffordd i fynegi fy hun yn fewnol ond mae hefyd yn ffordd i gysylltu â phobl a all ymdeimlo â’r un emosiynau a mynegiant â’r hyn y mae’r gerddoriaeth yn eu cyfleu.

connor

Connor Morgans

Gweithiwr Proffesiynol a Chyflwynydd Radio

Cerddoriaeth fu fy mywyd o’r cychwyn, ac rwy bob amser yn chwilio am synau a cherddorion newydd. Rwy eisiau hybu artistiaid newydd o Gymru ar fy sioeau radio a fy rhestrau chwarae a bod ar flaen y gad o ran caneuon newydd. Yn y pen draw, rwy eisiau ymdrochi mewn diwylliant sy’n fy nghyffroi, a chael fy amgylchynu ganddo, ac rwy mor ffodus i gael cyfrannu at hyn a’r sîn gerddoriaeth yma yng Nghymru.

dafydd

Dafydd Hedd

Cerddor Indi Cymreig

Mae cerddoriaeth yn gyfwng rhyfeddol o bwerus ar gyfer newid cymdeithasol ac mae’n chwarae rhan enfawr yn ein hatgofion gorau.

drewhugh

Drew Hughs

Drymiwr

Mae cerddoriaeth yn bwysig i mi gan mai dyna’r lle y gallaf droi iddo beth bynnag yw’r sefyllfa, a dod o hyd i ennyd o ddihangfa, cyngor neu gysur.

em

Em

Cerddor

Mae cerddoriaeth yn bwysig i mi gan ei bod wir yn caniatáu i mi fynegi fy hun ac mae’n gwneud i mi deimlo’n dda amdanaf fy hun.

hiddn

HIDDN / Tyler Jones

Cynhyrchydd

Yn fy ngherddoriaeth a fy ngyrfa, rwy eisiau gadael gwaddol o ysbrydoliaeth i bobl ifanc gredu bod unrhyw beth yn bosib.

liam

Liam J Edwards

Canwr-gyfansoddwr Caneuon Clasurol a Phoblogaidd

Cerddoriaeth yw’r unig ffordd y gallaf wirioneddol fynegi fy hun. Mae’n ffrind bore oes sy’n gwybod fy nghyfrinachau oll, ac mae’n eithriadol o bwysig i mi, yn fy mywyd proffesiynol a phersonol. Fy nyhead pennaf o ran fy ngherddoriaeth yw cael gwrandawiad, ysbrydoli pobl, ac i’r neges fod yn bwysig i’r sawl sy’n gwrando.

mari

Mari Mathias

Canwr-gyfansoddwr a Chynhyrchydd

Mae cerddoriaeth wedi cael effaith enfawr arnaf i a fy nhaith fel artist ac fel unigolyn. Mae’n caniatáu i mi fynegi fy meddyliau mewnol. Mae’n cynnig rhyddid mynegiant, ac mae ganddi’r pŵer i ddod â phobl ynghyd. Mae gweld sut mae cerddoriaeth yn effeithio ar gymunedau mewn ffordd mor gadarnhaol yn dod â llawenydd enfawr i mi.

Mitchell

Mitchell Williams

Canwr a Chyfansoddwr Caneuon Clasurol a Phoblogaidd

I mi, mae cerddoriaeth yn fframwaith ar gyfer mynegiant a chysylltiad.

niamh-od

Niamh O Donnell

Cyfansoddwr

Rwy wedi cael fy amgylchynu gan gerddoriaeth gydol fy mywyd, ac mae wedi chwarae rhan greiddiol wrth greu pwy ydw i fel person. Mae’n gyfrwng i fynegi emosiwn, sbarduno creadigrwydd a dod â llawenydd i eraill, a gall ddod â chymuned gyfan ynghyd.

sam-rees

Holy Hell / Sam Rees

Peiriannydd Sain Byw, Cerddor, Myfyriwr yn Sefydliad Bimm, Bryste

Ers cyn cof, bu pobl yn creu cerddoriaeth mewn rhyw ffurf, fel pe bai’n dod yn naturiol i ni. Mae’r ffurf ddiymatal yma ar fynegiant, i mi, yn rhan o’r hyn sy’n ein gwneud yn bobl. Rwy wedi clywed cerddoriaeth yn fy mhen drwy gydol fy mywyd, caneuon a thiwns rwy’n ysu i’w mynegi.

Untitled design-7

Morgan Thomas

cerddor a CANWR-GYFANSODDWR

Mae cerddoriaeth yn ffordd i mi fynegi fy nheimladau a’m hemosiynau mewn ffyrdd na fyddwn i’n gallu eu mynegi fel arall, mae’n rhoi rhyddid llwyr i mi fod yn fi fy hun.

image0-2

RB

CYNHYRCHYDD

Mae cerddoriaeth i mi yn gysyniad o angerdd ac arbrofi. Nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o'i wneud.

Image

E11ICE

artist ffync jazz neo soul trefol

Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o fy modolaeth ac mae fy enaid yn rhan annatod o wead yr hyn ydw i. Cerddoriaeth yw bywyd, cerddoriaeth yw enaid, cynhaliaeth yw cerddoriaeth, mynegiant yw cerddoriaeth.

Untitled design-8

Ellin Angharad

Gwneuthurwr Sŵn

Cerddoriaeth yw fy lloches grymusaf; mae wedi fy nghario drwy'r dyddiau tywyllaf ac wedi fy ngrymuso i fwynhau'r profiadau gorau. Lle diogel cyffredinol, mae'n cadarnhau ac yn sicrhau dim terfyn.