Ymunwch â ni yng Ngŵyl FFWD>>: digwyddiad codi arian gyda cherddoriaeth fyw i ddathlu pum mlynedd o Fforwm Ieuenctid Anthem
Mae Anthem Cronfa Gerdd Cymru yn cynnal digwyddiad codi arian arbennig gyda cherddoriaeth fyw wrth i Ŵyl FFWD>> ddod i ganolfan eiconig y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ddydd Gwener yma (20 Mawrth), i ddathlu pum mlynedd o Fforwm Ieuenctid Anthem (sydd hefyd yn cael ei alw’n FFWD>>).
Wedi’i gynnal gan gyn aelodau FFWD>>, bydd y digwyddiad yn dod â pherfformiadau byw unigryw a stondinau ynghyd ar noson arbennig i ddathlu’r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen ac sydd bellach yn gwneud eu marc ledled Cymru.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae mwy nag 80 o bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed o bob cwr o Gymru wedi dod drwy’r rhaglen, gan ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, meithrin dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a helpu i lunio cyfleoedd i bobl ifanc eraill ym myd cerddoriaeth. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio rhwydwaith cynyddol o bobl greadigol ifanc sy’n dylanwadu ar ddyfodol y sector yng Nghymru.
Bydd y noson hefyd yn cynnwys lansiad carfan FFWD>> 2026, gan groesawu’r criw nesaf o arweinwyr ifanc a fydd yn helpu i lywio gwaith Anthem a’r dirwedd ehangach sydd i gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yn ystod wythnos Big Give Arts for Impact, ac mae’n rhan o ymgyrch Sustain Our Sound Anthem, sy’n codi arian i hybu cyfleoedd cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru. Yn ystod yr ymgyrch, bydd pob punt a gaiff ei rhoi hyd at y £2,500 cyntaf yn cael ei dyblu trwy arian cyfatebol, sy’n golygu y bydd prynu tocynnau a rhoddion yn cael dwywaith yr effaith. Bydd hyn yn helpu i ddarparu profiadau go iawn, cyfleoedd uwchsgilio a chyfleoedd gigio i 500+ yn rhagor o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn 2026.
Manylion y Digwyddiad
Gŵyl FFWD>>
Ble: Y Deml Heddwch, Caerdydd
Pryd: Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
Drysau 6:30pm | Cerddoriaeth fyw o 7pm
🎟 Tocynnau: £15
Mae’r tocynnau ar gael fan yma:
https://www.tickettailor.com/events/anthemevents/2073713
Gall cefnogwyr na allan nhw ddod i’r digwyddiad hefyd gyfrannu at ymgyrch Big Give Arts for Impact Anthem, lle bydd y rhoddion yn cael eu dyblu am wythnos yn unig, gan ddechrau ar 17 Mawrth.
Cyfrannwch fan yma:
https://donate.biggive.org/campaign/a05WS00000BBMJpYAP