“Y gig gyntaf orau erioed!” – Person ifanc o Datgloi: Pen-y-bont ar Ogwr















Lluniau gan Ceirios Bebb
Mae Datgloi yn gyfres o ddigwyddiadau arddangos aml-genre lle gall pobl ifanc (14-21 oed) berfformio a mwynhau cerddoriaeth fyw, gan ddatgloi potensial creadigol a chyfleoedd i fanteisio ar gerddoriaeth yn eu hardaloedd lleol.
Ein cyfres arddangos yw craidd Anthem. Mae’n datgloi rhwystrau, cyfleoedd a phrofiadau cerddorol i bobl ifanc ledled Cymru.
Gall unrhyw berson ifanc rhwng 14 a 21 oed wneud cais i berfformio yn un o’n sioeau Datgloi, ar unrhyw lefel o brofiad cerddorol. Dyma gyfle i ymgyfarwyddo â bod ar y llwyfan ac i rai pobl ifanc dyma fyddai eu tro cyntaf i berfformio o flaen torf!
Mae Anthem yn darparu treuliau teithio, mynediad i’r rhwydwaith a lluniau proffesiynol a recordiad sain o’u perfformiad i’w defnyddio i ddenu cyfleoedd i gigio yn y dyfodol!
Ers 2024, rydyn ni wedi cynnal dau ddigwyddiad arddangos yn ystod hanner tymor mewn lleoliadau ar lawr gwlad. Mae lleoliadau arddangos Datgloi yn cynnwys Clwb y Bont ym Mhontypridd, The Fork n Tune yng Nghwmcarn, The Corn Exchange yng Nghasnewydd, Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, Oriel Elysium yn Abertawe, CWRW yng Nghaerfyrddin a’r Black Cat ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn y gorffennol, mae cyfleoedd arddangos eraill gan Anthem wedi cynnwys sesiynau meics agored mewn lleoliadau llawr gwlad, digwyddiadau am ddim i rai dan 18, cynadleddau cerdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Tileyard yn Llundain, Wythnos Cymru yn Llundain, gwyliau dros yr haf, Wrecsam, a Bangor.
