Ein Gwaith

Mae Anthem yma i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru i greu, dysgu a dathlu cerddoriaeth, a phrofi’r manteision sy’n newid bywydau yn sgil hynny.

Rydyn ni’n eu cynorthwyo nhw, a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw, drwy gyllid, partneriaethau a mentrau.

Anthem FFWD>>

Mae Anthem FFWD>> yn rhoi lle i bobl ifanc archwilio’r diwydiant cerddoriaeth a llais i ddylanwadu ar faterion allweddol sy’n ymwneud â cherddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru.

Arddangos

Mae Datgloi yn gyfres o ddigwyddiadau arddangos aml-genre lle gall pobl ifanc berfformio a mwynhau cerddoriaeth fyw, gan ddatgloi potensial creadigol a chyfleoedd i fanteisio ar gerddoriaeth yn eu hardaloedd lleol.

Atseinio

Mae Rhwydwaith Atsain yn rhwydwaith rhannu arferion gorau o dros 75 o sefydliadau ac ymarferwyr cerddoriaeth ieuenctid sy’n ymroddedig i gynhwysiant a datblygu’r sector.

Porth Anthem

Mae Porth Anthem yn adnodd sy’n archwilio’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, wedi’i greu gan bobl ifanc greadigol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Curaduron Ifanc Cymru

Mae Curaduron Ifanc Cymru yn rhaglen ddiwylliannol dan arweiniad pobl ifanc sy’n mynd i’r afael â’r diffyg cyfleoedd sydd yn lleol ym myd cerddoriaeth yng nghefn gwlad Cymru.

Datblygu Sgiliau

Rhaglenni, prosiectau a digwyddiadau sy’n creu llwybrau at yrfaoedd cynaliadwy ym myd cerddoriaeth yng Nghymru.

Ymchwil

Rhan allweddol o waith Anthem yw lobïo dros effaith cerddoriaeth ar bobl ifanc yng Nghymru ac arwain ar ymchwil yn y maes hwn. Darllenwch ein hadroddiadau ymgynghori a dewch o hyd i ddarnau eraill perthnasol o ymchwil fan yma.

Podlediad Amplify

Mae Amplify yn trafod gwerth cerddoriaeth i bobl ifanc ac yn cwrdd â’r cerddorion a’r sefydliadau sy’n neilltuo eu hamser i wella bywydau pobl ifanc trwy gerddoriaeth yng Nghymru.

Support Anthem and Donate

With your gift you are supporting our shared vision, to create a
Wales in which music can empower every young life.