- By Rhian Hutchings
- 23/06/2026
- 0 Comments
Creating a Vibrant and Connected Youth Music Ecosystem in Wales
Creu ecosystem fywiog a chysylltiedig o gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru
Dros bum mlynedd gyntaf Anthem mae cymaint wedi’i gyflawni. Cynhaliwyd Cronfa Atsain rhwng 2022 a 2025 gan lwyddo i gefnogi 56 o brosiectau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru a chyrraedd 4636 o bobl ifanc. Rydyn ni wedi gweithio gydag 81 o bobl ifanc drwy ein carfan FFWD>>, ac wedi galluogi 180 o bobl ifanc i gael cyfle ym maes cerddoriaeth fyw trwy ein llinyn arddangos Datgloi.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn fater o glywed sut beth yw’r sector cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru ar hyn o bryd a beth sydd ei angen ar y sector gan Anthem. Ochr yn ochr â chylch ariannu olaf Atsain yn 2025, fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad i’n helpu i ddeall sut mae rhwystrau economaidd-gymdeithasol yn atal pobl ifanc rhag cael mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru. Dan arweiniad yr ymchwilydd Ella Beavington, gwnaeth canfyddiadau’r ymgynghoriad ddatgelu themâu clir, gan gynnwys diffyg lleoedd, offer a rhwydweithiau trafnidiaeth.
Yr hyn a welais fwyaf diddorol am yr adroddiad oedd y canfyddiadau ynghylch hyder. Yn aml mae hyn yn cael ei ystyried fel ‘sgil feddal’ y mae angen i bobl ifanc feddu arni i allu symud ymlaen. Gwnaeth Ymgynghoriad Atsain amlygu hyder fel un o’r prif faterion, ond mae dadansoddiad yr ymgynghoriad yn dangos beth sy’n gorwedd o dan hyn, gan dynnu sylw at ddigalondid, diffyg llwybrau gweladwy, diffyg amgylcheddau cefnogol, a phobl ifanc nad ydyn nhw’n gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfleoedd o’u cwmpas.
Yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym ni yn 2026
Ym mis Mawrth 2026 fe wnaethom ni hefyd gynnal cyfres o sgyrsiau Atseinio, gan gysylltu â sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili a Chaernarfon i siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc am yr hyn yr oedden nhw’n ei brofi yn 2026. Gwnaeth un o Gyfranogwyr Atseinio, Sheryl Njini, adolygu’r sgyrsiau a gallwch ddarllen ei dadansoddiad manwl isod. Unwaith eto, cyfeiriwyd at rwystrau ariannol, mynediad teg, llwybrau dilyniant clir, a chymorth parhaus.
Mae Cymru’n gartref i gymuned angerddol a bywiog ym maes cerddoriaeth ieuenctid, gyda sefydliadau, lleoliadau ac ymarferwyr yn gwneud gwaith hanfodol yn eu hardaloedd lleol. Fodd bynnag, y gwir yw bod y ddarpariaeth yn aml yn dameidiog, gan ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd ac elwa o gyfranogiad hirdymor mewn cerddoriaeth. Mae’n amlwg mai rôl Anthem yw pontio’r bylchau hynny, gan gysylltu pobl ifanc â’r bobl, y cyfleoedd a’r cymorth a all eu helpu i ffynnu.
Gweledigaeth newydd ar gyfer Anthem
Mae’r wybodaeth rydyn ni wedi’i chael o’r gwaith ymchwil hwn a sgyrsiau Atseinio wedi arwain Anthem i ail-lunio ein gwaith. Ein gweledigaeth yn 2026 yw creu Cymru lle mae pobl ifanc yn arwain ecosystem fywiog a chysylltiedig o gerddoriaeth ieuenctid. Fel prif elusen cerddoriaeth ieuenctid Cymru, byddwn yn creu gwaith sy’n meithrin sgiliau, hyder a chymuned gyda phobl ifanc sydd ag angerdd am gerddoriaeth. Dim ond mewn cydweithrediad â’r gymuned cerddoriaeth ieuenctid ehangach ledled Cymru y gallwn wneud hyn, ac mae ethos Anthem yn ymwneud â phartneriaeth, cysylltu sefydliadau, a rhoi lle canolog i leisiau pobl ifanc.
Rydym yn chwarae rôl unigryw yn sector cerddoriaeth ieuenctid Cymru, gan gefnogi pobl ifanc a’r sefydliadau ar lawr gwlad sy’n bodoli ar eu cyfer. Gan weithio gyda rhwydwaith partneriaeth cenedlaethol o dros 70 o sefydliadau, lleoliadau ac ymarferwyr cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru, gallwn dyfu potensial y cyfleoedd lleol hanfodol hyn i fod yn ecosystem genedlaethol gryfach. Bydd gwneud ein gweledigaeth yn realiti yn helpu pobl ifanc i gael mynediad at lwybrau cliriach i yrfaoedd creadigrwydd, arweinyddiaeth a cherddoriaeth barhaus.
Sgyrsiau Atseinio Mawrth 2026
Gan Sheryl Njini
Mae’r sgyrsiau a gynhaliwyd ym mis Mawrth a mis Ebrill 2026 yn tynnu sylw at awydd cryf ymhlith pobl ifanc yng Nghymru i ymgysylltu â cherddoriaeth, datblygu eu sgiliau, a llunio llwybrau creadigol cynaliadwy. Ar draws ymatebion gan wahanol sefydliadau, daeth sawl thema glir i’r amlwg. Er bod y cyfranogwyr yn siarad am wahanol brofiadau a genres, roedd cysondeb cryf yn yr hyn ddywedon nhw sy’n helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn cerddoriaeth, beth sydd ar goll ar hyn o bryd, a beth sydd angen newid.
Un o’r themâu cliriaf oedd pwysigrwydd mannau a seilwaith hygyrch. Cyfeiriodd pobl ifanc dro ar ôl tro at fannau ymarfer, stiwdios, offer, offerynnau a lleoliadau fel elfennau hanfodol ar gyfer cyfranogiad a dilyniant. Siaradon nhw am fod angen lleoedd lle gallan nhw ymarfer yn gyfforddus, arbrofi a datblygu heb gael eu barnu, yn ogystal â mynediad ymarferol trwy gysylltiadau trafnidiaeth a darpariaeth fforddiadwy. I lawer, nid diffyg diddordeb mewn cerddoriaeth yw’r broblem, ond diffyg amgylcheddau hygyrch yn lleol lle gall y diddordeb hwnnw dyfu.
Ail brif thema oedd yr angen am lwybrau cliriach a gwell gwybodaeth. Roedd cyfranogwyr yn tynnu sylw’n gyson at bwysigrwydd gwybod ble i fynd, sut i gael gafael ar gyfleoedd a sut i symud ymlaen yn eu datblygiad. Roedden nhw’n gofyn am i gyfleoedd gael eu hyrwyddo’n well, am gysylltiadau cryfach rhwng rhannau o’r sector cerddoriaeth, ac am lwybrau mwy gweladwy i ymarfer, perfformio, cydweithio, cyfleoedd ariannu a datblygiad proffesiynol. Mae hyn yn awgrymu, er bod angen mwy o gyfleoedd ar bobl ifanc, mae arnyn nhw angen system fwy cydgysylltiedig a dealladwy.
Dangosodd y sesiynau hefyd fod cymuned, anogaeth a hyder yn chwarae rhan bwysig wrth ymwneud â cherddoriaeth. Siaradodd llawer o gyfranogwyr am ffrindiau, teulu, athrawon, mentoriaid a sefydliadau ieuenctid fel dylanwadau allweddol. Roedd gweld rhywun fel nhw yn ymwneud â cherddoriaeth, cael eu hannog i fynychu, a chael mannau i gwrdd â chymheiriaid cefnogol i gyd yn ffactorau pwysig. Mae hyn yn cyfeirio at ochr emosiynol a chymdeithasol dilyniant: mae pobl ifanc yn fwy tebygol o ymgysylltu pan fydd cerddoriaeth yn teimlo’n groesawgar, yn gymunedol ac yn bosibl iddyn nhw.
Roedd rhwystrau ariannol yn fater arall o gododd droeon. Cyfeiriodd pobl ifanc at gost gwersi, offer, teithio, ymarfer, gigs a datblygiad gyrfa ehangach. Trafodwyd cyllid nid yn unig fel angen cyffredinol, ond fel rhywbeth a ddylai fod yn fwy hygyrch, wedi’i dargedu mwy, ac yn haws i’w ddeall. Mewn sawl ymateb, roedd pwysau ariannol yn amlwg yn gysylltiedig ag a all pobl ifanc barhau i gymryd rhan o gwbl.
Roedd ffocws cryf hefyd ar addysg a phrofiadau cynnar. Cyfeiriodd y cyfranogwyr at ysgolion, clybiau ieuenctid, lleoliadau cymunedol, anogaeth deuluol, a chyfleoedd cynnar i berfformio neu arbrofi fel pwyntiau mynediad allweddol i gerddoriaeth. Roedden nhw hefyd yn tynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth mewn ysgolion, cynrychiolaeth gyfyngedig o ran genres, a’r angen am addysg gerddoriaeth ehangach sy’n adlewyrchu ffurfiau cyfoes a gwahanol ffyrdd o greu cerddoriaeth.
Yn olaf, mae’r nodiadau’n adlewyrchu pryder parhaus ynghylch cynrychiolaeth, cynhwysiant, a dilyniant i yrfaoedd. Mae ar bobl ifanc eisiau mwy o gymorth mewn ystod ehangach o genres, yn enwedig cerddoriaeth drefol, yn ogystal â gwell cymorth i fenywod, artistiaid niwroamrywiol, mynediad yn y Gymraeg, a’r rhai sy’n byw y tu allan i ganolfannau trefol mawr. Ochr yn ochr â hyn, maen nhw hefyd eisiau mwy o gymorth gydag ochr fusnes cerddoriaeth, gan gynnwys mentora, brandio, marchnata, rheoli, hyrwyddo, a chysylltiadau yn y diwydiant. Mae hyn yn dangos bod pobl ifanc yn meddwl o ddifrif am gerddoriaeth fel llwybr hirdymor posibl.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod tensiwn clir rhwng mynediad anffurfiol yn y gymuned a dilyniant ffurfiol yn y diwydiant. Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi mannau cymunedol yn fawr, ond maen nhw hefyd eisiau cymorth priodol yn y diwydiant. Dydyn nhw ddim eisiau dewis rhwng ymdeimlad o berthyn ar lawr gwlad a datblygiad proffesiynol. Hefyd, mae yna anghydraddoldebau daearyddol a strwythurol clir. Roedd mynediad gwledig, llwybrau bysiau, cysylltiadau rhwng Caerdydd ac Abertawe, cysylltiadau rhwng Bryste a Chasnewydd i gyd yn ffactorau cryf yn y sgyrsiau.
At ei gilydd, mae’r sesiynau hyn yn awgrymu nad oes gan bobl ifanc yng Nghymru ddiffyg diddordeb, creadigrwydd nac uchelgais. Yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gwell seilwaith, mynediad tecach, llwybrau dilyniant cliriach, a systemau cymorth hirdymor cryfach sy’n adlewyrchu realiti sut mae pobl ifanc yn mynd i mewn i fyd cerddoriaeth, yn profi’r byd hwnnw ac yn adeiladu gyrfaoedd ynddo.

