- By Rhian Hutchings
- 02/07/2026
- 0 Comments
Atseinio Young Leaders Call Out
Arweinydd Ifanc Atseinio
Ers 2018, mae Anthem wedi gweithio gyda sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid trwy ein Rhwydwaith Atsain a chyda phobl ifanc ar draws ein rhaglenni a’n digwyddiadau amrywiol.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi nodi ei bod yn anodd i bobl ifanc ennill profiad o weithio yn y sector ac yn anodd i sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid gynnig cyfleoedd a hyfforddiant â thâl.
Atseinio yw rhaglen ddiweddaraf Anthem sydd wedi’i dylunio i helpu pobl ifanc i feithrin hyder, datblygu sgiliau ymarferol ac ennill profiad cyflogedig ystyrlon fel rhan o’r gymuned cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.
Bydd y rhaglen yn para am 5 mis (gan ddechrau ym mis Medi 2026 a gorffen ym mis Ionawr 2027). Bydd yn cynnig profiad gwaith, sesiynau sgiliau rheoli prosiectau a digwyddiadau, cyfleoedd hyfforddiant pwrpasol a datblygu portffolio.
Bydd 5 o gyfranogwyr Atseinio yn derbyn:
- Bwrsariaeth o £1400 (11 awr o waith y mis ar gyfradd o £25 yr awr dros gyfnod o 5 mis)
- Cyllideb digwyddiad o £400 i guradu digwyddiad ar gyfer eich cymuned gerddoriaeth
- Cyllideb o £500 ar gyfer hyfforddiant pwrpasol a chymorth un i un i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir i chi.
- Sesiynau ar-lein misol gyda Anthem
- Cyfranogiad gweithredol yn Rhwydwaith Atsain*
*Mae Rhwydwaith Atsain yn cynnwys mudiadau cerddoriaeth ieuenctid a phobl ifanc sy’n trafod pynciau allweddol y diwydiant, yn rhannu arferion gorau ac yn mynd i’r afael â rhwystrau sy’n berthnasol i gerddoriaeth yng Nghymru.
Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fod:
- Yn 18-25 oed neu 18-30 oed os yn f/Fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol
- Wedi eu lleoli yng Nghymru
- Wedi cael o leiaf 1 flwyddyn o brofiad o fod yn gysylltiedig â sefydliad cerdd – naill ai drwy fod wedi gweithio gyda phrosiectau neu fel cyfranogwr ar brosiectau – a bod y sefydliad cerdd enwebedig hwnnw’n gallu darparu geirda (bydd ceisiadau gan rai sydd â llai na blwyddyn o brofiad yn cael eu hystyried).
- Yn meddu ar uchelgais i weithio yn sector y celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru
- Gallu mynychu’r rhestr o ddyddiadau hanfodol sydd wedi’i nodi isod
Dyddiadau Allweddol y Rhaglen
- Dydd Llun 17 Awst 1-2pm ar gyfer cyflwyniad y rhaglen
- 5 x Dydd Llun 1-3pm rhwng Medi 2026 a Chwefror 2027 ar gyfer cyfarfodydd Atseinio (21 Medi, 19 Hydref, 16 Tachwedd, 14 Rhagfyr, 18 Ionawr)
- 2 x cyfarfod rhwydwaith Atsain dydd Iau 10am-12pm (10 Medi, 12 Tachwedd)
Ymgeisio
Defnyddiwch y ffurflen gais sydd ar gael ar y ddolen isod i wneud cais:
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o amryw gefndiroedd, profiadau, hunaniaethau a chymunedau ledled Cymru. Rydyn ni’n annog yn arbennig geisiadau gan bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg, cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli, a phobl ifanc b/Byddar, anabl neu niwrowahanol.
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau’r cais neu os oes angen addasiadau arnoch i gael mynediad i’r broses, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo. Rydyn ni’n derbyn ceisiadau fideo a gaiff eu hanfon i’r cyswllt sydd wedi’i nodi isod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gyflwyno cais fideo, y cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer y rhaglen yw alexandra.jones@anthem.wales
Cwestiynau Cyffredin
Faint o fy amser fydd y rhaglen yn ei gymryd i’w chwblhau?
Mae 56 awr i gyd fel rhan o’r rhaglen, i’w rhannu dros 5 mis (Medi 2026 – Ionawr 2027). Mae hyn yn cyfateb i 11 awr o waith y mis ac 1 awr ar gyfer y sesiwn gyflwyno. Ni fydd unrhyw hyfforddiant a wnewch ochr yn ochr â’r rhaglen yn cyfrif yn nghyfanswm eich oriau. Bydd yr amser y mae eich hyfforddiant yn ei gymryd yn amrywio o sesiwn i sesiwn.
Beth yw fy nghyfrifoldebau ar y rhaglen?
Byddwch yn gyfrifol am fynychu sesiynau misol y garfan ar-lein, hyfforddiant amrywiol o’ch dewis wedi’i deilwra, a chynulliadau Rhwydwaith Atsain. Fel rhan o’ch portffolio, byddwch yn creu digwyddiad o’ch dewis ar gyfer eich cymuned gerddoriaeth. Bydd eich gwaith ar draws y rhaglen yn cael ei gofnodi mewn llyfr log a bydd disgwyl i chi gyfrannu at broses werthuso ar ddiwedd rhaglen Anthem.
Beth yw cyfrifoldebau’r sefydliad cerddoriaeth enwebedig?
Mae llawer o sefydliadau’n cael trafferth o ran capasiti, felly rydyn ni wedi sicrhau bod rôl y sefydliad mor syml â phosibl. Bydd angen iddyn nhw gadarnhau eu bod wedi darllen y canllawiau i’r sefydliadau (dolen fan yma) a chynnig geirda ar gyfer eich cais. Fe fyddan nhw’n gyfrifol am osod tasgau gwaith i chi sy’n cyfateb i tua 6 awr y mis. Yn olaf, bydd angen iddyn nhw roi adborth mewn arolwg byr ar ddiwedd y rhaglen.
Sut bydd fy oriau gwaith yn cael eu rhannu ar draws y rhaglen?
Bydd eich oriau gwaith yn cael eu rhannu rhwng cyfarfodydd Atseinio, diweddaru eich llyfr log, chwilio am gyfleoedd hyfforddi a gwneud gwaith ar ran eich sefydliad cerddoriaeth enwebedig. Ni fydd unrhyw hyfforddiant a wnewch yn cyfrif tuag at gyfanswm eich oriau.
Sut caf i fy nhalu?
Cewch eich contractio fel gweithiwr llawrydd gan Anthem a bydd gofyn i chi anfonebu am eich taliad o £1400 mewn rhandaliadau. Rydych chi’n gyfrifol am dalu eich treth a’ch Yswiriant Gwladol eich hun. Bydd eich cyllideb o £400 ar gyfer digwyddiad cymunedol yn cael ei hanfon i chi ar y sail eich bod yn darparu crynodeb o’r gyllideb a thystiolaeth o’r gwariant ar ôl eich digwyddiad. Bydd eich cyllideb hyfforddi o £500 yn cael ei dal gan Anthem ac yn cael ei gwario ar eich rhan pryd bynnag y bo angen.
Pa fath o rinweddau ydych chi’n chwilio amdanyn nhw ymhlith cyfranogwyr Atseinio?
Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn cael eu hysgogi gan y gymuned a cherddoriaeth. Rhaid i’r cyfranogwyr allu gweithio’n annibynnol ac ar y cyd. Er y bydd cymorth ar gael ar gyfer hyn, bydd angen i chi fynd ati’n fwriadol i chwilio am eich cyfleoedd hyfforddi eich hun.

