LIVE Trust yn ariannu sioeau arddangos i gerddorion ifanc ledled Cymru

Mae Anthem yn falch o fod wedi cael ein dewis yn un o’r rhai a fydd yn cael eu hariannu fel rhan o ail gylch cyllido gwerth £1 miliwn elusen LIVE Trust!

Daw’r cyllid o gyfraniad gwirfoddol o £1 sy’n cael ei ychwanegu at docynnau sioeau sydd â chapasiti o fwy na 5,000. Bydd y cyllid yn rhoi hwb i raglenni sy’n helpu i gadw lleoliadau ar agor, helpu gwyliau i barhau, helpu artistiaid i deithio, a chefnogi’r bobl sy’n hyrwyddo ac yn llwyfannu cerddoriaeth fyw.

Ers lansio ym mis Ionawr 2025, mae LIVE Trust wedi sicrhau mwy na 6 miliwn o addewidion ar docynnau, gan weithio gyda 10 o hyrwyddwyr ar draws mwy na 100 o deithiau. Llai na blwyddyn ers cyfarfod cyntaf LIVE Trust, mae’r ffigurau diweddaraf yn tynnu sylw at y twf cyflym a pharhaus sydd yn y gefnogaeth i fodel ariannu dan arweiniad y diwydiant ar gyfer cerddoriaeth fyw ar lawr gwlad.

Bydd y cyllid hwn yn helpu Anthem i gyflwyno rhaglen amrywiol o sioeau cerddoriaeth fyw dan arweiniad pobl ifanc mewn partneriaeth â lleoliadau a sefydliadau cerddoriaeth llawr gwlad ledled Cymru, gan gynnwys sioeau Datgloi Anthem a digwyddiadau sy’n dathlu’r cerddorion ifanc rydyn ni’n eu cefnogi ar draws prosiectau ehangach Anthem.