Ein Stori

Ein Gweledigaeth a'n Cenhadaeth

Cymru lle mae pobl ifanc yn arwain ecosystem miwsig ieuenctid bywiog a chysylltiedig.

Mae ein gwaith yn adeiladu sgiliau, hyder a chymuned drwy gerddoriaeth drwy:

  • cefnogi pobl greadigol ifanc ym maes cerddoriaeth i ddatblygu drwy waith prosiect
  • cysylltu sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru
  • gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl ifanc i archwilio cerdd
  • cynnig gwybodaeth a chyfleoedd i artistiaid ifanc i’w helpu i gtmryd eu camau nesaf
  • eirioli dros bwer cerddoriaeth i bolb ifanc

Ein stori

Sefydlwyd Cronfa Gerdd Cymru Anthem yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn archwilio ffyrdd o gefnogi pobl ifanc i wneud cerddoriaeth a dysgu yng Nghymru.

Mae Anthem yn dod â phobl ifanc, partneriaid, artistiaid a’r sector cerddoriaeth ieuenctid ehangach ynghyd i sicrhau y gall pob person ifanc yng Nghymru ymgysylltu â cherddoriaeth a’i llunio yn eu cymunedau. Drwy gyd-greu gyda phobl ifanc a phartneriaid, rydym yn rhoi llais ieuenctid wrth wraidd ein gwaith, gan feithrin talent, creadigrwydd, hyder a chymunedau cryfach.

Bob blwyddyn, mae dros 5,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn rhaglenni Anthem sy’n meithrin sgiliau, lles a pherthyn. Mae Porth Anthem yn rhannu cyfleoedd ac adnoddau sgiliau ledled Cymru, gan agor llwybrau i addysg a gyrfaoedd cerddoriaeth, tra bod arddangosfeydd UNLOCKED yn rhoi profiadau cyntaf o gerddoriaeth fyw i berfformwyr ifanc a chynulleidfaoedd mewn ardaloedd dan anfantais. Mae Nurture (yn dod yn fuan) yn darparu cefnogaeth a chyllid wedi’u teilwra i’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i ddatblygiad, ac mae ein carfan flynyddol o bobl ifanc creadigol amrywiol yn helpu i gyd-ddylunio ein gweithgaredd, gan sicrhau bod cynrychiolaeth ieuenctid a phrofiad byw yn llywio popeth a wnawn. Rydym hefyd yn arwain rhwydwaith ledled Cymru o dros 75 o ymarferwyr cerddoriaeth ieuenctid, gan gryfhau cydweithio, cynhwysiant ac arloesedd ar draws y sector.

Ein Heffaith

Dysgwch fwy am yr effaith y mae Anthem yn ei chael a sut rydym yn cefnogi sefydliadau a phobl ifanc yng Nghymru yma.

Ein polisïau

Mae Anthem wedi ymrwymo i lywodraethu da ac mae ganddi ystod lawn o bolisïau ar waith i gefnogi ein gwaith. Os hoffech weld copïau o unrhyw un o’n polisïau, cysylltwch â’n Prif Swyddog Gweithredol yn rhian.hutchings@anthem.wales