Arweinwyr Ifanc Atseinio

Wrth ymgysylltu â phobl ifanc drwy ein rhaglenni amrywiol a gweithio gyda sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid drwy ein rhwydwaith Atsain, mae Anthem wedi canfod yr heriau ganlynol:

  1. Y mae diffyg cyfleoedd â thâl i bobl ifanc o fewn y gymuned gerddorol Gymreig, sy’n arwain at fylchau ar CVs, hyder isel a llwybrau cynnydd annelwig.
  2. Yn aml, nid oes gan sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru’r capasiti na’r adnoddau i gynnig cyfle profiad gwaith â thâl, sy’n golygu eu bod yn aml yn methu cael arweiniaeth ieuenctid ar flaen eu tîm.

Credwn fod angen rhoi’r cyfle i bobl ifanc i arwain â’u lleisiau’n atseinio er mwyn i’r ecosystem gerddorol ieuenctid ffynnu. Er mwyn sicrhau dyfodol y gymuned gerddoriaeth Gymreig, mae angen pobl ifanc parod a hyderus gerllaw i arwain undydd, a nawr yw’r amser i gadarnhau’r dyfodol hwnnw.

Fel ymateb i’r heriau hyn, rydym wedi creu’r rhaglen Arweinwyr Ifanc Atseinio. Mae’n cynnwys 55 awr o brofiad gwaith â thâl (wedi’i rannu rhwng Anthem a sefydliad cerddoriaeth ieuenctid o’u dewis nhw), cyllideb o £500 i’w gwario ar hyfforddi a £400 i roi digwyddiad ymlaen i gymuned gerddoriaeth. Bydd aelodau’r rhaglen yn cyfarfod yn gyson, a’n gefnogol gan Anthem drwy gydol y broses.

Mi fydd treial cyntaf y rhaglen yn cefnogi 5 person ifanc a 5 sefydliad, gan ddechrau ym mis Awst 2026 a dod i ben ym mis Ionawr 2027.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu hoffech gysylltu gyda ni, os gwelwch yn dda cysylltwch â rheolwr rhaglen Anthem alexandra.jones@anthem.wales