Croesawu ein Hymddiriedolwyr Ifanc

Haia, Violet Hunt-Humphries ydw i. Mi wnes i ymuno â theulu Anthem ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Ymchwil a Gweinyddol – Lleoliad Kickstart. A minnau wedi fy magu mewn cartref a oedd yn llawn o gelf a cherddoriaeth, mae fy nghariad at greu, chwarae a pherfformio wedi dyfnhau’n gynyddol. Fel cerddor angerddol ac un sy’n frwd am y diwydiant creadigol, neidiais at y cyfle i gynrychioli’r elusen hyfryd hon a gweithio fel rhan o dîm o bobl frwdfrydig, llawn ysbrydoliaeth, sy’n caru cerddoriaeth. Rwy’n sylweddoli mor bwysig yw barn pobl ifanc a’r gwerth sydd i gerddoriaeth yn eu bywydau. Credaf y dylai eu syniadau a’u barn chwarae rhan fawr wrth ffurfio datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ymuno ag Anthem wedi rhoi’r cyfle i mi weithredu ar y gwerth hwn y mae gen i gymaint o barch ato, a chael perthyn i rywbeth sy’n cael cymaint o effaith.

Llais pobl ifanc yw calon ac enaid y gwaith a wnawn yn Anthem, ac ar ôl cyhoeddi galwad am ymddiriedolwyr ifanc 18-25 oed, rydym wrth ein boddau i groesawu wynebau ifanc newydd i’n tîm o Ymddiriedolwyr! Dyma gyflwyno Ella Pearson, Tayla-Leigh Payne a Ryan Singh. Darllenwch i gael clywed am eu taith fel pobl ifanc sy’n frwdfrydig ynglŷn â cherddoriaeth a sut mae eu hangerdd yn rhan annatod o gefnogi ein gwaith.

Ella Pearson

Myfyriwr yn CBCDC yw Ella, ac mae’n astudio’r obo a’r cor anglais. Mae’n aelod o The Olive Collective (triawd wedi’i ddylanwadu gan gerddoriaeth jazz a gwerin) ac mae’n eirioli’n gryf dros gerddoriaeth ac iechyd meddwl. Ysgrifennodd Ella ddarn i’n gwefan ac ymddangosodd ar bodlediad cerddoriaeth ac iechyd meddwl Anthem, ‘Don’t Mind the Music.’ Mae Ella wrth ei bodd o gael ei henwi’n Ymddiriedolwr Ifanc Anthem ac mae’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â bod yn rhan o sefydliad mor rhyfeddol!

Beth sy’n dod â chi i dîm Anthem? 

Cefais fy nghyflwyno i Anthem drwy eu Fforwm Ieuenctid cyntaf, a coedd yn llawn ysbrydoliaeth i mi. Mi wnes i deimlo ar unwaith fy mod i wedi cael fy nerbyn gan deulu newydd. Roedd clywed gan bobl ifanc eraill a siaradodd mor angerddol am wella mynediad i gerddoriaeth yn fy ysgogi, yn ogystal â chael gweld y gwaith pwysig roedd Anthem yn ei wneud. Roeddwn i’n benderfynol o barhau i ymwneud â’r tîm. Pan welais i fod Anthem yn chwilio am Ymddiriedolwyr Ifanc, roeddwn i’n gwybod mai dyma’r cyfle perffaith i mi barhau i eirioli dros bobl ifanc ym myd cerddoriaeth. 

Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn? 

Mae cerddoriaeth wedi bod yn amlwg yn fy mywyd ers cyn cof. Pan oeddwn i’n ifanc iawn, byddai fy Nhad-cu yn creu caneuon ac yn eu canu gyda’i gitâr i fy mrawd a mi. Mae fy Nhad hefyd wedi bod yn ddylanwad enfawr ar fy angerdd at gerddoriaeth: mi fyddai’n fy nghyflwyno i fandiau newydd (pa blentyn 7 oed arall fyddai’n mynd i barti pen-blwydd karaoke a gofyn i gael canu ‘Losing my Religion’ gan REM – mewn eglwys?!) a churadu rhestrau chwarae arbennig i wrando arnynt yn y car. Fy mhrofiad cyntaf o gerddoriaeth fyw oedd pan aeth fy rhieni â ni i Ŵyl Womad pan oedd fy mrawd a minnau’n fach iawn. Cefais fy nghyflwyno i amrywiaeth eang iawn o arddulliau cerddorol o bedwar ban byd, yn ogystal â gweld arwr fy mhlentyndod, Peter Gabriel, a dyna oedd y tro cyntaf i mi deimlo ewfforia cerddorol go iawn.

Beth sy’n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a’i pherthynas â phobl ifanc yng Nghymru?

Gan wybod mor bwysig fu cerddoriaeth yn fy mywyd, rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan bobl ifanc eraill fynediad at gerddoriaeth, pwy bynnag ydyn nhw. Rwy wedi cael profiad o salwch meddwl ers oeddwn i’n 12 oed ac mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd hanfodol o ymdopi yn ogystal â bod yn ffordd i ddianc. Yn anffodus, mae cymaint o bobl ifanc yn wynebu rhwystrau i gerddoriaeth na allan nhw eu goresgyn, ac o wybod cymaint o ddylanwad mae cerddoriaeth wedi’i chael ar fy iechyd meddwl, dydw i ddim eisiau i unrhyw berson ifanc fod hebddi, yn arbennig o ystyried yr heriau mae cymaint yn eu hwynebu heddiw. Mae cerddoriaeth wedi bod yn therapi i mi ac wedi fy achub i, ac ni allaf ddychmygu bywyd hebddi.

 

Ryan Singh

Mae gan Ryan radd yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd a gradd Meistr yn y Gyfraith (gan arbenigo mewn Cyfraith Masnach a Llywodraethu). Mae’n mwynhau symud yn yr awyr agored, yn chwarae tennis, padlfyrddio a cherdded ar y traeth gyda’i bedwar sbaniel.

Beth sy’n dod â chi i dîm Anthem?

Pan oeddwn i’n 17, fe gefais i fy mhenodi yn Gyfarwyddwr ar Gwmni Buddiannau Cymunedol, a dyna lle y gwnaeth fy angerdd at gyfarwyddo cwmni gychwyn. Rwy’n ffodus iawn fy mod wedi cael nifer o gyfleoedd i fod yn aelod o Fyrddau Cwmnïau/Elusennau ac rwy wedi bod yn chwilio am her newydd! Pan glywais i fod Anthem yn edrych am Ymddiriedolwyr newydd, dyma fi’n neidio at y cyfle i wneud gwahaniaeth mewn sector sy’n gymharol newydd i mi – cerddoriaeth.

Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn?

Fel y rhan fwyaf o bobl, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf o frwydro drwy COVID wedi bod yn rhyfeddol o anodd ac mae’n golygu ein bod ni wedi gwneud aberth. Gan nad oeddwn i’n gallu cymdeithasu a mwynhau bywyd cymaint ag oeddwn i wedi arfer, fe wnes i droi at gerddoriaeth fel ffordd i fwynhau amser ar fy mhen fy hun a theimlo fy mod i’n rhan o rywbeth mwy. Roedd cerddoriaeth yn fy ngrymuso fel unigolyn ac ar y cyd ac eraill, ac felly roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio’r diwydiant ymhellach.

Beth sy’n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a’i pherthynas â phobl ifanc yng Nghymru?

Rwy’n credu’n angerddol bod darparu profiadau newydd, fel cerddoriaeth, i bobl yn gwella eu datblygiad. Mae fy mhrofiadau o weithio gyda phobl ac ar ran pobl fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i Gwmni Buddiannau Cymunedol ac fel Ymddiriedolwr Undeb Myfyrwyr (gyda 30,000 o aelodau) wedi dangos bod gen i, yn greiddiol, awydd i ddatblygu’n bersonol a phroffesiynol. Drwy gyfrannu at y datblygiad hwn, rwy’n credu y gallaf wneud gwahaniaeth i fywydau fy nghyfoedion sy’n byw yng Nghymru, a dyna sy’n fy ngyrru i.

Tayla-Leigh Payne

Cyfansoddwr / dylunydd sain o Abertawe yw Tayla. Bu’n astudio Cyfansoddi a Thechnoleg Greadigol yn CBCDC. Mae Tayla yn gweithio’n llawrydd ar amryw brosiectau fel cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Anfamol, Cynllun Arwain CoDI Tŷ Cerdd ac Operasonic ac mae’n Weithiwr Cymorth Ieuenctid Cerddoriaeth yn YMCA Abertawe.

Beth sy’n dod â chi i dîm Anthem?

Roeddwn i’n aelod o Fforwm Ieuenctid Anthem a Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru. Pan ddaeth y ddau fforwm i ben, doeddwn i ddim yn barod i adael, a dyna pryd wnaethon nhw gyhoeddi’r alwad am Ymddiriedolwyr Ifanc. Yn ystod fy amser ar y fforwm ieuenctid, roedd yn chwa o awyr iach gweld bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu defnyddio a’u hystyried o ddifri, ac y gallem ni gyfrannu at ddatblygiad y diwydiant cerddoriaeth. Yn yr un modd, mae Anthem yn teimlo fel cymuned amrywiol a chynhwysol – roedd yno gymaint o bobl ifanc a oedd yn cynrychioli gwahanol rannau o’r diwydiant, ac felly hefyd yn achos aelodau bwrdd Anthem. Rwy eisiau bod yn rhan o’r fenter yma i helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd i gael i mewn i gerddoriaeth.

Sut wnaeth eich cariad at gerddoriaeth gychwyn? 

Rwy’n cofio cael fy nghyfareddu gan gerddorfeydd pan oeddwn i’n iau, ac roedd fy nhad-cu yn arbennig o hoff o gerddoriaeth glasurol. Fe wnes i ddechrau dysgu’r recorder a’r fiolín yn yr ysgol gynradd ond dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth ffynnu go iawn pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd lle’r oeddwn i’n chwarae’r ffliwt. Roedd y cyfan yn cael ei wneud drwy wersi cerdd peripatetig. Dyna’r ffordd fwyaf ymarferol i ddysgu ar pryd ac rwy wir yn credu na fyddwn i’n gerddor heb y cyfleoedd hynny.

Beth sy’n eich gwneud i deimlo angerdd at gerddoriaeth a’i pherthynas â phobl ifanc yng Nghymru?

O fy mhrofiad personol o gael addysg cerddoriaeth, roedd gweld sut y cefais i gyfleoedd hygyrch drwy wersi peripatetig (a oedd yn llawer mwy posibl na gwersi preifat), yn gwneud i mi eisiau dod o hyd i ffyrdd i hynny barhau ar gyfer pobl ifanc. Yn yr un modd, mae’n ffordd wych i bobl ifanc fynegi’u hunain ac rwy’n credu bod lle i ragor o gyfleoedd. Rwy wedi gweld mor hanfodol y gall cerddoriaeth fod i bobl ifanc drwy fy ngwaith fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cerddoriaeth yn YMCA. Rwy’n credu bod gan bobl ifanc allu gwych i leisio’r hyn maen nhw eisiau ac rydym ni’n creu’r fath gerddorion rhyfeddol yn Nghymru eisoes. Byddai’n wych parhau i ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud â cherddoriaeth.