- By Rhian Hutchings
- 2022-06-07
- 0 Comments
Cyhoeddiad Rownd Un Cronfa Atsain
15 o sefydliadau lleol yn derbyn £140k o grantiau i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad i’w groesawi gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf am gyllid helaeth ar gyfer mynediad i gerddoriaeth mewn ysgolion, mae Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i gefnogi pobl ifanc a cherddoriaeth drwy ddyfarnu gwerth £140k o grantiau i 15 o sefydliadau ledled Cymru i helpu i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc.
Cronfa newydd sbon yw Atsain sy’n gweithio ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Caiff ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music drwy chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl ac adnoddau Anthem gyda chefnogaeth gan noddwyr sefydlu a Llywodraeth Cymru.
Roedd modd i sefydliadau wneud cais am hyd at £10,000 i’w helpu i gyflawni prosiectau cerddoriaeth penodol i bobl ifanc yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â rhwystr penodol i ymgysylltu.
Mae rhai o’r 15 sefydliad sy’n cael eu cefnogi i fynd i’r afael â rhwystrau i bobl ifanc rhag cael mynediad at gerddoriaeth yn gweithio ledled Cymru neu ar draws ardaloedd rhanbarthol penodol.
Bydd Celfyddydau Anabledd Cymru yn defnyddio grant Atsain i lansio prosiect Llwybrau at Gerddoriaeth a fydd yn dwyn pobl ifanc anabl a Byddar ynghyd ledled Cymru i arwain a datblygu chwech o weithdai i bobl ifanc 16-30 oed, gan roi offer pwrpasol a hygyrch iddynt ddechrau cyfansoddi, chwarae a pherfformio cerddoriaeth. Dyma fydd y cynllun cerddoriaeth cyntaf ledled Cymru i gael ei arwain gan bobl anabl ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau bod yn creu cerddoriaeth gyfoes.
Bydd Media Academy Cymru yn defnyddio arian Atsain i sefydlu dosbarthiadau meistr cerddorol misol, a gaiff eu cynnal ledled cymunedau yn ne Cymru i gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau oherwydd y system cyfiawnder troseddol, ethnigrwydd, niwroamrywiaeth a rhai nad ydynt ar hyn o bryd mewn addysg na chyflogaeth.
Bydd Trac Cymru yn cefnogi pobl ifanc ar y cyrion i fynegi eu profiadau personol eu hunain gan ddefnyddio traddodiadau gwerin o adrodd storïau a gwybodaeth gyfunol.
Yn ogystal â phrosiectau ledled Cymru, mae Cronfa Atsain hefyd yn cefnogi prosiectau cerddoriaeth ieuenctid lleol:
Yng Nghaerdydd, bydd Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon yn lansio prosiect amlddiwylliannol a fydd yn pontio’r cenedlaethau. Bydd yn cynnwys gweithdai drymio, canu ac offerynnau. Bydd y prosiect yn ceisio cynrychioli a bod yn gynrychioliadol o’r holl gymunedau yn ardal Glan yr Afon.
Bydd Sound Progression yn lansio cyfres o weithdai o’r enw Next Level i wella llwybrau dilyniant i bobl ifanc 10-25 oed ac o gefndiroedd amrywiol a/neu sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
Yng nghanolbarth Cymru, bydd Theatr Brycheiniog yn sefydlu grŵp cynhyrchu, i greu rhaglen gerddorol i’r Theatr, gan ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u dylunio, eu curadu a’u harwain gan bobl ifanc i bobl ifanc.
Yn ngogledd-ddwyrain Cymru, bydd Art and Soul Tribe yn lansio eu prosiect, Bridging the Gap, a fydd yn cefnogi pobl ifanc 13-18 oed, gyda phwyslais penodol ar niwroamrywiaeth, iselder a gorbryder, amddifadedd economaidd a cheiswyr lloches. Bydd Art And Soul Tribe yn gweithio gyda charfan o bobl ifanc i greu a datblygu gofodau diogel a sesiynau i ddysgu sgiliau newydd, dod i gyswllt â cherddorion proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, a chydweithio i gydgynhyrchu digwyddiad o berfformiadau terfynol mewn lleoliad cerddoriaeth lleol.
Yng ngogledd-orllewin Cymru, bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn datblygu ac ehangu darpariaeth gerddorol i blant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd a Sir Ddinbych drwy gynnal clybiau cerdd a sesiynau arddangos mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau. A sesiynau cerdd mewn ysgol feithrin i blant anabl.
Dyma’r gronfa fawr gyntaf i gael ei chyhoeddi gan Anthem, ac mae rhagor o gynlluniau uchelgeisiol ar y gweill weddill 2022, gan gynnwys Porth Digidol newydd a fydd yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llwybr at gerddoriaeth.
Bydd pob sefydliad sy’n cael ei ariannu drwy Atsain yn cychwyn ar eu gweithgareddau yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd eu rhaglenni o weithgareddau’n para rhwng 6 a 18 mis. Caiff cylch nesaf Cronfa Atsain ei gynnal yn hydref 2022.