Cyflwyno Panel SUMMIT 2022 Beacons – ‘Pam Radio ac Nid Podlediad?’

Connor Morgans, aelod o Fforwm Ieuenctid Anthem ac Ymgynghorydd Ifanc Beacons, sy’n rhannu ei brofiad o gyflwyno panel ‘Pam Radio ac Nid Podlediad?’ fel rhan o Gynhadledd Cerddoriaeth SUMMIT 2022 Beacons. Camau cyntaf Connor i weithio ym maes radio oedd gwneud paneidiau yn Radio Cardiff a magu profiad o gyflwyno ar radio ei ysbyty lleol.
Cafodd brentisiaeth wedyn gyda BBC Radio Wales, a wnaeth arwain at weithio ym maes cynhyrchu ar Radio Nation, BBC Radio 3 a 4, a lle mae’n gweithio nawr ar Capital FM ac yn cyflwyno rhaglen frecwast ar y penwythnos i Radio Cardiff.

Dyma sut aeth hi…

Connor Morgans ydw i. Rwy’n gynhyrchydd a chyflwynydd radio ac ar 21 Mai fe wnes i gyflwyno panel ar gyfer cynhadledd Beacons SUMMIT, a mwynhau mas draw!

Os nad ydych chi’n siŵr beth yw SUMMIT, dyma wers fach sydyn. Cynhadledd a digwyddiad i’r digwyddiad cerddoriaeth yw SUMMIT sy’n cynnwys artistiaid cyffrous, hyrwyddwyr gigs, cynhyrchwyr ac, yn fy achos i, cyflwynwyr radio. Cynhaliwyd SUMMIT rhwng 19 a 21 Mai 2022. Roedd y digwyddiad yn cynnwys paneli fel ‘Sut i Drefnu Gig’ a ‘Phecyn Cymorth i Weithwyr Llawrydd’. Roedd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru fel Charlie J, Hemes ac eraill. Hefyd (os yw’n bosibl cael mwy), roedd yna weithdai creadigol ar y gweill! At ei gilydd, roedd SUMMIT yn bair o wybodaeth a
cherddoriaeth dros sawl diwrnod ac mewn sawl lleoliad o amgylch Caerdydd.

A nawr ymlaen at y panel yr oeddwn i mor ffodus i gael ei gyflwyno. Teitl y panel oedd ‘Pam Radio ac Nid Podlediad?’ Roeddwn i mor lwcus o fod yn eistedd wrth y bwrdd yng nghwmni Lauren Moore o BBC Radio Cymru, Sam MacGregor o BBC Radio 1 ac Aleighcia Scott o BBC Radio Wales. Dyma dri o enwau amlwg a dawnus y byd radio, a chafwyd atebion hynod amrywiol i fy nghwestiynau. Roedd yn wych cael gwell syniad o’u llwybrau nhw i mewn i fyd radio, beth maen nhw’n ei hoffi am y platfform, ac wrth gwrs, eu barn am radio yn hytrach na phodlediadau. Afraid dweud, roedden nhw i gyd yn rhagorol, ac roeddwn i’n falch bod popeth wedi mynd mor dda (hyd yn oed os oeddwn i’n hynod o nerfus!).

Roedd paratoi ar gyfer y panel yma yn hollbwysig i mi. Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod gen i gwestiynau gwerthfawr ar eu cyfer, ond fy mod i’n ei guradu ar gyfer pob siaradwr yn benodol. Er enghraifft, roeddwn i’n gwybod bod Sam MacGregor wedi llwyddo i dorri drwyddo ar Radio 1 drwy demo a anfonodd i mewn pan oedden nhw’n chwilio am Gyflwynydd Nadolig, ac roeddwn i eisiau gofyn iddo beth mae’n meddwl oedd yn gwneud ei demo e’n arbennig a pha gyngor sydd ganddo i ddarpar gyflwynwyr. Ac er fy mod i’n paratoi, roeddwn i eisiau i’r drafodaeth fod ar ffurf sgwrs ac yn llawn mwynhad.

O ran sut y gwnes i gael cyflwyno’r panel, roedd hynny am fy mod i wedi bod yn rhan o Ymgynghoriaeth Ifanc Beacons. Mae’n gyfarfod sy’n digwydd bob pythefnos rhwng pobl hynod dalentog yn y diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru, ac fe wnaethom ni  ddefnyddio ein gwybodaeth eang ac amrywiol yn y diwydiant i guradu a chynhyrchu’r digwyddiad SUMMIT cyntaf i gael ei gynnal wyneb yn wyneb! Yn dilyn fy nghyfnod yn yr ymgynghoriaeth, daeth aelod o’r tîm ataf a gofyn a fyddai gen i ddiddordeb oherwydd fy mhrofiad blaenorol o gyflwyno ar y radio, yn enwedig cyflwyno rhaglen frecwast ar y penwythnos i Radio Cardiff. Wrth gwrs, roeddwn i wrth fy modd i gael y cynnig ac rwy’n gobeithio fy mod i wedi cyflwyno panel gwych.