DISGRIFIAD O’R PROSIECT

Bandology yn gwrs 5 wythnos, am ddim, a fydd yn cael ei gynnal ddechrau 2026 i gyflwyno 5 sesiwn gyda’r nos sy’n cynnig yr offer a’r sgiliau sydd eu hangen i fod mewn band ffyniannus. Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i helpu o ran gosod nodau, llunio cynllun gweithredu, chwilio am gyfleoedd, cynnal lles a threfnu’r ochr ariannol. Bydd Bandoleg yn rhyngweithiol, yn cael ei gynnal ar-lein ac yn cynnwys cyfraniadau gan fandiau arloesol ledled Cymru.

Bydd cwrs Bandoleg Anthem…

 

  • Yn helpu i drefnu nodau, cynlluniau a thasgau sy’n ymwneud â band
  • Yn cynnig awgrymiadau ar sut i gyfathrebu’n effeithiol a bod yn deg yn ogystal â chymorth ar gyllidebu a chodi arian
  • Yn rhoi mynediad at adnoddau defnyddiol, yn cyfeirio at sefydliadau perthnasol ac yn rhoi’r offer sydd eu hangen arnoch i gynnal iechyd eich band
Gwybodaeth am y Sesiynau 

Dydd Llun 26ian Ionawr 2026 @ 6:00PM – 7:30PM
Sesiwn 1: Nodau – Gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch cyd-aelodau o’r band ar yr un donfedd a gosod nodau

Dydd Llun 2il Chwefror 2026 @ 6:00PM – 7:30PM
Sesiwn 2: Cynllun y Band – Dod o hyd i’r offer cywir i lunio cynllun gweithredu eich band

Dydd Llun 9fed Chwefror 2026 @ 6:00PM – 7:30PM
Sesiwn 3: Cyfleoedd – Chwilio am gyfleoedd a bod yn barod yn broffesiynol

Dydd Llun Chwefror 16eg @ 6:00PM – 7:30PM
Sesiwn 4: Popeth yn ei Le? – Cyfathrebu’n effeithiol a chynnal iechyd y band

Dydd Llun 23ain Chwefror 2026 @ 6:00PM – 7:30PM
Sesiwn 5: Arian – Creu cyllideb y band a chodi arian yn effeithiol

Tâl

Bydd y cyfranogwyr yn derbyn taleb gwerth £50 am fynychu pob sesiwn. 

Bydd y taliadau’n cael eu gwneud ar ôl 23 Chwefror 2026. 

*Mae nifer gyfyngedig o leoedd â thaleb ar gael felly bydd y talebau’n cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. 

Rhaid i’r cyfranogwyr fod:

 

  • Yn seiliedig yng Nghymru
  • Yn 18-25 oed
  • Mewn band neu’n bwriadu bod mewn band
  • Â mynediad i’r rhyngrwyd a Zoom
  • Yn bwriadu mynychu pob un o’r 5 sesiwn
  • Yn barod i roi adborth ar gyfer proses werthuso Anthem

C: Oes angen i’r band cyfan fod yno?

Byddai’n ddefnyddiol pe bai cymaint o’r aelodau â phosibl yn bresennol, er ei bod hefyd yn opsiwn i gynrychiolwyr fod yn bresennol a chyfleu gwybodaeth, rhannu adnoddau a chwblhau unrhyw ymarferion gyda’u band rhwng sesiynau.

Sut a phryd ydw i’n cofrestru?

Mae’r cofrestru ar agor am 3 wythnos, gan agor ar 27 Tachwedd 2025 a chau ar 12 Ionawr 2026.

Y Camau Nesaf

Ar ôl gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost sy’n cadarnhau eich lle. 

Byddwn yn cysylltu â chi ddechrau 2026 i roi set o adnoddau a dolen i’r sesiwn gyntaf.

***Cefnogir y prosiect hwn gan Youth Music, diolch i People’s Postcode Lottery