Mae Anthem yn angerddol am bŵer cerddoriaeth i bobl ifanc. Os ydych chi’n rhannu ein hangerdd, gallai gweithio gydag Anthem fod ar eich cyfer chi.

Darganfyddwch fwy am ein swyddi gwag a’n cyfleoedd cyfredol isod. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni trwy e-bostio Rhian Hutchings.

Os ydych yn chwilio am fwy o gyfleoedd ym myd cerddoriaeth yng Nghymru, edrychwch ar y Dudalen Cyfleoedd ar y Porth Anthem!

Swyddi gweigion anthem

CYNORTHWYYDD CYFATHREBU DIGIDOL ANTHEM

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyfathrebu Digidol llawrydd i gynorthwyo ein Rheolwr Cyfathrebu.

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth o’r ddolen isod i ddarganfod mwy.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 6pm ddydd Gwener 22 Awst 2025.

Anthem FFWD>>

Darganfyddwch fwy am sut i gymryd rhan yn Anthem FFWD>>.

Cyfleoedd Eraill

Dysgwch am brosiectau, cyllid, swyddi a digwyddiadau sydd ar gael ar draws y sector cerddoriaeth yng Nghymru drwy ymweld â Phorth Anthem.