RRR

Rural Routes Rhythms: Anthem x Wazo Coop International Project

Mae Rhythmau Llwybrau Gwledig yn fenter sy’n cael ei hariannu gan Taith ac mae wedi’i dylunio i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol ifanc ym myd cerddoriaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru a Sbaen. Trwy brosiect cyfnewid rhyngwladol, bydd chwe cherddor ifanc (tri o Gymru a thri o Sbaen) yn dod i gyswllt i gyd-greu adnoddau digidol ymarferol ac wyneb yn wyneb a fydd yn grymuso eu datblygiad proffesiynol a’u cysylltiad cymunedol.

 

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  • Mapio cychwynnol o’r adnoddau sydd ar gael i gerddorion gwledig yn y ddwy wlad.
  • Sesiynau hyfforddi yng Nghymru a Sbaen, yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac atebion arloesol.
  • Creu pecyn cymorth digidol ymarferol a fydd yn cael ei gynnal ar Borth Anthem a gwefan Wazo.
  • Digwyddiadau lansio yn y ddwy wlad i rannu canlyniadau ac annog ymgysylltiad â’r gymuned (wedi’i gynllunio ar gyfer ail hanner 2025).

Gyda ffocws ar amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd, bydd Rhythmau Llwybrau Gwledig o fudd nid yn unig i’r cyfranogwyr uniongyrchol ond hefyd i gynulleidfa ehangach o weithwyr proffesiynol ifanc ym myd cerddoriaeth mewn ardaloedd gwledig.

Rydym yn gobeithio cyflawni:

  • 6 o gerddorion ifanc yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn y rhaglenni symudedd.
  • 60 o gerddorion gwledig yng Nghymru a Sbaen yn profi’r pecyn cymorth.
  • 150 o ymweliadau â thudalen y prosiect yn y mis cyntaf. 
  • 50 yn bresennol yn y digwyddiadau lansio.

Yn y tymor hir, bydd y prosiect hwn yn cryfhau rhwydweithiau cerddoriaeth gwledig, yn hybu balchder cymunedol, ac yn cynhyrchu cyfleoedd economaidd cynaliadwy, a thrwy hynny’n brwydro yn erbyn y draen dawn i ardaloedd trefol.

Rôl: Cyfranogwr cyfnewid

Cyflog: Treuliau teithio a llety wedi’u talu – anghenion mynediad hefyd wedi’u cynnwys.

Ymrwymiad Amser: 12 diwrnod gweithgaredd wyneb yn wyneb, 6 ohonynt i’w cynnal yn Sbaen (Chwefror 2026) a 6 i’w cynnal yng Nghymru (Gorffennaf 2026). Bydd disgwyl i chi hefyd fod yn rhan o sesiwn gyflwyno ar Zoom gyda thîm y prosiect. 

Dyddiad Cau Cyflwyno Ceisiadau: 5pm Dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025.

Cyfweliadau: 11eg Rhagfyr 2025

 

1. YNGLŶN AG ANTHEM
Mae Anthem. Cronfa Gerdd Cymru yn elusen newydd a sefydlwyd yn 2018. Ein gweledigaeth – Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.

  • Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol cryf i bobl ifanc sy’n hybu hunanfynegiant, datblygiad personol a lles.
  • Rydyn ni’n creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau ac yn meithrin talent amrywiol i gymryd eu camau nesaf ym myd cerddoriaeth.
  • Rydyn ni’n sbardun ar gyfer cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid, yn gwneud cysylltiadau i ehangu gwaith partneriaeth, ac yn galluogi arferion gorau i ffynnu.
 

2. BETH YW RHYTHMAU LLWYBRAU GWLEDIG?
Yn ddiweddar, mae Anthem wedi cael ei hariannu gan raglen Llywodraeth Cymru: Taith, i ymchwilio i’r ffordd orau o gefnogi llwybrau gyrfa cryfach a mwy cynaliadwy i gerddorion ifanc sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy bartneru â Wazo Coop i gyflawni rhaglen gyfnewid rhwng cerddorion ifanc yng Nghymru a Sbaen, gyda’r nod o adeiladu pecyn cymorth ymarferol i bobl ifanc yn y ddwy wlad ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Mae Rhythmau Llwybrau Gwledig yn gyfle i chi rannu eich profiadau o weithio ym myd cerddoriaeth mewn ardal wledig a helpu eraill i adeiladu gyrfa ym myd cerddoriaeth, er y rhwystrau a all godi yn sgil byw a/neu weithio mewn ardal wledig.

 

Mae rhai o’r pethau y byddwch chi’n cael eu gwneud fel rhan o fenter Rhythmau Llwybrau Gwledig yn cynnwys:

 

  • Cymryd rhan yn rhaglen gyfnewid ryngwladol gyntaf Anthem rhwng Cymru a Sbaen.
  • Rhannu eich profiadau, eich heriau a’ch llwyddiannau o weithio ym myd cerddoriaeth mewn ardal wledig.
  • Rhoi adborth ar y newidiadau yr hoffech eu gweld ar gyfer gweithwyr ifanc ym myd cerddoriaeth mewn ardaloedd gwledig.
  • Cysylltu â gweithwyr ifanc eraill ym myd cerddoriaeth i ddylunio adnoddau a fydd yn helpu rhagor o bobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd cryf ym myd cerddoriaeth mewn ardaloedd gwledig.
 

3. YNGLŶN Â WAZO COOP
Mae Wazo Coop yn gydweithfa gymdeithasol sy’n gweithio gyda’r economi gymdeithasol a chydsefyll a diwydiannau diwylliannol creadigol i greu effaith gadarnhaol mewn ardaloedd gwledig. Mae Wazo Coop yn sefydliad sy’n eiddo ar y cyd ac sy’n cael ei reoli’n ddemocrataidd. Mae’n gweithio i rymuso trigolion ardaloedd gwledig trwy hyrwyddo modelau rôl cryf i ysbrydoli ac arwain cymunedau lleol, yn enwedig ieuenctid.

Mae Wazo Coop yn cydweithredu ac yn datblygu prosiectau i drawsnewid ardaloedd gwledig yn gymdeithasol gan hyrwyddo arweinyddiaeth gyfranogol trwy arloesi a dulliau creadigol er mwyn creu newidiadau cadarnhaol i hybu entrepreneuriaeth gymdeithasol ddiwylliannol ymhlith ieuenctid gwledig.

 

4. AM BWY YDYN NI’N CHWILIO?
Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â diddordeb mawr mewn cerddoriaeth yng Nghymru wledig. Efallai eich bod yn gerddor gweithgar, yn dyheu am fod yn gerddor, yn astudio neu’n addysgu cerddoriaeth, yn gerddor ystafell wely, neu’n weithiwr cerddoriaeth proffesiynol ar ddechrau eich gyrfa. 

Bydd angen i chi hefyd:

 

  • Fod wedi eich lleoli yng Nghymru
  • Bod rhwng 18 a 25 oed
  • Bod yn gweithio yng Nghymru wledig, naill ai fel rhywun sy’n byw mewn ardal wledig neu rywun sy’n teithio i weithio mewn ardal wledig
  • Bod yn gyfarwydd â phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a Zoom
  • Ymrwymo i fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir a thaith gyfnewid
  • Bod â mynediad i’r rhyngrwyd
  • Bod â phasbort dilys neu allu cael un cyn Ionawr 2026.
  • Noder nad oes angen i chi allu siarad Sbaeneg i wneud cais. Fodd bynnag, rydyn ni eisiau cyfranogwyr sydd â diddordeb mewn ymwneud â diwylliant Sbaen a dysgu oddi wrtho.

5. BETH ALL Y PROSIECT EI WNEUD I CHI?
Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu cael o fod yn rhan o fenter Rhythmau Llwybrau Gwledig:

  • Eich helpu i wneud cysylltiadau ar draws y sector cerddoriaeth yng Nghymru a Sbaen
  • Cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda gweithwyr cerddoriaeth eraill sy’n datblygu gyrfaoedd mewn ardaloedd gwledig
  • Cyfle i lunio a dylunio’r offer sydd eu hangen arnoch i gynnal gyrfa mewn cerddoriaeth
  • Cyfle i fynychu digwyddiadau a gwyliau cerddoriaeth cyffrous fel rhan o’r prosiect.

6.DYDDIADAU’R CYFARFODYDD
Bydd y prosiect hwn yn cynnwys dwy daith gyfnewid ddiwylliannol, un yn Sbaen ac un yng Nghymru. Bydd disgwyl i chi hefyd fod yn rhan o sesiwn gyflwyno ar Zoom.

I gymryd rhan, mae angen i chi ymrwymo i fynychu sesiynau ar y dyddiadau hyn:

  • Wythnos y 15fed o Ragfyr 2025 – Galwad gyflwyno Rhythmau Llwybrau Gwledig (Zoom)
  • 23ain – 28ain Chwefror 2026 – Taith gyfnewid yn Sbaen (yn bersonol)
  • 6ed – 11eg Gorffennaf 2026 – Taith gyfnewid yng Nghymru (yn bersonol)

7. SUT I WNEUD CAIS

Cwblhewch ein ffurflen gais yn y ddolen ganlynol 

https://airtable.com/appZ6vPWEnWDpcmEH/pageOqb6jyGh6nqBM/form

Mae’r ffurflen yn gofyn i chi ddweud rhai o’r canlynol wrthym ni:

  • Pwy ydych chi a beth yw eich cysylltiad â gweithio ym myd cerddoriaeth mewn ardal wledig.
  • Beth hoffech chi ei weld yn cael ei wella neu ei newid i gerddorion sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig.
  • Y sgiliau a’r wybodaeth y gallech chi eu cynnig i gefnogi’r prosiect.
  • Pam ydych chi eisiau bod yn rhan o’r prosiect a beth hoffech chi ei ddysgu o’r profiad.

Mae opsiwn i uwchlwytho dolen fideo, felly os byddai’n well gennych chi sôn amdanoch chi’ch hun trwy greu fideo byr, cofiwch gynnwys dolen a llenwch flychau’r ffurflen gais â ‘gwyliwch fy fideo’.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener 28ain Tachwedd 2025.

8. Y CAMAU NESAF

  • Byddwch yn cael gwybod a ydych chi’n cael eich gwahodd i gyfweliad erbyn 5 Rhagfyr 2025.
  • Cynhelir cyfweliadau ar 11eg o Ragfyr 2025.
  • Caiff y canlyniadau terfynol eu cyhoeddi erbyn 15 Rhagfyr 2025.

Rydyn ni am ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi wneud cais am y rôl hon ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant cerddoriaeth yn arbennig. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad yr hoffech i ni eu rhoi ar waith fel y gallwch chi ymuno â Rhythmau Llwybrau Gwledig, cysylltwch â Rhian Hutchings drwy e-bost: rhian.hutchings@anthem.wales