Pwy rydym wedi'i ariannu

Rydym wedi rhoi bron i £295,323 to 35 o sefydliadau hyd yma drwy Gronfa Atsain.

Dyma grynodeb byr o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu gan Atsain:

Cylch 1 – Ebrill 2022

Art & Soul Tribe https://www.artandsoultribe.co.uk/

Mae Art And Soul Tribe wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan a llais i grwpiau sydd ar y cyrion, sydd wedi’u hallgáu a’u cam-drin, ac unigolion sydd wedi wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae prosiect Bridging the Gap yn caniatáu i bobl ifanc leol 13-18 oed yn ne-ddwyrain Cymru na fyddai â mynediad i hyfforddiant cerddorol fel arfer gael y cyfle i fyfyrio, dysgu ac adrodd storïau drwy gyfrwng cerddoriaeth a sain. Gyda phwyslais penodol ar niwroamrywiaeth, iselder a gorbryder, amddifadedd economaidd a cheiswyr lloches, mae’n gweithio gyda charfan o bobl ifanc i greu a datblygu gofodau diogel a sesiynau i ddysgu sgiliau newydd, dod i gyswllt â cherddorion proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, a chydweithio i gydgynhyrchu digwyddiad o berfformiadau terfynol mewn lleoliad cerddoriaeth lleol.

Beacons https://www.beacons.cymru/

Mae Beacons yn sefydliad sy’n gweithio ledled Cymru. Ei nod yw grymuso’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy’n awyddus i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’n ceisio chwalu’r rhwystrau i bobl ifanc sy’n ystyried eu hunain yn rhywedd a ymyleiddiwyd – menywod, anneuaidd a dynion traws – sy’n ceisio dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’n datblygu sgiliau gweithlu newydd ac yn helpu i fynd i’r afael ag anghydbwysedd yn y rhyweddau yn y sector cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

Canolfan Gerdd William Mathias https://cgwm.org.uk/en/

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant cerddorol a phrofiadau perfformio cerddorol o’r safon uchaf yng ngogledd Cymru, gan feithrin mwynhad a chyfranogiad o gerddoriaeth. Dros gyfnod o flwyddyn, mae’r prosiect hwn yn datblygu ac ehangu darpariaeth gerddorol i blant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd a Sir Ddinbych drwy gynnal clybiau cerdd a sesiynau arddangos mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau, a sesiynau cerddoriaeth mewn ysgol feithrin newydd i blant anabl.

Deaf Hub Wales https://www.deafhub.wales/

Mae Deaf Hub (Wales) yn darparu cymorth a gweithgareddau sy’n cyfoethogi bywydau pobl F/fyddar a’u lles yn gyffredinol. Mae’r prosiect yn cynnig sesiynau cerdd sy’n edrych ar weithgareddau, celfyddydau byddar, offer a genres i blant a phobl ifanc B/byddar, gan arwain at arddangosfa yn yr Ŵyl Celfyddydau Byddar sydd ar y gweill yn 2023.

Celfyddydau Anabledd Cymru https://disabilityarts.cymru/

Celfyddydau Anabledd Cymru yw’r prif sefydliad ar gyfer Celfyddydau Anabledd yng Nghymru. Mae prosiect Llwybrau at Gerddoriaeth yn dwyn pobl ifanc anabl a Byddar o bob rhan o Gymru ynghyd i arwain a datblygu chwech o weithdai i bobl ifanc 16-30 oed, gan roi offer pwrpasol a hygyrch iddynt ddechrau cyfansoddi, chwarae a pherfformio cerddoriaeth. Dyma’r cynllun cerddoriaeth cyntaf ledled Cymru i gael ei arwain gan bobl anabl ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau bod yn creu cerddoriaeth gyfoes.

Gwallgofiaid http://cellb.org/gwallgofiaid/

Mae Gwallgofiaid yn darparu gweithdai a chyfleoedd yn y celfyddydau i bobl ifanc Bro Ffestiniog a Gwynedd. Mae’r prosiect yn defnyddio cerddorion a chynhyrchwyr proffesiynol i gynnal sesiynau cerddoriaeth a recordio i bobl ifanc mewn stiwdio newydd ym Mro Ffestiniog.

Media Academy Cymru https://mediaacademycymru.wales/

Mae Media Academy Cymru ar flaen y gad yng Nghymru wrth gefnogi plant a phobl ifanc pan fo angen cymorth arnynt neu rywle diogel i droi. Mae’r prosiect hwn yn cynnal dosbarthiadau meistr cerddoriaeth misol ar draws cymunedau llai cefnog yn ne Cymru. Gan weithio gyda dau ymarferydd yn y diwydiant a rhwydwaith o bartneriaid, mae’r prosiect yn annog rhai sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i gerddoriaeth, gan gynnwys pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol, cymunedau ethnig amrywiol, pobl niwroamrywiol a’r bobl ifanc hynny nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth ar hyn o bryd. Mae’r dosbarthiadau meistr yn helpu’r bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a’u brandiau ac yn cynnig cymorth i ymuno â rhaglenni cerddoriaeth mewn addysg ehangach neu gyflogaeth.

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru https://www.nyaw.org.uk/

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio i ddatblygu perfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru a rhai sydd â photensial drwy gyfleoedd hyfforddiant a pherfformio o’r radd flaenaf. Prosiect cerddoriaeth gyfoes yw Cerdd y Dyfodol sy’n nodi ac yn meithrin cerddorion ifanc addawol o Gymru. Mae’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o genres cyfoes, o Grime i Indie, ac o Electronica i RnB. Gan greu mynediad i bobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru, mae’n cynnig profiad helaeth o ddatblygu sgiliau i’w paratoi at yrfa hyfyw yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae Atsain yn cynorthwyo Gig Cerdd y Dyfodol i fynd ar daith i rai o brif leoliadau celfyddydol Cymru ym mis Awst 2022.

Operasonic http://www.operasonic.co.uk/

Mae Operasonic yn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu pŵer creadigol i adrodd storïau a dathlu eu cymunedau, a’u galluogi i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth. Mae’r prosiect hwn, sy’n rhan o bartneriaeth Hwiangerddi Carnegie, yn defnyddio hwiangerddi i archwilio sut gall cerddoriaeth fod yn fwy hygyrch a deniadol i blant Byddar ifanc iawn. Mae’n dod â thîm creadigol Byddar a theuluoedd ynghyd i ddatblygu ymarfer newydd.

Sound Progression https://soundprogression.co.uk/

Mae Sound Progression yn sefydliad yng Nghaerdydd sy’n ymroi i wella bywydau plant a phobl ifanc, yn enwedig rhai 10-25 oed ac o gefndiroedd amrywiol a/neu economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Mae Next Level wedi’i ddylunio i hybu talentau cerddorol trefol a’u hwyluso i symud i mewn i’r diwydiant cerddoriaeth. Drwy gyfres o weithdai i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a chyd-ymarfer, a phrosiectau pwrpasol dan arweiniad cyfranogwyr i adeiladu portffolios, proffiliau a phartneriaethau, y nod yw meithrin perthnasoedd, llwyfannu cyfleoedd a sefydlu llwybrau dilyniant newydd.

Canolfan Datblygu Cymunedol De Riverside  https://www.srcdc.org.uk/

Mae cyllid Atsain yn cynorthwyo ac yn datblygu Prosiect Cerddoriaeth yr Afon – prosiect amlddiwylliannol a fydd yn pontio’r cenedlaethau ac a fydd yn cynnwys gweithdai drymio, canu ac offerynnau. Mae’r prosiect yn ceisio cynrychioli a bod yn gynrychioliadol o’r holl gymunedau yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, a chreu synnwyr o hawl i gyfleoedd ym maes y Celfyddydau a Diwylliant lle nad ydynt wedi bod yn cael eu cynnig hyd yma.

Theatr Brycheiniog https://www.brycheiniog.co.uk/en

Mae Theatr Brycheiniog yn darparu rhaglen amrywiol o theatr, dawns, cerddoriaeth ac adloniant yng nghanol Aberhonddu, gan wasanaethu’r dref ac ardaloedd cyfagos Powys, Sir Fynwy a thu hwnt. Mae’r prosiect hwn yn sefydlu grŵp cynhyrchu o bobl ifanc i greu rhaglen gerddorol i’r Theatr. Mae’n datblygu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u dylunio a’u harwain gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Trac Cymru https://trac.cymru/en/

Trac Cymru yw’r sefydliad datblygu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n cefnogi cymunedau i ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol fywiog Cymru gan bontio’r cenedlaethau. Mae’r prosiect yn cynorthwyo pobl ifanc ar y cyrion i fynegi eu profiadau personol eu hunain gan ddefnyddio traddodiadau gwerin adrodd storïau a gwybodaeth gyfunol.

Wilderness Trust http://thewildernesstrust.org/

Yn seiliedig mewn dau gapel yn Llanidloes sydd wedi’u trawsnewid i fod yn ganolfannau amgylcheddol, mae’r Wilderness Trust yn defnyddio’r amgylchedd, celf, cynhwysiant cymdeithasol ac addysg i helpu cymunedau i ddysgu, arbrofi, cysylltu, mwynhau natur a thyfu. Mae’r prosiect hwn yn darparu gweithdai cerddoriaeth a chyngherddau i fabanod, plant bach a phlant sydd ag anableddau dysgu.

Cylch 2 – Tachwedd 2022

Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig https://artsactive.org.uk/language/en/

Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn cynorthwyo pawb i fwynhau’r celfyddydau trwy brosiectau addysg, cymunedol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a’r rhanbarthau cyfagos. Ein nod yw ysgogi’r dychymyg, a chefnogi dysgu, datblygiad emosiynol a lles. Cawn ein hysbrydoli gan raglen amrywiol Neuadd Dewi Sant, lle rydym wedi ein lleoli, gan ei defnyddio fel catalydd ar gyfer ein gweithgarwch creadigol. Mae prosiect Soundworks Youth yn cynnig sesiwn gerddoriaeth wythnosol i bobl ifanc 11–16 oed sydd ag anableddau dysgu ychwanegol. Bydd y sesiynau cerddoriaeth hwyliog a rhyngweithiol hyn o fudd i’r grŵp sydd fel arfer heb lawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cerddoriaeth.

Uchelgais Grand https://www.swanseagrand.co.uk/article/13701/Grand-Ambition

Uchelgais Grand yw’r cwmni cynhyrchu ac ymgysylltu â’r gymuned sydd wedi’i leoli yn Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn. Mae ein prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Atsain, yn cynnig sesiynau wythnosol am ddim yn ystod y tymor i bobl ifanc ledled Abertawe, gan dargedu’r rheini sy’n wynebu tlodi, sydd wedi’u hallgáu neu sydd mewn perygl o wynebu rhagfarn neu hiliaeth. Mae’n dod â’r model llwyddiannus o Bontardawe, Future Blood, i Abertawe, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau / talent gerddorol wrth feithrin lles a pherthnasoedd cadarnhaol â chyfoedion.

Little Live Projects https://www.cardiffchildrenschoir.com/

Mae Little Live Projects yn ysbrydoli pobl ifanc i ffynnu drwy rannu profiadau cerddorol rhagorol gyda cherddorion proffesiynol. Mae ein côr plant cymunedol yn estyn croeso cynnes i blant a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau o unrhyw fath. Mae canu a chwarae gyda’n gilydd yn hybu hyder, hunan-barch a dawn gerddorol wrth i ni ddathlu ein cyfoeth diwylliannol amrywiol drwy ganeuon o bedwar ban byd. Mae Côr Plant Caerdydd yn gôr cymunedol cyffrous ar ôl ysgol i blant 5-11 oed. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wrth eu bodd â’r mwynhad mawr, yr her fawr, a’r gefnogaeth fawr a ddaw o’u sesiwn wythnosol ac wrth berfformio i’w teuluoedd a’u ffrindiau. Mae cyllid Atsain yn cynorthwyo ein rhaglen Lleoedd Am Ddim ac â Chymhorthdal sy’n denu plant o deuluoedd sy’n wynebu rhwystrau o unrhyw fath, gan ddarparu cyfleoedd a meithrin cydlyniant cymunedol.

Music Theatre Wales https://musictheatre.wales/

Ers ein ffurfio ym 1988, mae Music Theatre Wales wedi bod yn rym dros newid a datblygu ym myd opera yn y DU. Yn MTW, cawn ein gyrru gan gred angerddol y gall opera newydd ei chreu ddarparu rhai o’r profiadau mwyaf cyffrous a phwerus, ac rydym wastad wedi bod eisiau rhannu hyn mor eang â phosibl. Mae Future Directions yn gwahodd pobl ifanc i greu eu hopera eu hunain, gyda chymorth artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol a chydweithredol.

Côr Un Byd Oasis https://oneworldchoir.co.uk/

Hear our Voice / One World Beats – gweithdai canu, cyfansoddi caneuon a symud wythnosol ar ôl ysgol i bobl ifanc sy’n ceisio noddfa. Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach. Ein nod yw dysgu oddi wrth y rhai sy’n ymwneud â ni, gan rannu, tyfu a ffurfio gyda’n gilydd. Mae ein côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n mynd ati i ailddechrau eu bywydau mewn gwlad newydd, a hynny’n aml mewn iaith sy’n gwbl newydd iddyn nhw. Mae iaith cerddoriaeth yn goresgyn y rhwystrau hyn, ac mae ein côr yn caniatáu i bobl wneud ffrindiau newydd ac adeiladu cymuned gyda’i gilydd.

The Rock Works https://therockworks.org/

Mae Rock Works yn cyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth hwyliog, therapiwtig a mynegiannol i unigolion bregus, anodd eu cyrraedd ac sydd wedi ymddieithrio. Mae’r gweithgareddau’n rhoi pwyslais ar blant, pobl ifanc a grwpiau ag anghenion ychwanegol. Mae Breaking Barriers yn cynnal gweithgareddau cyfoes i bobl ifanc ddifreintiedig yn Wrecsam a’r cyffiniau. Drwy gynnal sesiynau yn ein stiwdio yng nghanol Wrecsam ac mewn sesiynau galw heibio arbenigol, clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol, rydym yn cynnig gweithgareddau cerdd sy’n hwyliog, yn fuddiol ac yn hygyrch i bawb.

Sistema Cymru – Codi’r To http://www.codirto.com/

Cenhadaeth Sistema Cymru – Codi’r To yw mynd i’r afael ag anfantais a thangyflawniad addysgol sy’n gysylltiedig â thlodi plant, gan ddefnyddio cerddoriaeth i wella bywydau pobl ifanc a chymunedau. Mae ein prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Atsain, yn cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ar draws ein sefydliad drwy gyfres o sesiynau cyfranogol Llais Ieuenctid. Drwy greu cerddoriaeth fynegiannol, fe fyddan nhw’n datblygu sgiliau cyfathrebu ac arwain. Mae’r bobl ifanc yn cydgynhyrchu gweithgareddau gan ddefnyddio cerddoriaeth, symud, cyfansoddiadau a pherfformiadau ar y cyd i gyfleu eu profiadau, eu hanghenion a’u dymuniadau.

Music Art Digital Abertawe https://www.swanseamad.com/

Mae MAD Abertawe yn gweithio tuag at fyd teg, lle gall pobl fod yn nhw eu hunain a ffynnu!

Mae’n elusen ieuenctid a chymunedol ar lawr gwlad, sy’n wrth-dlodi, yn wrth-hiliaeth, o blaid cydraddoldeb, ac wedi’i lleoli mewn ardal o amddifadedd uchel. Mae MAD Abertawe yn darparu’r gofod, yr adnoddau a’r offer i bobl ifanc a cherddorion lleol fod yn greadigol, adnoddau sydd fel arall y tu hwnt i’w cyrraedd. Mae UpBeat yn ehangu mynediad i gerddoriaeth i bobl ifanc (11-25 oed, sydd wedi’u gwthio i’r cyrion gan ormes systemig, tlodi a gwahaniaethu) yn Abertawe, gan ddarparu gweithdai cerddoriaeth, rhwydweithio a chyfleoedd i ddylanwadu ar newid. Mae’r hyfforddiant yn helpu’r bobl ifanc i ddatblygu sgiliau creadigol, digidol ac entrepreneuraidd ac i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau cerddoriaeth.

Tanio http://www.tanio.cymru/

Ers bron i 40 mlynedd mae Tanio wedi bod yn cynnal prosiectau sy’n defnyddio’r celfyddydau cyfranogol fel arf i ysbrydoli ac ymgysylltu, gan wneud cysylltiadau rhwng pobl a chymunedau. Rydym yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyflwyno gweithgareddau’r celfyddydau mynegiannol ac yn rhoi blaenoriaeth i weithio gydag unigolion a chymunedau sydd ar y cyrion, yn agored i niwed neu mewn perygl. Mae Tune Up yn darparu gweithgareddau cerddoriaeth greadigol a chyfansoddi caneuon i bobl ifanc ynghyd â chefnogaeth lles ac iechyd meddwl. Mae clybiau cerddoriaeth wythnosol ar draws cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn meithrin sgiliau cerddorol a hyder y bobl ifanc.

Ysbrydoli i Gyflawni https://www.torfaen.gov.uk/lgsl/en/YoungPeople/NEETs/NEETs.aspx

Mae prosiect Ysbrydoli i Gyflawni yn rhan o Gyngor Torfaen ac wedi’i sefydlu’n benodol i gefnogi pobl ifanc mewn addysg uwchradd a rhai sydd wedi gadael yr ysgol, sydd fwyaf agored i niwed ac mewn perygl, yn enwedig o beidio â symud ymlaen yn llwyddiannus o’r ysgol i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant, ac o beidio ag ymgysylltu’n gadarnhaol yn eu cymunedau. Mae’r prosiect cerddoriaeth yn cael y bobl ifanc hynny i ymgysylltu’n gadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth fel yr ‘offeryn ysbrydoli’. Maen nhw’n dysgu sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth a DJ ac yn creu eu sioeau radio eu hunain.

Cynyrchiadau UCAN https://www.ucanproductions.org/

Mae Cynyrchiadau UCAN yn gwmni cydweithredol sydd wedi ennill gwobrau yn y celfyddydau creadigol. Ein cenhadaeth yw cefnogi plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg drwy gynnig mynediad i gyfleoedd sy’n cynyddu hyder, a datblygu sgiliau a galluoedd, ac sy’n eu helpu i gyflawni eu potensial. Mae’r prosiect hwn yn adnewyddu ac yn datblygu gwaith cyfranogiad cerddorol UCAN gyda phobl ifanc ddall a rhai sydd â nam ar eu golwg. Mae’n datblygu canllawiau a thechnegau arferion gorau newydd i’w rhannu â phartneriaid a rhwydweithiau, yn archwilio tir newydd ym maes hygyrchedd technoleg cerddoriaeth, ac yn darparu dyfarniadau achrededig y celfyddydau i gyfranogwyr.

Wrexham Sounds https://www.wrexhamsounds.org/

Cenhadaeth Wrexham Sounds yw trawsnewid bywydau ifanc difreintiedig drwy gerddoriaeth, helpu plant a phobl ifanc i fagu hyder a sgiliau a gwella rhagolygon, a darparu sesiynau cerdd, hyfforddiant, cyrsiau, gweithgareddau a chyfleusterau stiwdio i bobl ifanc sydd ddim yn gallu eu defnyddio yn yr ysgol. Mae’r prosiect hwn yn darparu sesiynau cerddoriaeth i Ofalwyr Ifanc gan roi hyder a sgiliau iddyn nhw drwy eu helpu i gynllunio a threfnu cyngerdd i arddangos eu datblygiad.

Clych 3 – Ebrill 2023

Beacons https://www.beacons.cymru/cy

Nod Amlen yw chwalu’r rhwystrau i siaradwyr Cymraeg ifanc ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r prosiect yn casglu data empirig sy’n dystiolaeth o anghenion y bobl ifanc hyn. Bydd y canfyddiadau nid yn unig yn llywio strategaeth, polisi a darpariaeth Cymraeg Beacons Cymru yn y dyfodol, ond bydd ar gael fel troedle i unrhyw sefydliad sy’n dymuno ei ddefnyddio a’i weithredu.

Be Extra https://be-extra.co.uk/

Mae’r prosiect hwn yn creu adnoddau lles digidol drwy gyfrwng cyfansoddi caneuon. Mae pobl ifanc yn cyfansoddi caneuon gan weithio gyda chyfansoddwr proffesiynol, ac wrth wneud hynny bydd yn datblygu adnoddau i hybu lles. Bydd y deunyddiau sy’n deillio o hyn yn cael eu defnyddio mewn gweithdai gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Cymru. Caiff arddangosfa derfynol ei chynnal yn Oriel Elysium Abertawe.

Prosiect Ieuenctid Cymunedol Cathays a Chanolog https://cathays.org.uk/cy/

Mae’r prosiect yn darparu sesiynau cerddoriaeth unigol ac i grwpiau, gyda ffocws ar ymgysylltu â phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac anableddau. 

Maes B https://maesb.com/

Mae’r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig, gan gynnig gweithdai preswyl i ferched, bechgyn a phobl anneuaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddysgu sgiliau newydd gan rai o brif artistiaid Cymru.

New Era Talent https://www.facebook.com/NewEraTalent/

Mae’r prosiect hwn yn cynnig gweithdai mentora i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau ysgrifennu geiriau caneuon, DJio, cynhyrchu, perfformio, marchnata, codi arian a rheoli digwyddiadau, gan arwain at berfformiad byw.

Pyka https://www.pyka.wales/

Mae Pyka yn credu y dylai cyfleoedd i greu cerddoriaeth effeithiol fod ar gael i bawb. Drwy ddull dylunio cydweithredol, mae’n creu offerynnau cerdd digidol sy’n ystyried hygyrchedd yn y lle cyntaf ac sy’n rhoi grym cerddorol i bobl ifanc ag anableddau.

RecRock https://recrock.co.uk/

Mae RecRock yn cynnal clybiau cerddoriaeth rheolaidd yng Nghaerffili yn ystod gwyliau’r ysgol, gan gynnwys gweithdai a sesiynau meic agored, i wella lles a hyder, a goresgyn rhwystrau i gerddoriaeth fel ynysigrwydd cymdeithasol, allgáu digidol ac amddifadedd economaidd. Mae’n partneru â Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, ac yn gweithio’n agos gyda’i rwydwaith o glybiau ieuenctid, timau troseddau ieuenctid a thimau iechyd meddwl.

Sound Progression https://soundprogression.co.uk/

Dyluniwyd Live Level i gynyddu sgiliau, cysylltiadau a gwybodaeth am ddiwydiant cerddoriaeth fyw a dyrchafu artistiaid cerddoriaeth Drefol drwy ddatblygu sioeau byw. Gan weithio gydag arbenigwyr i ddatblygu bandiau, rydym yn creu llwybrau newydd i rapwyr a lleiswyr ehangu sylfaen eu cynulleidfa a rhyddhau recordiadau o safon.

The Successors of the Mandingue https://successors.co.uk/?lang=cy

Mae’r prosiect hwn yn cyflwyno cyfres o weithdai Dathliad Cymru-Affrica am ddim i bobl ifanc ledled Cymru, yn amrywio o ddrymio djembe Affricanaidd i gyfansoddi caneuon, ac yn cynnig lleoedd am ddim yng ngweithdai gŵyl Dathliad Cymru-Affrica i blant/pobl ifanc, drwy ymwneud â phrosiectau a sefydliadau ieuenctid.