Anthem Summit

Sut i gyfleu gwir ystyr yn eich cerddoriaeth – digwyddiad ‘Summit’ James ac Andrew 9/10/11 Ebrill

Mae’r berthynas rhwng cerddoriaeth a gwleidyddiaeth wedi bodoli ers canrifoedd, weithiau’n cydseinio, ac weithiau ddim. Gall cerddoriaeth fynegi themau gwrth-sefydliadol neu wrthdystiol, gyda’i wreiddiau mewn gwrthdaro a chydseinio.

Sut mae taro cydbwysedd rhwng celfyddyd a chyfleu eich neges yn effeithiol? Cyfleu eich neges ac ymdrin â’r teimladau mae’n ysgogi mewn pobl? Sicrhau nad yw angerdd yn cael ei gyfaddawdu?

Bydd aelodau’r Ffowrm Ieuenctid, James Predergast, artist/rheolydd yn yr asiantaeth gerdd yng Nghymru, BLOCS, yn rhan weithredol o’r sîn gerddoriaeth o darddiad du ynghyd â hyrwyddo sengl diweddaraf Benji Wild, ac Andrew Ogun, cerddor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr creadigol, dylunydd ac actifydd, yn eistedd ar y panel a’i gynhelir gan Sizwé o Gaerfyrddin, gyda Mace the Great, un o artistiaid grime diweddaraf y DU.

www.beacons.cymru