Anthem Sumit

Aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem yn helpu i lywio ‘Summit’: cynhadledd ar-lein diwydiant cerddoriaeth Cymru i bobl ifanc gan bobl ifanc

Mae aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem wedi bod yn gweithio gyda thîm ‘Ymgynghorwyr Ifanc’ o fudiad Bannau, fel rhan o Summit, cynhadledd ar-lein diwydiant cerddoriaeth Cymru i bobl ifanc gan bobl ifanc (Dydd Gwener 9 – Sul 11 Ebrill, ar y llwyfan ar-lein yn www.beacons.cymru – mae mynediad am ddim).

Mae’r grŵp wedi creu sgyrsiau a digwyddiadau sy’n rhannu eu syniadau a’u meddyliau am ddiwydiant cerddoriaeth Cymru, yn ogystal â chefnogi’r gwaith y tu ôl i’r llenni fel golygu fideo a chyfieithu. Cefnogir y digwyddiad gan Anthem.

Dyma gipolwg ar bwy sy’n gwneud beth. Byddwn yn rhannu mwy yr wythnos nesaf – cadwch olwg ar ein cyfrifon cymdeithasol ni a Bannau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru am y digwyddiad ar eu gwefan.

Bydd Gabriel Bernal neu Gabby i’w ffrindiau, cynhyrchydd o Gaerdydd, yn rhannu ei awgrymiadau ar recordio eich prosiect gydag Ableton.

Bydd James Predergast, artist/rheolwr yn asiantaeth gerddoriaeth Cymru BLOCS ac Andrew Ogun, cerddor, awdur, cyfarwyddwr creadigol, dylunydd ac ymgyrchydd, yn siarad am sut i gyfleu gwir ystyr yn eich cerddoriaeth, gan edrych ar wleidyddiaeth a phrotestio ar y cyd â Mace the Great a Sizwé. Bydd James hefyd yn ymuno â Sizwé i lunio rhestr chwarae o artistiaid a argymhellir o Gymru.

Bydd y canwr/cyfansoddwr Blank Face yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Hustle and Flow: Building yourself a Portfolio Career’.

Bydd y cerddor/cynhyrchydd Qye yn rhannu ei awgrymiadau unigryw i greu stiwdio recordio yn ‘Poetry in Motion: Recording on the Move’.

Mae Charys Bestley wedi bod yn gweithio gydag aelodau eraill o’r Fforwm Ieuenctid i greu ‘Cornel Hyrwyddwyr’ sy’n cyflwyno cerddoriaeth/artistiaid o Gymru ac mae wedi bod yn cefnogi’r tîm gyda gwaith golygu fideo a delweddau.

Mae Ella Pearson myfyriwr obo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, crëwr bît ac eiriolwr iechyd meddwl wedi bod yn helpu gydag adran lles Summit a bydd yn cynnal sesiwn fyw ar Instagram yn ystod y penwythnos ynghyd â chyd-fyfyriwr a chyfansoddwr o’r Coleg, Tayla-Leigh Payne, sydd hefyd wedi bod yn helpu gyda gwaith cyfieithu Cymraeg.

www.beacons.cymru