Image of singer Charys on a video

Rhoddodd ein ymgynghoriad ieuenctid yn 2020 ddealltwriaeth wych i ni o brofiadau pobl ifanc o greu a dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Ond i ddenu sylw a darbwyllo cyllidwyr, rhoddwyr, llunwyr polisi ac eraill, roeddem yn gwybod bod angen i ni roi fwy o lais iddynt yn uniongyrchol. Aeth ein Fforwm Ieuenctid i’r afael â hyn. Gwnaethom ein helpu i greu ein brand newydd, a’u ffilmio eu hunain er mwyn rhannu storïau am eu profiadau o ddysgu a chreu cerddoriaeth yng Nghymru. Ella Pearson, aelod o’r Fforwm Ieuenctid, sy’n sôn wrthym am y broses:

Yn dilyn ychydig o sesiynau cychwynnol cyfareddol gyda’r Fforwm Ieuenctid, aethom yn syth i’r afael â’r dasg o weithio gyda’r fideograffydd Bill Taylor-Beales i greu cyfres o ffilmiau sy’n portreadu’r heriau, y rhwystrau a wynebir, a’r llawenydd mae cerddoriaeth yn ei gyflwyno i’n bywydau. I gychwyn, ein tasg oedd ffilmio darnau o’n amgylchedd gweithio; a ninnau’n dod o amrywiaeth eang iawn o ganghennau cerddorol, roedd yn ddiddorol gweld y bydoedd y mae pobl ifanc eraill yn creu cerddoriaeth ynddynt.

Yn dilyn gweithdy Ysgol Ffilm gafaelgar gyda Bill, lle cawsom ddysgu beth i’w wneud a beth i beidio â gwneud wrth gynhyrchu ffilmiau deniadol, roeddem yn barod i fynd ati ledled Cymru i greu ein fideos. Serch hynny, y rhan fwy cymhleth o’r broses hon oedd creu’r sain. Gofynnwyd i ni siarad am bedwar pwnc: beth mae cerddoriaeth yn ei olygu i ni, beth sydd wedi helpu pobl ifanc i gael i mewn i gerddoriaeth, pa rwystrau sy’n rhaid iddynt wynebu ym myd cerddoriaeth, ac ar beth mae angen cymorth arnynt.

Pe gofynnwch chi i gerddor pam eu bod yn dwlu ar gerddoriaeth, mae’n siŵr y cewch chi ateb tebyg i “Dwn i ddim…rwy jyst yn dwlu arno”! Mae’n anodd cyfleu mewn geiriau yr angerdd dwys, tanllyd sydd gan gerddorion at eu crefft, gan olygu ei bod yn anodd i ni greu’r darnau sain a fyddai’n tynnu tannau calonnau’r gynulleidfa a’u cymell i weithredu. Ond roedd hyn oll yn rhan o’r broses ddysgu, oherwydd yn sesiwn nesaf Anthem, fe wnaethom rywfaint o waith mewn grwpiau llai wedi’i dargedu at ryddhau ein safbwyntiau a’n teimladau am gerddoriaeth a phynciau cysylltiedig. Cawsom ein hysbrydoli gan ganlyniad y gwaith hwn. Drwy wneud hyn, roedd modd i ni fynegi ein hunain yn haws, a chafwyd sawl sgwrs wedi’i gyrru gan emosiwn.

Yn ôl yn y grŵp llawn wedyn, rhoesom ein hadborth; roedd y drafodaeth yn deimladwy ac roeddem yn teimlo y gallem ein hagor ein hunain i’n gilydd yn llwyr, gan gyffwrdd ag ystyr cerddoriaeth i ni ar lefel ddofn (yn cynnwys gwreiddiau teuluol, a math o therapi), yn ogystal a datgelu’r rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd mewn ffordd deimladwy a thrwyadl. Roedd yn hynod ddiddorol clywed gan wahanol gerddorion am eu storïau. Yn ogystal â chanfod llawer o wahaniaethau yn ein profiadau, daeth rhai themâu cyffredin i’r wyneb, ac roedd rhai o’r rhain yn wirioneddau trist am gymaint o ddiffyg gwerthfawrogiad sydd i gerddoriaeth.

Roedd y fflamau’n cydio nawr – roedd y drafodaeth ar dân, a’r syniadau’n gwreichioni rhyngom. Gallai’r sesiwn adborth fod wedi para am oriau ar ôl i’n hamser ddod i ben, ond digon yw dweud y gwnaeth y dacteg weithio: roedd Bill a staff Anthem wedi ein helpu i fynegi ein teimladau am gerddoriaeth.

Ar hynny, cawsom ein gadael i greu ein darnau sain ein hunain, a gwnaeth Bill wyrthiau wrth gyfuno’r rhain yn y ffilmiau a fydd yn cael eu rhyddhau cyn hir. Dyna i gyd oedd ar ôl wedyn oedd i Bill glywed ein barn am draciau cefndir i’r ffilmiau, a darparwyd hyn yn y diwedd gan yr athrylithgar Joshua Whyte (Blank Face).

Bu’r broses o greu’r fideos yma yn llawn angerdd ac yn hynod bersonol – profiad rhyfeddol fu rhyddhau’r safbwyntiau a’r teimladau hyn, a mawr yw fy niolch i Anthem a Bill am roi’r llwyfan i ni fynegi ein hunain.

Y mae hefyd wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi o weithio gyda’r nod o greu ffilm addysgiadol sy’n gwneud i rywun feddwl. Rwyf wedi dysgu cymaint, o sut i gael y saethiad perffaith, i sut i amlygu teimladau dwfn am gerddoriaeth. Heb os, bydd yr holl brofiad yn fy helpu yn y dyfodol, yn arbennig o ran ble i gychwyn arni wrth fynd i’r afael â’r anawsterau lu sy’n wynebu cerddorion ifanc – rhywbeth y mae’r prosiect hwn wedi fy ysbrydoli i barhau i fynd i’r afael ag ef.