Anthem Rebrand

Sut aeth Fforwm Ieuenctid Anthem ati i greu’r brand – gan Gabriel Bernal

Roedd angen adnewyddu brand Anthem ac roedd y tîm yn gytûn eu bod am i bobl ifanc lywio’r broses. Ar ôl galwad am bobl ifanc 18-25 oed a phenodi deuddeg aelod i Fforwm Ieuenctid Anthem, dechreuodd y grŵp ar ei waith.  Dyma beth ddigwyddodd nesaf yn ôl aelod o’r Fforwm Ieuenctid, Gabriel Bernal.

Y Broses

I ddechrau fe wnaethon ni ymuno gyda Monumental Marketing, sef asiantaeth farchnata ddigidol yn Llundain. O’r cychwyn cyntaf, roedd tîm y fforwm a thîm Monumental wedi uno o dan y weledigaeth o ysgogi newid. Dan arweiniad Jamie Love – Prif Weithredwr Monumental – fe wnaethon ni gychwyn y broses frandio drwy ddadansoddi a dethol y nodweddion brand roedden ni’n gwybod eu bod yn bwysig i Anthem.

Drwy sgyrsiau manwl am ein gweledigaeth ar gyfer Anthem, roeddem wedi darganfod rhai o’r priodoleddau craidd roeddem am eu cyfleu. Er enghraifft, roeddem yn gwybod mai cynhwysiant oedd un o’r meysydd allweddol roedd angen i ni ei flaenoriaethu; roeddem yn benderfynol bod angen i gerddoriaeth fod ar gael i bawb yn eu bywydau, waeth pwy ydynt, neu o ble maen nhw’n dod. Roeddem yn gwybod bod cerddoriaeth yn hollgynhwysol ac felly dylai cyfleoedd mewn cerddoriaeth fod yn gynhwysol hefyd.

Nodwedd arall hanfodol yw portreadu cydbwysedd y chwareus a’r cadarn. Fe wnaethom sefydlu ein bod, fel elusen gerddoriaeth, am hyrwyddo natur lawen a chreadigol cerddoriaeth. Ar yr un pryd, roeddem am hyrwyddo cerddoriaeth fel rhywbeth oedd yn fwy nag allbwn creadigol ar ei ben ei hun, ond fel llwybr go iawn, llawn boddhad at lwyddiant. Roeddem am dorri’r canfyddiad ffug nad yw cerddoriaeth yn opsiwn dichonadwy fel gyrfa. Gyda’r negeseuon pwerus hyn mewn golwg, roedd gan Monumental bopeth yr oedd ei angen arnynt i greu hunaniaeth i gynrychioli Anthem.

Ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, roedd Monumental wedi creu 3 hunaniaeth brand a oedd yn cyfateb i’n priodoleddau. Roedden nhw wedi meddwl am bob un elfen. O’r ffont, i’r slogan, i’r lliwiau, i’r logo, i’r delweddau. Cawsom hefyd frandiau cymharol yn y diwydiant er mwyn dychmygu ein brand ninnau yn eu plith. Y cyfan roedd yn rhaid i ni ei wneud oedd trafod ein hoff opsiwn gan benderfynu ar unrhyw bwyntiau adborth i greu’r brand terfynol. Drwy fireinio pellach, crëwyd brand Anthem wrth i’r fersiwn derfynol roeddem wedi’i dychmygu gael ei datgelu…

Sut aethpwyd ati

Roedd y broses gyfan yn hynod o graff. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ffaith nad oedd tîm Monumental yn gorgymhlethu’r broses gyda chyflwyniadau manwl a gormod o wybodaeth. Yn hytrach, maen nhw’n eich gosod chi wrth y llyw ac yn gadael i’r drafodaeth a’r cydweithio ddiffinio’r canlyniadau. Roedd y broses yn arbennig o ddiddorol i mi, cyn dechrau fy ngwaith gydag Anthem, roeddwn i’n darllen ‘Designing Brand Identity’ gan Alina Wheeler;  Roedd y broses roedd hi’n ei hegluro yn y llyfr yn adlewyrchu’n union beth roedd tîm Monumental yn ei wneud. Gwelais y llyfr yn dod yn fyw yn llythrennol ac nid yn unig y gwelais i’r broses yn mynd rhagddi, gwelais i’r canlyniadau hefyd. Fe’m syfrdanwyd gan y brand roedd Monumental wedi’i greu, allai ddim bod wedi bod yn ddarlun gwell o’r hyn y mae Anthem yn ei gynrychioli. O ran hynny, dw i wedi dysgu beth sydd ei angen i greu hunaniaeth brand o’r dechrau’n deg a bydd hyn yn fy helpu gyda’m mentrau busnes i fy hun. Dw i hyd yn oed wedi darganfod tîm sy’n ei weithredu’n berffaith. Felly, os ydw i byth yn cael trafferth, dw i’n gwybod at bwy i droi. 

Mae’r brand bellach wedi ei lansio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Anthem a bydd yn cael ei ddatgelu’n llawn ar wefan newydd Anthem pan fydd yn lansio ddydd Llun 19 Ebrill. Os hoffech gadw mewn cysylltiad ag Anthem gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer yr e-newyddion a/neu dilynwch ni ar InstagramTwitter, a Facebook.