Croeso i Gorws Teulu Anthem

Mae Teulu Anthem yn arbennig iawn. Boed fel perfformiwr, cerddor ifanc, aelod o’r fforwm ieuenctid, llysgennad, ymddiriedolwr, neu bartner diwydiant, mae yma gyfeillach go iawn, a chymuned amrywiol sy’n rhannu cariad at gerddoriaeth yng Nghymru.

Drwy ymuno â Chorws Teulu Anthem, byddwch yn cefnogi ein gweledigaeth ac yn helpu i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Gallwch ein helpu i gefnogi pobl ifanc ar eu taith drwy gerddoriaeth yng Nghymru drwy ein meysydd ariannu a’n prosiectau allweddol. Drwy hyn byddwn yn galluogi mynediad a chreu cyfleoedd, yn meithrin talent a’n fforwm ieuenctid, ac yn datblygu porth digidol i gyrraedd pob cymuned yng Nghymru.

Fel un o aelodau anhygoel Corws Teulu Anthem, cewch eich gwahodd i’n digwyddiad blynyddol ar gyfer Teulu Anthem, lle cewch fwynhau perfformiadau unigryw, cwrdd â’n llysgenhadon a’n cerddorion ifanc, a chlywed am yr hyn rydym yn ei wneud ledled Cymru. Cewch hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr rheolaidd, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth yn Anthem.

Byddem wrth ein bodd o gael eich croesawu i Gorws Teulu Anthem. Cliciwch ar y botwm cyfrannu a dewiswch yr opsiwn misol.

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.