Cyflwyno prosiectau cerddoriaeth hygyrch i bobl ifanc

Dydd Iau 9 Chwefror, 10am-12.30pm

Mae rhwydwaith ymarfer Atsain yn rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr.  


 Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, Anthem Cronfa Gerdd Cymru, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n profi rhwystrau drwy amgylchiadau bywyd fel materion daearyddol, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Fodd bynnag, NID oes angen i sefydliadau gael eu hariannu gan Atsain i ymuno â’r rhwydwaith.  


Diben y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a meithrin yr arfer o gydweithio ledled y sector cyfan er mwyn sicrhau newid strategol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithwir bedair gwaith y flwyddyn, heb gost i’r cyfranogwyr.  

Cynhelir y cyfarfod nesaf rhwng 10am a 12.30 pm ddydd Iau 9 Chwefror drwy Zoom  a’r thema yw cyflwyno prosiectau cerddoriaeth hygyrch i bobl ifanc.