Ein cefnogi

Mae cerddoriaeth yn rym creadigol nerthol i bobl ifanc sy’n ysgogi hunanfynegiant, datblygiad personol a llesiant. Credwn y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ddatblygu pob agwedd ar eu hangerdd am gerddoriaeth – drwy’r ysgol, yn y gymuned, ar-lein a thu hwnt fel gyrfa gydol oes. Gall eich cefnogaeth chi helpu pobl ifanc yng Nghymru wireddu eu breuddwydion cerddorol, drwy ehangu gorwelion ac annog creadigrwydd a chred llawn dyhead.

Ymuno â'r teulu Anthem fel noddwr sefydlu

Bydd cylch y noddwyr sefydlol yn dod â grŵp o unigolion hael ynghyd sy’n rhannu gweledigaeth Anthem gydag angerdd.

Ystyried gadael cymynrodd

Drwy ystyried rhodd yn eich ewyllys gallwch ein helpu i greu amgylchedd lle gall ein diwylliant a’n treftadaeth cerddoriaeth Gymreig ffynnu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Bod yn bartner corfforaethol

Gall partneru ag elusen, ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio i’ch busnes chi, fod yn brofiad boddhaol a gwerth chweil. Gall gyfrannu’n gadarnhaol tuag at eich brand, eich enw da, a diwylliant eich cwmni, ac arwain at fanteision busnes ehangach hefyd.

Ymunwch â Chorws Teulu Anthem

Dyma gyfle i gefnogi cerddorion ifanc yng Nghymru

Play Video

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.