Beth sydd ei angen arnaf, beth sydd ei angen ar y sector - rhannu syniadau ar gyfer y dyfodol

10am a 12.30 pm ddydd Iau 14 Medi drwy Zoom

Mae rhwydwaith ymarfer Atsain yn rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr.  

 Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, Anthem Cronfa Gerdd Cymru, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n profi rhwystrau drwy amgylchiadau bywyd fel materion daearyddol, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Fodd bynnag, NID oes angen i sefydliadau gael eu hariannu gan Atsain i ymuno â’r rhwydwaith.  

Diben y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a meithrin yr arfer o gydweithio ledled y sector cyfan er mwyn sicrhau newid strategol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithwir bedair gwaith y flwyddyn, heb gost i’r cyfranogwyr.  

Cynhelir y cyfarfod nesaf rhwng 10am a 12.30 pm ddydd Iau 14 Medi drwy Zoom. Thema: Beth sydd ei angen arnaf, beth sydd ei angen ar y sector – rhannu syniadau ar gyfer y dyfodol