Diff Ambition: Arddangosfa Cerddoriaeth Ieuenctid

Gan Nia Williams

Ar ddydd Mercher 26 Gorffennaf 2023, cynhaliodd Anthem ein digwyddiad Diff Ambition cyntaf erioed i arddangos cerddoriaeth ieuenctid, gan ganolbwyntio ar arddangos y dalent ifanc anhygoel sy’n dod i’r amlwg yng Nghaerdydd. Ymunodd Nia Williams ag Anthem ar leoliad o Brifysgol Caerdydd i gynorthwyo gyda’r digwyddiad a dyma ei hadroddiad ar yr hyn a ddigwyddodd.

Yn wahanol i lawer o ddigwyddiadau cerddorol eraill, roedd Diff Ambition wedi’i deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd dan 18 oed, gan gynnig gofod cynhwysol iddyn nhw brofi cerddoriaeth fyw, rhywbeth nad yw’n hawdd dod o hyd iddo. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant ac roedd tua 85 yn bresennol, yn berfformwyr ac yn gynulleidfa. Gwnaed Diff Ambition yn bosibl drwy ymdrechion ar y cyd gan ein partneriaid a chafodd ei ariannu gan CAERDYDD AM BYTH fel rhan o Gronfa Uchelgais y Ddinas.

Amrywiaeth

Roedd Diff Ambition yn dyst i’r ystod amrywiol o genres cerddorol y mae artistiaid ifanc yn ymwneud â nhw heddiw. O indi-roc i hip hop a grime i ffync, roedd amrywiaeth y gerddoriaeth yn dyst i dirwedd ddiwylliannol fywiog Caerdydd. Ymhlith y perfformwyr roedd GBA, Eddie, MC KayBee, MC Chaos, Right Keys Only, Ella, Mill$, Gwenu, Jukebox / Lab 7 a fruitboy. Roedd y cymysgedd eclectig o genres yn cynrychioli diddordebau a dylanwadau amlweddog y perfformwyr ifanc hyn, gan gynnig rhywbeth i bob un oedd yn y gynulleidfa. 

Cydweithio

Gwnaed Diff Ambition yn bosibl gan bartneriaeth DIFF Ambition. Mae’r bartneriaeth hon yn cynnwys Anthem. Cronfa Gerdd Cymru, Actifyddion Artistig, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Cathays, Jukebox Collective, Lab 7, Ministry of Life, New Era Talent, Sound Progression a The Hold Up. Nid digwyddiad yn unig oedd Diff Ambition. Roedd yn weledigaeth gyfunol yr holl bartneriaid i roi cyfle i bobl ifanc arddangos eu doniau anhygoel. Cydweithio yw un o’n gwerthoedd allweddol ac mae’n bwysig i ni gael perthnasoedd cryf â sefydliadau i ehangu ein heffaith a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc. 

Undod

Mae cyfyngiadau oedran yn aml ar gyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw, ond roedd ein digwyddiad ni’n caniatáu i rai dan 18 oed sy’n hoff o gerddoriaeth brofi perfformiadau byw gan bobl ifanc eraill, rhywbeth a all fod yn go anodd ei ganfod yn ein hardal ni. I lawer o’r gynulleidfa yno, roedd yn gyfle prin i gwrdd â phobl ifanc eraill a’u gweld yn perfformio. Roedd Diff Ambition yn cynnig gofod unigryw i selogion cerddoriaeth dan 18 oed brofi cerddoriaeth fyw gyda’u cyfoedion a dathlu eu hangerdd ar y cyd. 

Dyfodol

Gan edrych y tu hwnt i’r digwyddiad, rhoddodd Diff Ambition lwyfan i bobl ifanc berfformio a phrofi cerddoriaeth fyw, gan ddangos pwysigrwydd meithrin talent ifanc a’r genhedlaeth nesaf. Roedd yn annog y rhai a oedd yno i gydnabod eu potensial fel rhai sy’n creu ac yn gwerthfawrogi celf. Roedd y digwyddiad yn fodd i’n hatgoffa o’r holl dalent a chreadigrwydd gwych sydd yng Nghaerdydd, a nhw, heb os, yw dyfodol y sin gerddoriaeth yng Nghaerdydd. 

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad cyntaf Diff Ambition, rydym yn llawn cyffro ynglŷn â chynnal digwyddiad arall ar 27 Medi 2023! Allwn ni ddim aros i roi cyfle i hyd yn oed mwy o artistiaid ifanc o Gymru ddangos eu doniau. Gan edrych tua’r dyfodol, byddwn yn parhau i gynnal mwy o ddigwyddiadau, wedi’n hysgogi gan ein hangerdd i gefnogi artistiaid ifanc o Gymru ac arddangos pŵer cerddoriaeth o safbwynt lles.