Rhai o enwau mwyaf byd cerdd Cymru yn rhoi gwobrau gwych i ocsiwn elusennol

Cyfle i gynnig am docynnau i sioeau a gwyliau, a nwyddau arbennig, gan helpu i gefnogi dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae rhai o hyrwyddwyr, gwyliau, lleoliadau a cherddorion mwyaf blaenllaw Cymru wedi rhoi gwobrau gwych i helpu i godi arian ar gyfer Cronfa Atsain, Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales, sy’n cefnogi prosiectau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru.

Lansiwyd yr ocsiwn dawel ar 9 Tachwedd a daw i ben ar 7 Rhagfyr 2022. Gall unrhyw un wneud cynnig drwy’r safle ocsiwn ar-lein.

https://uk.givergy.com/anthemcymru/

Mae’r ocsiwn ar-lein yn cynnwys detholiad o wobrau, ac mae gan bob un gyswllt cryf â’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r gwobrau sydd ar gael eleni yn dangos mor eang yw diwylliant cerddoriaeth Cymru, gan gynnwys bwndeli gan artistiaid gan gynnwys:

Mae rhestr lawn o’r gwobrau i’w gweld ar wefan yr ocsiwn ynghyd ag isafswm y cynigion ar gyfer pob eitem.

O femorabilia cerddoriaeth i brofiadau cerddorol Cymreig, bydd pob eitem yn cyfrannu at gefnogi pobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Anthem, Rhian Hutchings, “Rydyn ni mor falch o faint o gefnogaeth sydd i’r ocsiwn gan y gymuned gerddoriaeth yng Nghymru.  Bydd y rhoddion yn galluogi Anthem i barhau â’r cyllid hanfodol a gynigiwn i brosiectau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru a chyrraedd mwy o bobl ifanc drwy gerddoriaeth.

Atsain yw prif gronfa Anthem ac fe’i lansiwyd ym mis Rhagfyr 2021. Yng nghylch cyntaf Atsain, rhoddodd Anthem dros £120,000 i 15 o sefydliadau cerdd gan gyrraedd a chefnogi dros 2000 o bobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Bydd yr ail gylch yr hydref hwn yn dosbarthu £100,000 arall. Caiff Atsain ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, ac adnoddau Anthem gyda chymorth gan noddwyr sefydlu.  

Bydd ocsiwn ar-lein Anthem ar agor am fis ac yn cau am 9.00pm ddydd Mercher 7fed Rhagfyr 2022. Bydd eiliadau olaf yr ocsiwn yn cael eu cyfri’n fyw yn nigwyddiad Teulu Anthem ym Mae Caerdydd, a fydd yn dathlu’r bobl, y sefydliadau a’r partneriaid gwych sydd wedi cyfrannu at dwf a chyflawniadau Anthem dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Cadeirydd Anthem, David Alston: “Mae’r ocsiwn yn ffordd wych i ni ddathlu sector cerddoriaeth Cymru. Mae hefyd yn ffordd i bobl Cymru helpu Anthem yn ei chenhadaeth i alluogi holl bobl ifanc Cymru i gael mynediad at gerddoriaeth.  Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o ocsiynau dros y blynyddoedd nesaf, a gobeithiwn y bydd mwyfwy o artistiaid o Gymru eisiau cymryd rhan!”

Caiff Atsain ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl a chefnogaeth noddwyr sefydlu Anthem.

Mae yna lawer o bobl ifanc yng Nghymru sy’n methu â derbyn profiadau cerddoriaeth, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain – cenhedlaeth heb fynediad at gerddoriaeth na chyfle i ddatblygu os ydyn nhw’n digwydd bod yn yr ardal ddaearyddol anghywir, yn byw mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol uchel neu arwahanrwydd gwledig, neu’n cael eu cau allan mewn unrhyw ffordd. Bydd cyllid Anthem yn caniatáu i sefydliadau greu rhaglenni gwaith newydd neu greu prosiectau mewn cyd-destunau penodol i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu.

Bydd y Digwyddiad Teuluol yn arddangos y rhaglenni y mae Anthem wedi’u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda pherfformiadau gan grwpiau cydweithredu’r Fforwm Ieuenctid a cherddoriaeth fyw gan fuddiolwyr Atsain. Mae’n ddigwyddiad drwy wahoddiad yn unig, ond mae modd cael gwahoddiad drwy anfon e-bost i rhian.hutchings@anthem.wales 

Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at arwerthiant yr Anthem a’n helpu ni i gymryd cam yn nes at greu Cymru lle mae cerddoriaeth yn grymuso pob bywyd ifanc.