Rhwydwaith Atsain

Mae rhwydwaith Atsain yn rhwydwaith i bob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr.

Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n profi rhwystrau drwy amgylchiadau bywyd fel materion daearyddol, anabledd, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Fodd bynnag, NID oes angen i sefydliadau gael eu hariannu gan Atsain i ymuno â’r rhwydwaith, a chewch gymryd rhan yn rhad ac am ddim.

Diben y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a meithrin yr arfer o gydweithio ledled y sector cyfan er mwyn annog arferion da a sicrhau newid strategol.

“Rydyn ni’n gwmni newydd iawn ac rydyn ni’n dysgu cymaint. Mae cysylltu ag eraill yn y cyfnod cynnar yma yn hanfodol i ni. Mae’r cyfarfodydd hyn mor ddefnyddiol. Diolch!” Aelod o’r rhwydwaith

Mae pob cyfarfod yn canolbwyntio ar bwnc perthnasol penodol ac yn cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr yn ogystal â chyfleoedd i bawb sy’n bresennol rannu eu syniadau trwy drafodaethau grŵp bach a mawr. Mae cyfarfodydd blaenorol wedi edrych ar wneud prosiectau yn hygyrch, meithrin llais cryf, partneriaethau llwyddiannus, awgrymiadau ar gyfer gwerthuso a chodi arian, a rhannu llwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd. Cliciwch fan yma i wylio cyflwyniadau o gyfarfodydd blaenorol:

Mehefin 2022 – Meithrin llais cryf

Medi 2022 – Cynnal partneriaethau llwyddiannus

Tachwedd 2022 – Awgrymiadau ar gyfer gwerthuso a chodi arian

Chwefror 2023 – Gwneud prosiectau yn hygyrch

“Sgyrsiau gwych a wnaeth amlygu’r ffaith bod pawb eisiau cysylltu a sgwrsio mwy am gyfleoedd.” Aelod o’r rhwydwaith

Ymunwch â ni!  Anfonwch e-bost i Reolwr y Rhaglen, Rebecca Rickard – rebecca.rickard@anthem.wales – i gael eich cynnwys yn y rhestr bostio.

Dyddiadau’r cyfarfodydd sydd i ddod:

10am Dydd Iau 14 Medi 2023 drwy Zoom

10am Dydd Iau 16 Tachwedd 2023 drwy Zoom

10am Dydd Iau 15 Chwefror 2024 drwy Zoom