Adborth gan Atseiniad

Cynhaliwyd Atseinio yn Arena Utilita yng Nghaerdydd ar 21 Chwefror 2024. Roedd y diwrnod yn rhan o Gynhadledd Summit Music Industry, a daeth â sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid, sefydliadau’r diwydiant cerddoriaeth, cyllidwyr a cherddorion ifanc ynghyd i drafod llwybrau datblygu cerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd y diwrnod yn cynnwys cyweirnod gan Matt Griffiths o Youth Music, trafodaeth banel, gweithdai rhannu gwybodaeth Rhannu’r Wybodaeth ar lais ieuenctid, gweithio mewn partneriaeth a chydraddoldeb a chynhwysiant, a thrafodaeth bord gron yn y prynhawn yn archwilio teithiau ym maes datblygu cerddoriaeth yng Nghymru.

Rhannu’r wybodaeth: Partneriaethau

Dan arweiniad Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon

Bu Meinir Llwyd Roberts a Seren Jones yn myfyrio ar brosiect Canfod y Gân a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Siaradwyd am rai o’r heriau a rhai o’r llwyddiannau yr oedden nhw wedi’u profi wrth weithio mewn partneriaeth. Cafwyd trafodaeth ehangach am weithio mewn partneriaeth ar draws y cyfranogwyr.

Dyma’r pwyntiau allweddol a ddysgwyd o’r cyflwyniad a’r drafodaeth:

  • Gall dod o hyd i’r person iawn i bartneru â nhw mewn sefydliad newid popeth
  • Gall partneru â chynghorau fod yn bwerus iawn – fe allan nhw gael gafael ar gyllid na allwch chi
  • Gwnewch yn siŵr bod pawb yn trafod eu disgwyliadau ar gyfer y bartneriaeth – mae’n bwysig iawn gwybod beth mae pawb eisiau ei gael o’r bartneriaeth
  • Gall partneriaeth alluogi mynediad at arbenigedd nad oes gennych yn eich sefydliad eich hun
  • Mae angen gweithio ar bartneriaeth – nid yw’n hawdd!
  • Mae cyfathrebu yn bwysig iawn
  • Meddyliwch y tu allan i’ch sector – pwy yw’r partneriaid a allai newid y ffordd rydych yn gweithio?
  • Byddwch ag empathi tuag at eich partneriaid – weithiau nhw yw’r rhai sy’n hyrwyddo’r gwaith o fewn eu sefydliad eu hunain!
Rhannu’r wybodaeth: Cynhwysiant

Dan arweiniad Uchelgais Grand, Abertawe

Cyflwynodd Rich Thair a Michelle McTernan brosiect Future Blood sy’n cael ei gynnal yn Abertawe ac ym Mhontardawe. Roedden nhw’n archwilio’r strategaethau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw i wneud y prosiectau mor gynhwysol â phosibl.

Dyma’r pwyntiau allweddol a ddysgwyd o’r drafodaeth:

  • Cynhaliwch y digwyddiadau am ddim
  • Darparwch adnoddau/offer
  • Dylai gael ei arwain yn llwyr gan ieuenctid
  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn ofod diogel
  • Paratowch nhw ar gyfer diwedd y prosiect. Dysgwch sgiliau gwytnwch/DIY iddyn nhw
  • Mae gan Abertawe ddiwylliant DIY! 
  • Defnyddiwch lafar gwlad
  • Peidiwch â bod ag ofn methu
  • Gofynnwch i’r bobl ifanc beth sydd ei angen arnyn nhw – nhw yw’r arbenigwyr
  • Dylai fod yn hwyl
  • Mae partneriaethau cryf yn allweddol i atal seilos
  • Angen deialog gydag ysgolion
  • Ewch at y bobl ifanc – peidiwch â disgwyl iddyn nhw ddod atoch chi
  • Dechreuwch â’r gerddoriaeth a’r person
  • Cofiwch y model cymdeithasol o anabledd
  • Mae angen mwy o gyllid rhanbarthol a chyllid hirdymor arnon ni.
Rhannu’r Wybodaeth: Sesiwn Llais Ieuenctid

Dan arweiniad: Music Theatre Wales

Michael McCarthy (Cyfarwyddwr), Jain Boon (hwylusydd prosiect) a Rain Preece (cyfranogwr a pherfformiwr)

Bu tîm Music Theatre Wales yn myfyrio ar eu prosiect ‘Perthyn’ – opera ddigidol a grëwyd gan bobl ifanc mewn partneriaeth â Hijinx – a rôl annatod llais ieuenctid yn llwyddiant y prosiect.

Rhaglen i bobl ifanc yw Future Directions sy’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf ar gelfyddyd fynegiannol i bobl o bob cefndir a hunaniaeth. Gan weithio ar y cyd ag artistiaid proffesiynol, bu carfan o bobl ifanc niwroamrywiol yn cydweithio ar draws cyfres o breswyliadau i ddyfeisio a chreu opera ddigidol newydd, gan archwilio eu syniadau ac ysbrydoli a dysgu oddi wrth ei gilydd a’r artistiaid cefnogol. 

Dyma’r prif bwyntiau allweddol a ddysgwyd a’r trafodaethau a gafwyd gan y tîm a’r bobl yn yr ystafell: 

  • O’r dasg gyntaf un ar ddiwrnod 1, roedd y cyfranogwyr ifanc yn gyd-grewyr yn y gofod. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw benderfyniadau ar greu rheolau i’w dilyn, i greu ffiniau gyda’i gilydd a oedd yn perthyn i bawb. Gosododd hyn y seiliau ar gyfer diwylliant o gydweithio, gan adeiladu parch ac ymddiriedaeth o’r cychwyn cyntaf. 
  • Roedd cymorth cofleidiol i’r cyfranogwyr yn allweddol i ddatblygu gofod diogel lle gallai pawb gyflwyno eu cryfderau eu hunain. Roedd cael Hijinx fel partner yn golygu bod yna’r arbenigedd cywir i alluogi hyn. 
  • Bu Rain yn trafod mor bwysig oedd yr amgylchedd, yn ddiwylliannol ac yn ffisegol, i ddylanwadu ar themâu’r darn. Drwy gael y gofod a’r rhyddid creadigol i ddatblygu syniadau’n organig, llwyddwyd i greu darn cydlynol a phwerus iawn yn ymwneud â pherthyn i’r byd. Dylanwadwyd arno hefyd gan eu hamgylchoedd daearyddol, e.e. un o’r cyfnodau preswyl a gynhaliwyd yn Aberystwyth; daeth y môr a’r traeth yn fotiff gweledol cryf yn yr opera ddigidol. 
  • Siaradodd Michael McCarthy am sut mae’r gwaith hwn yn helpu i ddylanwadu ar agwedd MTW at iaith gerddorol opera, a’i phosibiliadau. 
  • Cafwyd trafodaeth gyda’r ystafell ynglŷn ag ar ba bwynt y dylem ni fel hwyluswyr a sefydliadau celfyddydol gamu i ffwrdd a gadael i’r bobl ifanc gymryd yr awenau ac arwain. A oes ein hangen ni ar y pwynt hwnnw? Arweiniodd hyn at drafodaeth bellach ynghylch cyd-greu a phwysigrwydd sefydlu’r amgylchedd cywir i alluogi’r broses honno i ddigwydd yn organig.
Nodiadau o’r Drafodaeth Bord Gron – Teithiau datblygu cerddoriaeth yng Nghymru

Mewn grwpiau, trafodwyd rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru ynghyd ag atebion. Rhoddwyd proffil o berson ifanc i bob grŵp ac ystyriwyd eu taith trwy lunio mapiau. Ar ddiwedd y sesiwn rhoddodd pawb adborth ar y rhwystrau a’r atebion. 

Dyma’r rhwystrau a drafodwyd:

  • Ddim yn gyrru
  • Dechrau’n ifanc – angen addysg – methu â bod mewn lleoliad cerddoriaeth
  • Ble i fynd? Ble mae dod o hyd i gymorth?
  • Porthgadw
  • Lleoliad – dim trafnidiaeth gyhoeddus – wedi’u hynysu – poblogaeth isel
  • Cyllid – rhwystr economaidd-gymdeithasol
  • Diffyg lleoliadau
  • Mae trefi tymhorol yn anodd
  • Cyfleoedd i ddefnyddio offer neu stiwdio
  • Gwrthwynebiad gan y gymuned leol
  • Dod o hyd i artistiaid lleol
  • Cymorth i deuluoedd – a yw yn ei le?
  • Meddalwedd
  • Hyder – gorbryder

Dyma’r atebion a drafodwyd:

  • Rhannu â chyfoedion
  • Rhoi cynnig ar gystadlaethau cerdd
  • Cychwyn gwefan
  • Cofrestru i dderbyn cylchlythyrau
  • Gwneud prentisiaeth
  • Gwneud coleg neu gwrs prifysgol
  • Cysylltu â sefydliadau cenedlaethol – Youth Music, Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth, UK Music, BPI, AIM
  • Rhwydweithio
  • Cyrsiau ar-lein
  • Cysgodi hyrwyddwyr / rheolwyr eraill
  • Ymchwilio i gyflenwyr lleol
  • Creu cynnwys i adeiladu proffil
  • Dod o hyd i bethau yn eich ardal leol
  • Meithrin cymuned
  • Dod o hyd i gyllid
  • Bwrw ati – gwneud iddo ddigwydd
  • Y gymuned yn gofyn am well trafnidiaeth
  • Cymuned ar-lein
  • Cysylltu â rhanddeiliaid lleol – y cyngor, elusennau lleol
  • Yr iaith Gymraeg
  • Defnyddio gwybodaeth leol
  • Cymryd rhan yn yr ysgol
  • Cychwyn nosweithiau i rai dan 18 oed fel bod rhywle i berfformio
  • Ffurfio band – dod o hyd i bobl i gydweithio â nhw
  • Gweithio gydag elusennau eraill
  • Dod o hyd i waith arall sy’n agos at yr hyn rydych chi am ei wneud
Pwyntiau Dysgu Allweddol
  • Mae cymuned yn allweddol
  • Yr angen i roi’r person ifanc yn ganolbwynt
  • Mae cydweithio a chyswllt wyneb yn wyneb yn allweddol
  • Cyfarfod a chysylltu â phobl ifanc
  • Bod mwy o gymorth ar gael a mwy o bobl sy’n malio am greu cerddoriaeth ac ieuenctid nag oeddwn i’n meddwl – felly mae hynny’n obeithiol iawn 🙂
Pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
  • Hysbysebu a Marchnata – ffyrdd creadigol o fynd ati
  • Beth sydd ar gael i bobl ifanc sydd ar fin peidio â bod yn bobl ifanc
  • Pobl ifanc fel cynulleidfaoedd – nid yw pawb yn gallu neu’n dymuno cymryd rhan yn weithredol ond efallai eu bod yn caru cerddoriaeth
  • Mwy o bobl ifanc yn cynnal y digwyddiadau hyn
  • Niwroamrywiaeth a cherddoriaeth – hygyrchedd – mae clybiau / gigs yn swnllyd – a oes yna ffyrdd mwy cynhwysol o berfformio a hyrwyddo artistiaid sydd ddim yn gallu dilyn y llwybr traddodiadol?

Dysgwch fwy am gyfarfodydd Rhwydwaith Atsain a phryd mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu yma.