Anthem yn lansio Atsain – cronfa newydd i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru

Mae Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales yn cyhoeddi cynlluniau am gronfa newydd sbon. Bydd Atsain yn cefnogi sefydliadau cerdd ac yn mynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Bydd Atsain yn ariannu gwaith i bobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n wynebu rhwystrau yn sgil amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Caiff y gronfa ei chefnogi gan fuddsoddiad Youth Music, diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery, ac adnoddau Anthem drwy nawdd ein sefydlwyr.

Meddai Rhian Hutchings, Prif Weithredwr Anthem: “Mae Cerddoriaeth yn angerdd i lawer o bobl ifanc. Mae’n ffurf ar fynegiant, ac mae’n eu helpu i newid eu hwyliau, lleddfu straen, a hybu eu hunan-barch. A gall hefyd fod yn yrfa – yr hyn maen nhw eisiau ei wneud weddill eu bywyd. Daw pobl ifanc o hyd i gerddoriaeth mewn llawer o ffyrdd – drwy’r ysgol, drwy ffrindiau, yn y clwb ieuenctid lleol, ac ar-lein. Mae gallu dod i gyswllt â phrosiectau cerddorol yn eu hardal leol yn gam cyntaf pwysig iawn.”

Mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn methu â manteisio ar brofiadau cerddorol, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain – cenhedlaeth heb fynediad i gerddoriaeth na chyfle i ddatblygu am eu bod nhw’n digwydd byw yn yr ardal ddaearyddol anghywir, mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol dwys neu ardal wledig anghysbell, neu am eu bod yn cael eu cau allan mewn unrhyw ffordd. Bydd cyllid Anthem yn caniatáu i sefydliadau greu rhaglenni gwaith newydd neu brosiectau mewn cyd-destunau penodol i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu.

Cynhaliodd Anthem ddigwyddiad codi arian yn Portland House gan gynnull ffigurau dylanwadol o fod gwleidyddiaeth, addysg, cerddoriaeth, talent a diwydiant i glywed am bwysigrwydd y cymorth sydd ei angen yn awr i sicrhau gwaddol a thaith gerddorol i bobl ifanc yng Nghymru. Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd cronfa Atsain, mae Anthem yn edrych am gefnogaeth noddwyr newydd er mwyn codi £500,000 i gynorthwyo prosiectau cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Meddai Prif Weithredwr Youth Music, Matt Griffiths: “Mae Cerddoriaeth yn rhoi i bobl ifanc y pŵer i drawsnewid eu bywydau, yn arbennig y rhai sy’n wynebu rhwystrau oherwydd pwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod neu’u sefyllfa ar y pryd. Teimlwn yn gyffrous o fod y rhai cyntaf i fuddsoddi yng nghronfa newydd Atsain, gan gyfrannu £150,000 fel y gall mwy o bobl ifanc greu, dysgu ac ennill arian ym maes cerddoriaeth, diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery. Edrychaf ymlaen at weld ein nawdd yn ysgogi buddsoddwyr eraill i gefnogi cenhadaeth hanfodol Anthem a gwneud yr un peth.” 

Ymhlith y rhai a fu’n perfformio yn y digwyddiad ac yn eirioli dros y gronfa roedd rhai o eiconau mwyaf blaenllaw Cymru – Llysgenhadon Anthem, y delynores sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, Catrin Finch; y DJ a’r cyflwynydd radio, Huw Stephens; ac un o Ymddiriedolwyr Anthem, y pianydd sy’n enedigol o Abertawe ac sy’n artist Welsh A-List, Ify Iwobi. Cafwyd perfformiadau hefyd gan gerddorion ifanc addawol sy’n aelodau o Fforwm Ieuenctid Anthem a ffurfiwyd yn 2020.

Meddai Cadeirydd Anthem, David Alston MBE, “Hoffwn ddiolch i Youth Music am eu hymrwymiad i ddarparu arian cychwynnol i Gronfa Atsain yma yng Nghymru. Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn arbennig o anodd i bobl ifanc a cherddorion ifanc ar ba bynnag gam. Rydym ni’n gwybod y bydd Atsain yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r hyn sy’n bosibl i bobl ifanc yng Nghymru. Dylai cerddoriaeth fod yno i bob person ifanc, yn arbennig yng Nghymru – gwlad sydd mor falch o’i threftadaeth gerddorol. Mae Anthem yma i sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Dyma’r prosiect mawr cyntaf i gael ei gyhoeddi gan Anthem. Mae rhagor o gynlluniau uchelgeisiol ar y gweill, gan gynnwys lansio porth digidol newydd yn 2022 i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llwybr at gerddoriaeth.