Ceisiadau i Atsain ar agor

cronfa newydd i fynd i'r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru

Mae ceisiadau bellach yn cael eu derbyn i Atsain, cronfa gerddoriaeth newydd sbon gan Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales a fydd yn cynorthwyo sefydliadau cerddoriaeth ac yn mynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Bydd Atsain yn ariannu gwaith i bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn cerddoriaeth ac sy’n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Caiff y gronfa ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music, drwy chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, ac adnoddau Anthem gyda chymorth gan noddwyr sefydlu a Llywodraeth Cymru.

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £10,000 i’w helpu i gyflwyno prosiectau cerddoriaeth penodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, i’w helpu i fynd i’r afael â rhwystrau penodol i ymwneud â cherddoriaeth.

Rydym yn gwybod y gall cerddoriaeth fod yn arf pwerus dros ben i bobl ifanc, ac mae mynediad at gerddoriaeth yn golygu cymaint mwy na dim ond chwarae offeryn. Bydd Cronfa Atsain yn cefnogi prosiectau cerddoriaeth i gysylltu â hyd yn oed mwy o bobl ifanc a'u helpu i fagu hyder, dysgu cydweithio, archwilio eu creadigrwydd a dod o hyd i lwybrau at yrfaoedd posibl yn y dyfodol. Diolch o galon i Youth Music a Llywodraeth Cymru am gefnogi Atsain.
Rhian Hutchings
Prif Weithredwr Anthem
Mae cerddoriaeth yn rhoi'r pŵer i bobl ifanc drawsnewid eu bywydau, yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau oherwydd pwy ydyn nhw, o ble maen nhw'n dod neu'r hyn maen nhw'n ei wynebu. Rydyn ni'n teimlo'n hynod gyffrous ynglŷn â’r ffaith mai ni yw'r buddsoddwyr cyntaf yng nghronfa newydd Atsain gan Anthem fel y gall rhagor o bobl ifanc greu, dysgu ac ennill bywoliaeth mewn cerddoriaeth, diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.
Matt Griffiths
Prif Swyddog Gweithredol Youth Music

Mae pobl ifanc yn greiddiol i waith Anthem. Mae cerddoriaeth yn angerdd, yn fath o fynegiant, yn helpu i newid eu hwyliau, yn lleddfu straen, ac yn adeiladu hunan-barch. Gall hefyd fod yn yrfa – y peth maen nhw eisiau ei wneud am weddill eu hoes. Mae pobl ifanc yn dod o hyd i gerddoriaeth mewn llawer o ffordd – drwy’r ysgol, drwy ffrindiau, yn y clwb ieuenctid lleol, ar-lein. Mae cael bod yn rhan o brosiectau cerddoriaeth yn eu hardal leol yn gam cyntaf pwysig.

Mae yna lawer o bobl ifanc yng Nghymru sy’n methu â derbyn profiadau cerddoriaeth, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain – cenhedlaeth heb fynediad at gerddoriaeth na chyfle i ddatblygu os ydyn nhw’n digwydd bod yn yr ardal ddaearyddol anghywir, yn byw mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol uchel neu arwahanrwydd gwledig, neu’n cael eu cau allan mewn unrhyw ffordd. Bydd cyllid Anthem yn caniatáu i sefydliadau greu rhaglenni gwaith newydd neu greu prosiectau mewn cyd-destunau penodol i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu.

Mae gwneud cais i gronfa Atsain yn gyfle gwych i unrhyw brosiect cerddoriaeth i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau yn sgil amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Rwy'n hynod o hapus i weld bod yna lwyfan a chyfle mor anhygoel ar gael erbyn hyn. Rwy'n edrych ymlaen at helpu Anthem i ledaenu'r gair am y gronfa a gweld effaith Atsain dros y blynyddoedd nesaf.
Kizzy Crawford
Canwr-gyfansoddwr a Llysgennad Anthem
Rydym yn ymwybodol y gall fod yna lawer o rwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc. Rydym yn awyddus i gael ceisiadau sy'n mynd i'r afael â mynediad ar gyfer pobl ifanc anabl, darparu ar gyfer pobl ifanc o gymunedau sy'n fwyafrifol yn fyd-eang a'u grymuso, a chefnogi pobl ifanc sy'n profi heriau iechyd.
Rebecca Rickard
Rheolwr Rhaglen Atsain

Mae’r cylch cyntaf o gyllid Atsain ar agor tan 4 Ebrill 2022. Dysgwch fwy am sut i wneud cais yma.

Bydd dwy weminar ar-lein ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais, er mwyn cael gwybod mwy am y gronfa a’r broses. Bydd yn gyfle i drafod a yw eich prosiect penodol yn gymwys a sut i gyflwyno cais llwyddiannus. Caiff y gweminarau ar gyfer darpar ymgeiswyr eu cynnal ar 17 Mawrth am 10am-11am a 6pm-7pm. I archebu eich lle am ddim, cofrestrwch drwy eventbrite ar ein gwefan fan yma: https://www.anthem.wales/cy/gwneud-cais-am-ariannu/

Mae Anthem wedi sicrhau’r £150,000 cychwynnol sydd ei angen i lansio Cronfa Atsain, ond, er mwyn sicrhau bod y gronfa yn gynaliadwy, mae Anthem bellach yn edrych am gymorth ychwanegol gan noddwyr i godi £500,000 fel y gall prosiectau cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru gael eu cefnogi dros y tair blynedd nesaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Noddwr Sefydlu a galluogi i bobl ifanc yng Nghymru gael mynediad i gerddoriaeth, cysylltwch â Phrif Swyddog Gweithredol Anthem Rhian Hutchings: rhian.hutchings@anthem.wales