Cadwch y Dyddiad: Anthem yn mynd yn fyw ar Instagram!

Ella Pearson, aelod o’r Fforwm Ieuenctid, fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf ac yn egluro sut y gallwch chi gyfrannu:

Ar ddydd Mercher 24 Mawrth am 6pm, mi fydda i a fy nghyd-fyfyriwr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Tayla-Leigh Payne, yn dod at ein gilydd mewn trafodaeth fyw gyffrous ar gyfrif Instagram Anthem (@anthemcymru). Dyma’r holl fanylion sydd angen i chi eu gwybod cyn y digwyddiad …

Ers dechrau Chwefror, rydw i wedi bod yn cydweithio â Fforwm Ieuenctid Anthem i ddatblygu eu brand, eu cysylltiadau a’r cynlluniau ar gyfer eu dyfodol. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i siapio dyfodol cerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn helpu i gyflawni gweledigaeth ddyrchafol Anthem o ‘Gymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc’.

Yn dilyn chwe wythnos o gyfarfodydd ysbrydoledig â’r tîm, mae Tayla-Leigh a minnau wrth ein boddau i allu cyhoeddi y byddwn ni’n cynnal ein digwyddiad ein hunain ar Instagram, yn fyw o gyfrif Anthem. Bydd ein sgwrs yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o bynciau pwysig; o’r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gydag Anthem hyd yma, i’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc o fewn y diwydiant cerddoriaeth ar hyn o bryd.

O ddydd Mercher 17 Mawrth tan ein ‘Insta Byw’ ar ddydd Mercher 24 Mawrth am 6pm, bydd Anthem yn rhoi’r cyfle i ni gymryd drosodd eu cyfrif Instagram trwy’r hashnod #AnthemYouthTakeover

Os nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn digwyddiad byw ar Instagram o’r blaen, yr oll sydd ei angen arnoch chi yw cyfrif. Bydd y sesiwn fyw yn ymddangos ar dop y dudalen gartref ac fe fydd gan amlaf, pan fydd wedi cychwyn, yn ymddangos fel y Stori gyntaf i chi glicio arni ag ymuno â hi.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi rhagflas o ddigwyddiad Byw arall y bydd Tayla-Leigh a minnau yn ei arwain fel rhan o Summit, a drefnir gan Bannau; uwchgynhadledd ar y diwydiant cerddoriaeth wedi’i drefnu gan bobl ifanc i bobl ifanc, ac a fydd yn digwydd yn rhithiol ar 9, 10, 11 Ebrill. Bydd y gynhadledd hynod gyffrous hon yn agoriad llygad i bobl ifanc, gan gynnig cyfleoedd i glywed gan gerddorion ifanc llwyddiannus a thiwnio i mewn i sgyrsiau panel difyr. Bydd hefyd yn eu galluogi i archwilio’r elfennau llesiant sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth, a gwrando ar restrau chwarae sydd wedi’u curadu’n arbennig.

Wythnos cyn Summit byddwn yn cymryd drosodd eto, yn gofyn cwestiynau i chi, yn cynnal poliau piniwn a gweithgareddau difyr eraill a fydd yn cael eu trafod yn ein ‘Summit Byw’; mae’n saff o fod yn glamp o ddigwyddiad! I gofrestru eich diddordeb yn Summit, cyrchwch http://www.beacons.cymru

Yn y cyfamser, cadwch lygad am ein cynnwys ar holl gyfryngau cymdeithasol Anthem wrth i ni baratoi at ein digwyddiad byw cyntaf ar Instagram. Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Gan Ella Pearson

Instagram: @ellaa.pea

Twitter: @ellapeaoboe

Post a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *