Beth weithiodd, beth na weithiodd - rhannu llwyddiannau a dysgu o brosiectau cerddoriaeth gyda phobl ifanc

Dydd Iau 18 Mai, 10yb - 12.30yp

Mae rhwydwaith ymarfer Atsain yn rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr.  

 Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, Anthem Cronfa Gerdd Cymru, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n profi rhwystrau drwy amgylchiadau bywyd fel materion daearyddol, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Fodd bynnag, NID oes angen i sefydliadau gael eu hariannu gan Atsain i ymuno â’r rhwydwaith.  

Diben y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a meithrin yr arfer o gydweithio ledled y sector cyfan er mwyn sicrhau newid strategol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithwir bedair gwaith y flwyddyn, heb gost i’r cyfranogwyr.  

Cynhelir y cyfarfod nesaf rhwng 10yb a 12.30yp ddydd Iau 18 Mai drwy Zoom a’r thema yw beth weithiodd, beth na weithiodd – rhannu llwyddiannau a dysgu o brosiectau cerddoriaeth gyda phobl ifanc.

.