Cronfa Atsain yn Ailagor ar gyfer Ail Gylch

Chawlu rhwystrau i gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru

Mae Anthem. Cronfa Gerdd Cymru wedi cyhoeddi eu bod bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ail gylch Cronfa Atsain, sy’n cefnogi mudiadau cerddoriaeth ieuenctid i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Lansiwyd Cronfa Atsain yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2021, ac mae wedi dyfarnu dros £120,000 i 15 o sefydliadau cerdd, gan weithio ar y cyd â dros 2000 o bobl ifanc ledled Cymru. Yn ogystal, crëwyd rhwydwaith o’r holl fuddiolwyr i hwyluso fforymau i rannu arferion gorau a hybu’r arfer o gydweithio, gan sicrhau y gall pobl ifanc fanteisio’n llawn ar gerddoriaeth.

Dywedodd Rhian Hutchings, Prif Weithredwr Anthem:

“Rydyn ni eisoes yn gweld pobl ifanc yn cysylltu gyda cherddoriaeth mewn ffyrdd newydd o ganlyniad i brosiectau a ariannwyd gan gylch cyntaf Atsain. Mae’r sawl a dderbyniodd ein grantiau yn gweithio gyda phobl ifanc o bob oed, gan eu helpu i fagu hyder, archwilio eu creadigrwydd a dod o hyd i lwybrau at yrfaoedd posibl yn y dyfodol.  Rydym wrth ein boddau o allu cynnig cymorth i fwy byth o bobl ifanc yn yr ail gylch hwn o’r gronfa. Diolch o galon i’r cyllidwyr, Youth Music a Llywodraeth Cymru, am barhau i gefnogi Atsain.”

O 1 Medi 2022 ymlaen, bydd modd i sefydliadau cymwys wneud cais am hyd at £10,000 er mwyn eu helpu i gyflwyno prosiectau cerdd penodol i bobl ifanc yng Nghymru, gan eu cynorthwyo i fynd i’r afael â rhwystrau penodol rhag ymgysylltu drwy amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir.

Dywedodd Matt Griffiths, Prif Weithredwr Youth Music: 

“Mae’n wych gweld Atsain eisoes yn gwneud mynediad yn fwy cydradd i bobl ifanc yng Nghymru allu creu a dysgu cerddoriaeth ac ennill incwm drwy gerddoriaeth. Gobeithio y bydd mwy o brosiectau arloesol yn cael eu hysbrydoli i wneud cais am arian yn y cylch nesaf.”

Mae Anthem yn credu bod cerddoriaeth yn ffordd bwerus i helpu pobl ifanc i ddatblygu hunan-barch, gwneud cysylltiadau ag eraill a lleddfu straen. Gall fod yn yrfa hefyd. Fodd bynnag, mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn methu â chael profiadau cerddorol am eu bod yn byw yn yr ardal ddaearyddol anghywir, neu mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol uchel, neu’n cael eu cau allan ym mha bynnag ffurf. Mae cyllid Anthem yn caniatáu i sefydliadau greu prosiectau newydd mewn cyd-destunau penodol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.

Meddai Rebecca Rickard, Rheolwr Rhaglen Atsain:

“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn i weld sut bydd y sawl sy’n derbyn ein grantiau yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau o sectorau eraill a all eu helpu i ddarparu’r budd mwyaf i bobl ifanc. Rydyn ni’n croesawu partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, ond hefyd ieuenctid, cymuned, anabledd, iaith, tlodi, hil a mwy. Drwy bartneriaethau y mae sefydliadau’n cael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, a sut i’w chwalu.”

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar-lein, ewch i anthem.wales

Rhaid derbyn ceisiadau erbyn Hydref 3 2022. I gael ateb i bob cwestiwn am Gronfa Atsain, ymunwch â gweminar Anthem am 10am ar 13 Medi – cofrestrwch fan yma