Rhwydwaith Ymarfer Atsain

Thema: Gwerthuso prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc a cymhorthfa ariannu cymar-i-gymar

Dydd Iau 17 Tachwedd 2022 10:00-12.30pm drwy Zoom


Cliciwch i Gofrestru

Mae rhwydwaith ymarfer Atsain yn rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr.   Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, Anthem Cronfa Gerdd Cymru, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n profi rhwystrau drwy amgylchiadau bywyd fel materion daearyddol, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Fodd bynnag, NID oes angen i sefydliadau gael eu hariannu gan Atsain i ymuno â’r rhwydwaith. Diben y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a meithrin yr arfer o gydweithio ledled y sector cyfan er mwyn sicrhau newid strategol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rhithwir bedair gwaith y flwyddyn, heb gost i’r cyfranogwyr. Themau: Gwerthuso prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc a cymhorthfa ariannu cymar-i-gymar. Cynhelir y cyfarfod nesaf rhwng 10am a 12.30 pm ddydd Iau 17 Tachwedd drwy Zoom. Bydd dehongliad ar gael yn Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad penodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Rheolwr Rhaglen Anthem, Rebecca Rickard, ar rebecca.rickard@anthem.cymruCaiff Atsain ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music, diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, ac adnoddau Anthem gyda chefnogaeth gan noddwyr sefydlu a Llywodraeth Cymru.