Ceisio Drysordydd am Anthem

Mae Anthem yn dymuno penodi Ymddiriedolwr Gyfarwyddwr i fod yn Drysorydd i’r elusen. Rydym yn edrych am rywun sy’n rhannu ein hangerdd tuag at gerddoriaeth, pobl ifanc a Chymru, ac a all wneud cyfraniad mawr i elusen newydd a deinamig sy’n ymdrechu i greu effaith go iawn i bobl ifanc yng Nghymru. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae Anthem yn sefydliad cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn sydd â diddordeb.

I wneud cais am y rôl, anfonwch gopi o’ch CV a llythyr eglurhaol i David Alston, Cadeirydd Anthem – chair@anthem.wales – yn esbonio sut rydych yn cyflawni’r meini prawf dethol a pham eich bod yn dymuno ymuno â thîm Anthem.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 31ain Mai 2021.

Caiff dyddiadau’r cyfweliadau i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cytuno fesul ymgeisydd.

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig eraill i’ch galluogi i ymgeisio am y rôl hon, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i rhian.hutchings@anthem.wales