Rhoi lle creiddiol i bobl ifanc - Rhian Hutchings ar ei 6 mis cyntaf yn Anthem

Ym mis Hydref 2020 cychwynnais yn rôl Prif Weithredwr Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales. Sefydliad newydd yw Anthem a grëwyd i ddod â newid trawsffurfiol i bobl ifanc a’u cerddoriaeth yng Nghymru. Gweledigaeth Anthem yw Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pobl bywyd ifanc. I wireddu hyn, bydd Anthem yn helpu i roi mynediad i gerddoriaeth, yn creu cyfleoedd newydd ar draws genres a chymunedau, ac yn meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf tuag at yrfaoedd cerddorol llwyddiannus. 

Mae hon yn agenda fawr i sefydliad newydd, ac yn fy chwe mis cyntaf yn y swydd rwyf wedi bod yn braenaru’r tir a siarad gyda chymaint o bobl â phosib am ein huchelgais. Edrychais o gwmpas i weld pa wybodaeth sydd eisoes yn y sector ynglŷn â cherddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru – dim llawer – ac edrychais ar adroddiadau allweddol o Loegr wedi’u cyhoeddi gan Youth Music, ISM a UK Music. Roedd Anthem eisoes wedi cynnal rhywfaint o ymchwil, gan gychwyn ag ymarferiad mapio’r sector ac ymgynghoriad ieuenctid a gynhaliwyd yn 2019 a 2020

Rhoddodd ein hymgynghoriad ieuenctid cychwynnol ddealltwriaeth wych i ni o brofiadau pobl ifanc o greu a dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Ond i ddenu sylw a darbwyllo rhoddwyr, llunwyr polisi ac eraill, roeddem yn gwybod bod angen i ni roi fwy o lais iddyn nhw’n uniongyrchol. Yn gynnar yn 2021 galwom am bobl ifanc 18-25 oed i ymuno a Fforwm Ieuenctid Anthem, a daethom â grŵp angerddol o gerddorion a rheolwyr cerddoriaeth ifanc ynghyd mewn cyfarfodydd ym mis Chwefror a mis Mawrth. Fe wnaethon nhw ein helpu i greu brand newydd drwy weithio gyda Monumental Marketing, a chreu dwy ffilm gyda Hushland Creative, i rannu storïau am eu profiadau o ddysgu a chreu cerddoriaeth yng Nghymru er mwyn ein helpu i lansio ein hymgyrch codi arian. 

Nid ar ein pen ein hunain y gwnaethom ni ymgymryd â’r broses hon. Daethom â phartneriaeth o sefydliadau cerdd yng Nghymru ynghyd o amgylch prosiect y Fforwm Ieuenctid. Roedd y bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau llawr gwlad fel Sound Progressions a Larynx Entertainment, sefydliadau addysg uwch gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru, a sefydliadau datblygu fel Tŷ Cerdd a TRAC Cymru. Roedd hefyd yn rhychwantu genres gan ddod â Phrosiect Forté a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru at ei gilydd. Cydweithio yw un o werthoedd allweddol Anthem ac mae’n arbennig o bwysig i ni bod ein gwaith strategol bob amser yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â’r sector. Mae’r dull hwn yn helpu i gryfhau Anthem a gwaith cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.

Mae gweithio’n agos â’r grŵp gwych yma o bobl ifanc yn gosod y cyfeiriad ar gyfer dyfodol Anthem. Roedd rhoi’r broses o ailfrandio yn agored i’r Fforwm Ieuenctid yn fentrus mewn rhai ffyrdd – roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn creu gofod i wrando go iawn ar eu cyfraniad, a gweithredu ar hynny. Ond mewn ffordd arall, roedd dechrau fel yma hefyd yn symleiddio ein gwaith. Roedd gennym gyswllt uniongyrchol â’n buddiolwyr ac nid oedd yn rhaid i ni ddyfalu beth allai fod ei angen arnyn nhw ac i beth fydden nhw’n ymateb, am eu bod nhw’n dweud wrthym ni’n uniongyrchol. 

Roedd yn berthynas symbiotig. Roedd aelodau’r Fforwm Ieuenctid hefyd yn meithrin sgiliau newydd wrth gael bod yn rhan o’r gwaith brandio. Roedd hefyd yn bwysig ein bod yn eu talu am eu hamser, a hefyd am waith creadigol ychwanegol i’n helpu i gyfathrebu.

“Roedd y broses gyfan yn taflu cymaint o oleuni ar bethau. Roeddwn i’n dwlu ar sut nad oedd tîm Monumental yn gorgymhlethu’r broses â gormod o gyflwyniadau PowerPoint a gwybodaeth. Yn hytrach, roedden nhw’n rhoi’r awenau yn ein dwylo ni, ac yn gadael i drafodaeth a chydweithio ddiffinio’r canlyniadau.” Gabriel Bernal, artist EDM a myfyriwr Busnes Cerddoriaeth yn PDC

Roedden nhw’n elwa o weithio gyda’n hymgynghorydd codi arian llawrydd ac o ddadansoddi ffilmiau gan elusennau eraill. Fe wnaethon nhw ddysgu sut i saernïo neges ynglŷn â pham fod cerddoriaeth yn bwysig iddyn nhw. A gwnaed hyn i gyd dros Zoom, am fod cyfyngiadau COVID 19 yn ein hatal rhag cwrdd.

“Os gofynnwch chi i gerddor pam eu bod nhw’n dwlu ar gerddoriaeth, mwy na thebyg y cewch chi ymateb tebyg i ‘Dwi ddim yn siŵr…dwi jyst yn dwlu arno’! Mae’n anodd mynegi’r angerdd dwys, tanllyd sydd gan gerddorion tuag at eu crefft, ac felly roedd yn anodd i ni greu darnau sain a fyddai’n tynnu ar dannau calonnau’r gynulleidfa a’u hysgogi i weithredu. Ond roedd hyn i gyd yn rhan o’r broses ddysgu, oherwydd yn sesiwn nesaf Anthem fe wnaethon ni rywfaint o waith wedi’i dargedu mewn grwpiau llai ar sut i fynegi ein meddyliau a’n teimladau am gerddoriaeth a phynciau cysylltiedig. Roedd ffrwyth y llafur yma’n llawn ysbrydoliaeth. Drwy wneud hyn, roedd modd i ni fynegi ein hunain yn llyfnach, a chafwyd sawl sgwrs llawn emosiwn.” Ella Pearson, Oböydd a myfyriwr yn CBCDC

Cafodd rhai o aelodau’r Fforwm Ieuenctid gyfle hefyd i gymryd rhan yn Summit – cynhadledd y diwydiant cerddoriaeth i bobl ifanc gan bobl ifanc wedi’i chynnal gan Beacons Cymru  . Ffrydiwyd y digwyddiad yn fyw dros benwythnos ac roedd yn cynnwys perfformiadau, trafodaethau, awgrymiadau a chyngor, a ffocws ar wahanol feysydd yn y diwydiant. 

Cewch ddarllen mwy o flogiau Ella a Gabriel am y broses o weithio gydag Anthem a gweld rhai o’r fideos a wnaed ar gyfer Summit yma: www.anthem.wales/youth-forum .

Mae Cerddoriaeth yn rym creadigol nerthol i bobl ifanc sy’n bwydo hunanfynegiant, datblygiad personol a lles. Mae’n hanfodol bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu pob agwedd ar eu hangerdd at gerddoriaeth. Mae’r camau nesaf i Anthem yn rhai cyffrous. Yn dilyn sgyrsiau angerddol gyda’n Fforwm Ieuenctid ynglŷn â beth maen nhw eisiau ei weld yn newid, byddwn yn edrych am gymorth ac yn adeiladu partneriaethau i ddechrau newid pethau.